Janet Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 7: Llinell 7:
  ''Ti roddaist y mi hedd,''
  ''Ti roddaist y mi hedd,''
  ''A llawer o lawenydd''
  ''A llawer o lawenydd''
  ''Yr ochor hon i'r bedd ;''
  ''Yr ochor hon i'r bedd;''
  '''Rwyf wedi ei briodi''
  '''Rwyf wedi ei briodi''
  ''Tra yma ar y llawr,''
  ''Tra yma ar y llawr,''

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:49, 10 Chwefror 2020

Roedd Janet ('Jenat') Thomas (1813-93) yn un o Fedyddwyr llengar plwyf Llanaelhaearn, ac yn wraig hynod o dduwiol. Roedd yn aelod yng nghapel y Bedyddwyr, Saron, ym mhentref Llanaelhaearn.

Darllenai ei Beibl yn ddyddiol - yng ngolau cannwyll frwyn - ac wedi iddi orffen ei ddarllen, pob gair o'i ddechrau i'w ddiwedd, ddeugain (40) o weithiau erbyn cyrraedd ei phen-blwydd yn saith deg oed (Oed yr Addewid), cyfansoddodd y pennill hwn a'i anfon i'r wasg. Fe'i cyhoeddwyd yn Dysgedydd y Plant. Mai 1884.

Darllen y Beibl
O Feibl fy annwyl Iesu
Ti roddaist y mi hedd,
A llawer o lawenydd
Yr ochor hon i'r bedd;
'Rwyf wedi ei briodi
Tra yma ar y llawr,
Ac ni wahenir mo'nom
I dragwyddoldeb mawr.