Capel Maesyneuadd (A), Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Achos annibynnol ym mhentref Trefor yw Maesyneuadd a enwyd ar ôl y fferm gyfagos lle sefydlwyd yr achos yn y lle cyntaf. Yno, yng nghartref Owen a Sidney...'
 
Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Achos annibynnol ym mhentref Trefor yw Maesyneuadd a enwyd ar ôl y fferm gyfagos lle sefydlwyd yr achos yn y lle cyntaf. Yno, yng nghartref Owen a Sidney Jones y bu Annibynwyr yr ardal yn addoli am gyfnod o ddeunaw mlynedd (1794-1812) ac yn ystod y cyfnod hwn ni bu ond rhyw saith neu wyth aelod yno. Cofrestrwyd yr achos ym 1794. Sylfaenydd yr achos oedd merch ifanc y fferm, Sidney Owen, a gafodd droedigaeth pan yn gwrando ar John Griffith, gweinidog Pen-dref (A.), Caernarfon, yn pregethu tua 1793-94. Bu John Griffith, ynghyd â William Hughes, Saron, o gymorth mawr i'r achos gwan hwn yn ystod ei flynyddoedd cyntaf. Gofynnodd y Sidney ifanc i'w thad, John Owen, am ganiatâd i gynnal oedfaon ar aelwyd ei chartref. Fe'i cafodd. Priododd Sidney tua throad y ganrif ag Owen Jones, brodor o blwyf Denio yn Llŷn. Tua 1798 sefydlwyd Ysgol Sul fechan yma o ryw wyth aelod.
Achos annibynnol ym mhentref Trefor yw Maesyneuadd a enwyd ar ôl y fferm gyfagos lle sefydlwyd yr achos yn y lle cyntaf. Yno, yng nghartref Owen a Sidney Jones y bu Annibynwyr yr ardal yn addoli am gyfnod o ddeunaw mlynedd (1794-1812) ac yn ystod y cyfnod hwn ni bu ond rhyw saith neu wyth aelod yno. Cofrestrwyd yr achos ym 1794. Sylfaenydd yr achos oedd merch ifanc y fferm, Sidney Owen, a gafodd droedigaeth pan yn gwrando ar John Griffith, gweinidog Pen-dref (A.), Caernarfon, yn pregethu tua 1793-94. Bu John Griffith, ynghyd â William Hughes, Saron, o gymorth mawr i'r achos gwan hwn yn ystod ei flynyddoedd cyntaf.  
Yr aelodau yn ystod y cyfnod ar aelwyd fferm Maesyneuadd oedd;
 
Gofynnodd y Sidney ifanc i'w thad, John Owen, am ganiatâd i gynnal oedfaon ar aelwyd ei chartref. Fe'i cafodd. Priododd Sidney tua throad y ganrif ag Owen Jones, brodor o blwyf Denio yn Llŷn. Tua 1798 sefydlwyd Ysgol Sul fechan yma o ryw wyth aelod.
 
Yr aelodau yn ystod y cyfnod ar aelwyd fferm Maesyneuadd oedd :-
Owen a Sidney Jones, Maesyneuadd;
Owen a Sidney Jones, Maesyneuadd;
William ac Eleanor Griffith, Gapas Lwyd;

William ac Elinor Price, Tynygors;
William ac Elinor Price, Tynygors;
John a Lowri Roberts, Lleiniau Hirion (Cae'r Foty o 1801).

Yn ystod y blynyddoedd cynnar hyn, arferai Owen a Sidney gerdded i oedfaon yng nghapel Pen-dref, Caernarfon, taith chwe milltir ar hugain nôl a blaen.

Dyna'r ychydig a wyddom am flynyddoedd cynnar achos ymneilltuol cyntaf Trefor.

Fersiwn yn ôl 12:52, 3 Chwefror 2020

Achos annibynnol ym mhentref Trefor yw Maesyneuadd a enwyd ar ôl y fferm gyfagos lle sefydlwyd yr achos yn y lle cyntaf. Yno, yng nghartref Owen a Sidney Jones y bu Annibynwyr yr ardal yn addoli am gyfnod o ddeunaw mlynedd (1794-1812) ac yn ystod y cyfnod hwn ni bu ond rhyw saith neu wyth aelod yno. Cofrestrwyd yr achos ym 1794. Sylfaenydd yr achos oedd merch ifanc y fferm, Sidney Owen, a gafodd droedigaeth pan yn gwrando ar John Griffith, gweinidog Pen-dref (A.), Caernarfon, yn pregethu tua 1793-94. Bu John Griffith, ynghyd â William Hughes, Saron, o gymorth mawr i'r achos gwan hwn yn ystod ei flynyddoedd cyntaf.

Gofynnodd y Sidney ifanc i'w thad, John Owen, am ganiatâd i gynnal oedfaon ar aelwyd ei chartref. Fe'i cafodd. Priododd Sidney tua throad y ganrif ag Owen Jones, brodor o blwyf Denio yn Llŷn. Tua 1798 sefydlwyd Ysgol Sul fechan yma o ryw wyth aelod.

Yr aelodau yn ystod y cyfnod ar aelwyd fferm Maesyneuadd oedd :- Owen a Sidney Jones, Maesyneuadd; William ac Eleanor Griffith, Gapas Lwyd; William ac Elinor Price, Tynygors; John a Lowri Roberts, Lleiniau Hirion (Cae'r Foty o 1801).