R.P. Evans: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae enw '''Robert Pritchard Evans''' (1884-1917) yn adnabyddus fel cyfaill i'r bardd [[ | Mae enw '''Robert Pritchard Evans''' (1884-1917) yn adnabyddus fel cyfaill i'r bardd [[Robert Williams Parry]] ac yn wrthrych rhai o'i englynion godidocaf. Fe'i ganwyd ym 1884. | ||
Daeth R.P. Evans yn athro yn [[Ysgol Gynradd Trefor]] ar y 4ydd o Orffennaf, 1909, a chyfeirid ato gan bawb yn [[Trefor|Nhrefor]] fel ''Ifas Llecheiddior'', oherwydd mai mab Melin Llecheiddior, Bryncir, ydoedd. Ei rieni oedd William ac Elizabeth Evans. Enillodd radd B.A. mewn Saesneg ym Mangor ym 1907, ac roedd yn gyd-fyfyriwr â Williams Parry yno. Ymadawodd ag ysgol Trefor ddiwedd Ebrill 1912, wedi cwta dair blynedd, ac aeth i ysgol Llanfairfechan. | Daeth R.P. Evans yn athro yn [[Ysgol Gynradd Trefor]] ar y 4ydd o Orffennaf, 1909, a chyfeirid ato gan bawb yn [[Trefor|Nhrefor]] fel ''Ifas Llecheiddior'', oherwydd mai mab Melin Llecheiddior, Bryncir, ydoedd. Ei rieni oedd William ac Elizabeth Evans. Enillodd radd B.A. mewn Saesneg ym Mangor ym 1907, ac roedd yn gyd-fyfyriwr â Williams Parry yno. Ymadawodd ag ysgol Trefor ddiwedd Ebrill 1912, wedi cwta dair blynedd, ac aeth i ysgol Llanfairfechan. |
Fersiwn yn ôl 16:52, 11 Chwefror 2020
Mae enw Robert Pritchard Evans (1884-1917) yn adnabyddus fel cyfaill i'r bardd Robert Williams Parry ac yn wrthrych rhai o'i englynion godidocaf. Fe'i ganwyd ym 1884.
Daeth R.P. Evans yn athro yn Ysgol Gynradd Trefor ar y 4ydd o Orffennaf, 1909, a chyfeirid ato gan bawb yn Nhrefor fel Ifas Llecheiddior, oherwydd mai mab Melin Llecheiddior, Bryncir, ydoedd. Ei rieni oedd William ac Elizabeth Evans. Enillodd radd B.A. mewn Saesneg ym Mangor ym 1907, ac roedd yn gyd-fyfyriwr â Williams Parry yno. Ymadawodd ag ysgol Trefor ddiwedd Ebrill 1912, wedi cwta dair blynedd, ac aeth i ysgol Llanfairfechan.
Roedd yn filwr yn y Rhyfel Mawr ac yn Is-lefftenant gyda'r Gatrawd Gymreig, Bataliwn 14. Bu farw o'i glwyfau, yn 32 oed, yn Fflandrys yn Ebrill 1917, ac fe'i claddwyd ym Mynwent Mendinghem yng Ngwlad Belg. Dyna pryd y canodd Bardd yr Haf ei englynion coffa adnabyddus iddo. Dyma nhw :
Llednais oedd fel llwydnos haf, llariaidd iawn Fel lloer ddwys Gorffennaf; O'r addfwyn yr addfwynaf, Ac o'r gwŷr y gorau gaf.