Idris Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Geraint (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Y Canon Idris Thomas yw'r rheithor a roddodd y gwasanaeth hiraf o ddigon, hyd y gwyddom, i blwyf Llanaelhaearn (dros 30 mlynedd). Brodor o Ddinorwig, Arfo...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen Canon Idris Thomas i Idris Thomas |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 09:14, 7 Chwefror 2020
Y Canon Idris Thomas yw'r rheithor a roddodd y gwasanaeth hiraf o ddigon, hyd y gwyddom, i blwyf Llanaelhaearn (dros 30 mlynedd). Brodor o Ddinorwig, Arfon, yn fab i Hugh Thomas, chwarelwr yn Chwarel Dinorwig, a'i briod, ac yn un o bump o blant - dwy chwaer a thri brawd.
Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan o 1968 hyd 1971, ac fe'i ordeiniwyd yn ddiacon ym 1971 ac yna'n offeiriad ym 1972. Bu'n Gurad Llanbeblig a'r Waun-fawr 1971-75, ac yna fe'i sefydlwyd yn Rheithor plwyf Llanaelhaearn ym 1975, a hefyd yn Ficer Clynnog Fawr o 1977.
Bu'n byw am gyfnod byr yn Rheithordy Llanarmon, ond yna daeth i fyw i'r Rheithordy (newydd fel rheithordy) yn Nhrefor. Mae'n briod ag Ann, brodor o Lanbedr Pont Steffan, ac mae iddynt dri mab, Rhodri, Meilir ac Osian.
Ar ôl ymddeol symudodd y teulu i fyw ym mro mebyd Canon Thomas ym mhentref Deiniolen.