Samuel Holland: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Geraint (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Samuel Holland oedd y gŵr a gyflogodd Trefor Jones yn Chwarel y Gwylwyr, Nefyn, fel Fforman. Maes o law, daeth Trefor Jones dros yr Eifl ac agor Chwarel...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Samuel Holland oedd y gŵr a gyflogodd Trefor Jones yn Chwarel y Gwylwyr, Nefyn, fel Fforman. Maes o law, daeth Trefor Jones dros yr Eifl ac agor Chwarel yr Eifl yn Nhrefor a rhoi ei enw ei hun ar y pentref. | Samuel Holland oedd y gŵr a gyflogodd [[Trefor Jones]] yn Chwarel y Gwylwyr, Nefyn, fel Fforman. Maes o law, daeth Trefor Jones dros yr Eifl ac agor [[Chwarel yr Eifl]] yn [[Trefor|Nhrefor]] a rhoi ei enw ei hun ar y pentref. | ||
Un o Lerpwl oedd Samuel Holland a bu ei dad (o'r un enw) yn hapfasnachwr llwyddiannus gan weithio gwaith copor ym Mronygadair ger Tremadog 1824-30. Ym 1819 agorodd chwarel lechi Rhiwbryfdir yn ardal Ffestiniog, a chwarel arall yn Nhrefriw ym 1826. Ei wraig oedd Katherine Menzies. | Un o Lerpwl oedd Samuel Holland a bu ei dad (o'r un enw) yn hapfasnachwr llwyddiannus gan weithio gwaith copor ym Mronygadair ger Tremadog 1824-30. Ym 1819 agorodd chwarel lechi Rhiwbryfdir yn ardal Ffestiniog, a chwarel arall yn Nhrefriw ym 1826. Ei wraig oedd Katherine Menzies. | ||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
Bu farw ym 1892, a bu farw'i briod, Caroline Jane Burt, ym 1924. | Bu farw ym 1892, a bu farw'i briod, Caroline Jane Burt, ym 1924. | ||
[[Categori:Pobl]] | |||
[[Categori:Diwydianwyr a chyfalafwyr]] |
Fersiwn yn ôl 09:30, 4 Chwefror 2020
Samuel Holland oedd y gŵr a gyflogodd Trefor Jones yn Chwarel y Gwylwyr, Nefyn, fel Fforman. Maes o law, daeth Trefor Jones dros yr Eifl ac agor Chwarel yr Eifl yn Nhrefor a rhoi ei enw ei hun ar y pentref.
Un o Lerpwl oedd Samuel Holland a bu ei dad (o'r un enw) yn hapfasnachwr llwyddiannus gan weithio gwaith copor ym Mronygadair ger Tremadog 1824-30. Ym 1819 agorodd chwarel lechi Rhiwbryfdir yn ardal Ffestiniog, a chwarel arall yn Nhrefriw ym 1826. Ei wraig oedd Katherine Menzies.
Eu mab hwy oedd Samuel Holland yr erthygl hon, a anwyd ar 17 Hydref, 1803, yn Duke Street, Lerpwl. Roedd Samuel yn gefnder i Elizabeth Cleghorn Gaskell (1810-65), cofiannydd Charlotte Bronte ac un o nofelwyr Saesneg mwyaf poblogaidd ei dydd. Hi sgwennodd Ruth (1853), North and South (1855) a Wives and Daughters(1866).
Tua 1821-22 daeth Holland yn oruchwyliwr chwarel ei dad yn Rhiwbryfdir, a dros y blynyddoedd dilynnol daeth yn ŵr busnes (entrepreneur) mentrus a llwyddiannus dros ben.
Bu'n Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Feirionnydd (1870-92), ac ef oedd prif hyrwyddwr sefydlu yr ysgol i ferched yn Nolgellau, Ysgol John Williams.
Trigai ym Mhlas Penrhyn, Penrhyndeudraeth, ac at ddiwedd ei oes yng Nghaer Deon, rhwng y Bermo a Dolgellau.
Bu farw ym 1892, a bu farw'i briod, Caroline Jane Burt, ym 1924.