Capel Maesyneuadd (A), Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 21: | Llinell 21: | ||
Erbyn 1906, gan nad oedd Maesyneuadd (A) (sef capel yr achos Cymraeg) yn dal ond rhyw 500, roedd wedi mynd yn rhy fach. Fe'i dymchwelwyd a chodi Maesyneuadd (A) mwy, yn dal tua 950. Saif y capel ar y lôn allan o'r pentref heibio'r eglwys a hwn yw'r unig achos crefyddol (o 5) yn y pentref sy'n dal yn agored heddiw (yn y Festri). Caewyd Bethlehem (A - Saesneg), [[Capel Gosen (MC), Trefor|Capel Gosen (MC)]], [[Capel Bethania (B), Trefor)|Capel Bethania (B)]] ac [[Eglwys San Siôr, Trefor|Eglwys San Sior]] yn ystod y 15 mlynedd diwethaf - a ni fentrodd y Wesleaid erioed godi capel yn y pentref, er i'r enwad hwnnw dueddu fod yn gryf mewn rhai ardaloedd chwarelyddol eraill. | Erbyn 1906, gan nad oedd Maesyneuadd (A) (sef capel yr achos Cymraeg) yn dal ond rhyw 500, roedd wedi mynd yn rhy fach. Fe'i dymchwelwyd a chodi Maesyneuadd (A) mwy, yn dal tua 950. Saif y capel ar y lôn allan o'r pentref heibio'r eglwys a hwn yw'r unig achos crefyddol (o 5) yn y pentref sy'n dal yn agored heddiw (yn y Festri). Caewyd Bethlehem (A - Saesneg), [[Capel Gosen (MC), Trefor|Capel Gosen (MC)]], [[Capel Bethania (B), Trefor)|Capel Bethania (B)]] ac [[Eglwys San Siôr, Trefor|Eglwys San Sior]] yn ystod y 15 mlynedd diwethaf - a ni fentrodd y Wesleaid erioed godi capel yn y pentref, er i'r enwad hwnnw dueddu fod yn gryf mewn rhai ardaloedd chwarelyddol eraill. | ||
[[Categori:Crefydd]] | |||
[[ | |||
[[Categori:Capeli]] | [[Categori:Capeli]] |
Fersiwn yn ôl 10:37, 13 Chwefror 2020
Achos a chapel annibynnol ym mhentref Trefor yw Maesyneuadd a enwyd ar ôl y fferm gyfagos lle sefydlwyd yr achos yn y lle cyntaf. Yno, yng nghartref Owen a Sidney Jones y bu Annibynwyr yr ardal yn addoli am gyfnod o ddeunaw mlynedd (1794-1812) ac yn ystod y cyfnod hwn ni bu ond rhyw saith neu wyth aelod yno. Cofrestrwyd yr achos ym 1794. Sylfaenydd yr achos oedd merch ifanc y fferm, Sidney Owen, a gafodd droedigaeth pan yn gwrando ar John Griffith, gweinidog Pen-dref (A), Caernarfon, yn pregethu tua 1793-94. Bu John Griffith, ynghyd â William Hughes, Saron, o gymorth mawr i'r achos gwan hwn yn ystod ei flynyddoedd cyntaf.
Gofynnodd y Sidney ifanc i'w thad, John Owen, am ganiatâd i gynnal oedfaon ar aelwyd ei chartref. Fe'i cafodd. Priododd Sidney tua throad y ganrif ag Owen Jones, brodor o blwyf Denio yn Llŷn. Tua 1798 sefydlwyd Ysgol Sul fechan yma o ryw wyth aelod.
Yr aelodau yn ystod y cyfnod ar aelwyd fferm Maesyneuadd oedd : Owen a Sidney Jones, Maesyneuadd; William ac Eleanor Griffith, Gapas Lwyd; William ac Elinor Price, Tynygors; John a Lowri Roberts, Lleiniau Hirion (Cae'r Foty o 1801).
Yn ystod y blynyddoedd cynnar hyn, arferai Owen a Sidney gerdded i oedfaon yng nghapel Pen-dref, Caernarfon, taith chwe milltir ar hugain nôl a blaen.
Dyna'r ychydig a wyddom am flynyddoedd cynnar achos ymneilltuol cyntaf Trefor.
Ym 1812, fe adeiladwyd y capel cyntaf ar dir Maesyneuadd a'i alw'n swyddogol yn Bethlehem (A), er Maesyneuadd neu'r Capel Bach oedd o i bawb ar lafar.
Ym 1874, agorwyd capel mwy gan yr Annibynwyr rhyw ganllath i lawr y lôn a'i enwi'n Maesyneuadd (A).
Ym 1876, fe drosglwyddwyd Bethlehem i Saeson o chwarelwyr (Inglish Côs) oedd wedi mudo yma o Swydd Caerlŷr yn bennaf. Parhai yn achos Annibynnol (English Cong. oedd ar yr arwydd ger y giât). Bellach, roedd yma ddau achos Annibynnol - un mawr Cymraeg ac un bach, bach Saesneg.
Erbyn 1906, gan nad oedd Maesyneuadd (A) (sef capel yr achos Cymraeg) yn dal ond rhyw 500, roedd wedi mynd yn rhy fach. Fe'i dymchwelwyd a chodi Maesyneuadd (A) mwy, yn dal tua 950. Saif y capel ar y lôn allan o'r pentref heibio'r eglwys a hwn yw'r unig achos crefyddol (o 5) yn y pentref sy'n dal yn agored heddiw (yn y Festri). Caewyd Bethlehem (A - Saesneg), Capel Gosen (MC), Capel Bethania (B) ac Eglwys San Sior yn ystod y 15 mlynedd diwethaf - a ni fentrodd y Wesleaid erioed godi capel yn y pentref, er i'r enwad hwnnw dueddu fod yn gryf mewn rhai ardaloedd chwarelyddol eraill.