Robert William Jones (Gosenian): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Geraint (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Hen lanc annwyl iawn oedd R.W.Jones, Nant Bach, Trefor, yn ffermwr, blaenor Methodist yng nghapel Gosen (MC), ac yn ysgrifennydd Seindorf Trefor ar droad...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Hen lanc annwyl iawn oedd R.W.Jones, Nant Bach, Trefor, yn ffermwr, blaenor Methodist yng nghapel Gosen (MC), ac yn ysgrifennydd Seindorf Trefor ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu'n allweddol ac yn amlwg iawn yn y | Hen lanc annwyl iawn oedd '''R.W. Jones''', Nant Bach, [[Trefor]], (m.1911), yn ffermwr, blaenor Methodist yng nghapel [[Capel Gosen (MC), Trefor|Gosen (MC)]], ac yn ysgrifennydd [[Seindorf Trefor]] ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu'n allweddol ac yn amlwg iawn yn y symudiad i gael offerynnau newydd i'r Band ym 1897. | ||
Bu'n flaenor, ysgrifennydd ac athro ysgol Sul yng Ngosen, a dengys ei enw barddol ''Gosenian'' pa mor bwysig yn ei olwg oedd yr achos yno. | Bu'n flaenor, ysgrifennydd ac athro ysgol Sul yng Ngosen, a dengys ei enw barddol ''Gosenian'' pa mor bwysig yn ei olwg oedd yr achos yno. | ||
O ganlyniad i ddrylliad alaethus y ''Cyprian'' ar arfordir Llŷn ym 1881, a methiant Bad Achub Portin- | O ganlyniad i ddrylliad alaethus y ''Cyprian'' ar arfordir Llŷn ym 1881, a methiant Bad Achub Portin-lläen i fynd allan i'r môr ar y pryd, penderfynwyd cael ail gwch achub ar yr arfordir peryglus rhwng Enlli a [[Dinas Dinlle]]. | ||
Ym 1883 cafwyd gorsaf bad achub yn harbwr Trefor i gartrefu'r cwch hwnnw ac fe'i galwyd yn ''Cyprian'' am resymau amlwg. Ddiwedd 1883 fe'i galwyd allan ar storm fawr i geisio achub criw y llong, ''Lady Hinks'', a ddrylliwyd ar drwyn y Clogwyn yn Nhrefor. Pan yn rhwyfo rownd trwyn y Cei fe ddymchwelwyd y bad, ond fe achubwyd y criw, a hefyd, trwy ddulliau dewr eraill, holl griw y ''Lady Hinks''. Dyma gerdd Gosenian i Fad Achub y ''Cyprian'', Trefor. | Ym 1883 cafwyd gorsaf bad achub yn harbwr Trefor i gartrefu'r cwch hwnnw ac fe'i galwyd yn ''Cyprian'' am resymau amlwg. Ddiwedd 1883 fe'i galwyd allan ar storm fawr i geisio achub criw y llong, ''Lady Hinks'', a ddrylliwyd ar [[Trwyn y tâl|drwyn y Clogwyn]] yn Nhrefor. Pan yn rhwyfo rownd trwyn y Cei fe ddymchwelwyd y bad, ond fe achubwyd y criw, a hefyd, trwy ddulliau dewr eraill, holl griw y ''Lady Hinks''. Dyma gerdd Gosenian i Fad Achub y ''Cyprian'', Trefor. | ||
Llinell 63: | Llinell 63: | ||
Cael ei ladd mewn damwain wnaeth Gosenian yn haf 1911, pan syrthiodd o ben llwyth gwair yng nghae Llwynaethnen. | Cael ei ladd mewn damwain wnaeth Gosenian yn haf 1911, pan syrthiodd o ben llwyth gwair yng nghae Llwynaethnen. | ||
[[Categori:Pobl]] | |||
[[Categori:Amaethwyr]] | |||
[[Categori:Beirdd]] |
Fersiwn yn ôl 09:27, 12 Chwefror 2020
Hen lanc annwyl iawn oedd R.W. Jones, Nant Bach, Trefor, (m.1911), yn ffermwr, blaenor Methodist yng nghapel Gosen (MC), ac yn ysgrifennydd Seindorf Trefor ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu'n allweddol ac yn amlwg iawn yn y symudiad i gael offerynnau newydd i'r Band ym 1897.
Bu'n flaenor, ysgrifennydd ac athro ysgol Sul yng Ngosen, a dengys ei enw barddol Gosenian pa mor bwysig yn ei olwg oedd yr achos yno.
O ganlyniad i ddrylliad alaethus y Cyprian ar arfordir Llŷn ym 1881, a methiant Bad Achub Portin-lläen i fynd allan i'r môr ar y pryd, penderfynwyd cael ail gwch achub ar yr arfordir peryglus rhwng Enlli a Dinas Dinlle.
Ym 1883 cafwyd gorsaf bad achub yn harbwr Trefor i gartrefu'r cwch hwnnw ac fe'i galwyd yn Cyprian am resymau amlwg. Ddiwedd 1883 fe'i galwyd allan ar storm fawr i geisio achub criw y llong, Lady Hinks, a ddrylliwyd ar drwyn y Clogwyn yn Nhrefor. Pan yn rhwyfo rownd trwyn y Cei fe ddymchwelwyd y bad, ond fe achubwyd y criw, a hefyd, trwy ddulliau dewr eraill, holl griw y Lady Hinks. Dyma gerdd Gosenian i Fad Achub y Cyprian, Trefor.
Y Bywyd-fad
Pan y byddo'r mellt yn gwibio
Ac y rhua'r daran gref ;
Pan y byddo'r môr cynhyrfus
Yn ymgodi hyd y nef ;
Parod ydwyt ti'r Bywyd-fad
I wynebu'r tonnau cryf,
A thrwy ganol y rhyferthwy
Yr ywthi di yn hyf.
Pan y byddo'r morwr druan
Bron a suddo yn y lli,
Llama'i galon mewn llawenydd
Pan y gwelo ef tydi ;
Yr wyt ti, Fywyd-fad tirion
Megis angel glân a gwiw,
Gyda neges yn dy fynwes
I rai sydd â'u bron yn friw.
Caru gweini ar blant dynion
Yr wyt ti Fywyd-fad cu,
Gwneud negesau o drugaredd
Yw'th uchelgais bennaf di ;
Y mae hyn yn gwneud dy enw
Yn or-annwyl drwy bob gwlad,
Ac fe genir fyth dy glodydd
Gan ddynolryw mewn mwynhad.
Cael ei ladd mewn damwain wnaeth Gosenian yn haf 1911, pan syrthiodd o ben llwyth gwair yng nghae Llwynaethnen.