John Roberts, Lleiniau Hirion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ychydig a wyddom am John Roberts, un o feirdd yr Hendre (gwaelod plwyf Llanaelhaearn). Roedd yn byw yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ar un...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Ychydig a wyddom am John Roberts, un o feirdd yr Hendre (gwaelod plwyf Llanaelhaearn). Roedd yn byw yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ychydig a wyddom am [[John Roberts]], un o feirdd yr [[Hendre]] (gwaelod plwyf [[Llanaelhaearn]]). Roedd yn byw yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ar un cyfnod bu'n cadw ysgol yn hen gapel Llithfaen.  

Llinell 6: Llinell 6:

''Mab uniganedig, un odiaeth,''
''Mab uniganedig, un odiaeth,''
'''R un fath ei naturiaeth â'r Tad,''
'''R un oedran, 'r un anian, 'r un enw,''
'''R un ddelw - hardd loyw, 'r un wlad ;''
'''R un iaith, yr un waith, yr un ethol,''
'''R un 'wyllys i'w bobl gael byw,''
'''R un nerth, yr un gwerth, yr un gwyrthiau,''
'''R un geiriau, 'r un deddfau, 'r un Duw.''

Ar ôl yr ysgol y diwrnod hwnnw, aeth John draw i hen fferm y Gwynus yn y Pistyll at hen wreigan dduwiol oedd yn byw yno, ac adrodd ei bennill newydd iddi. Aeth y ddau i orfoleddu a moliannu wrth ganmol Crist. Yr hen wraig honno gofiodd y pennill.

[[Categori:Ysgolfeistri]]
[[Categori:Beirdd]]

Fersiwn yn ôl 13:46, 10 Chwefror 2020

Ychydig a wyddom am John Roberts, un o feirdd yr Hendre (gwaelod plwyf Llanaelhaearn). Roedd yn byw yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ar un cyfnod bu'n cadw ysgol yn hen gapel Llithfaen.

Ym 1832 aeth i Sasiwn Pwllheli lle y pregethai John Elias o Fôn ag arddeliad arbennig ar 'Berson Crist'. Cafodd y bregeth ysgytwol hon effaith mawr ar John ac yn ystod yr awr ginio yn yr ysgol y diwrnod dilynol, eisteddodd ar ben camfa ger y capel a'r plant yn chwarae o'i amgylch. Cyfansoddodd y pennill hwn, seiliedig ar bregeth John Elias :

Mab uniganedig, un odiaeth,
'R un fath ei naturiaeth â'r Tad,
'R un oedran, 'r un anian, 'r un enw,
'R un ddelw - hardd loyw, 'r un wlad ;
'R un iaith, yr un waith, yr un ethol,
'R un 'wyllys i'w bobl gael byw,
'R un nerth, yr un gwerth, yr un gwyrthiau,
'R un geiriau, 'r un deddfau, 'r un Duw.