Syr Thomas Wynn, Barwnig 1af: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Penteulu teulu Wynniaid Boduan ym Mhen Llŷn oedd '''Thomas Wynn''' (1678-1749), a wnaed yn farwnig ym 1742. Mab ydoedd i Griffith Wynn, sgweier Boduan a Catharine ei wraig, merch William Vaughan, Corsygedol, Dyffryn Ardudwy. Priododd Frances, merch [[John Glynn (yr olaf)|John Glynn]] ac aeres [[Ystad Glynllifon]]. Roedd ganddo frawd, William (1678-1754), a ddaeth yn Syr William, efallai oherwydd iddo fod yn fanergludydd i fintai o bensiynwyr bonheddig. Ar farwolaeth John Glynn, etifeddodd ystad Glynllifon trwy ei wraig, gan uno ystadau Boduan a Glynllifon (er i'r ddwy ystad gael eu rhedeg r wahân i raddau helaeth am y ddwy ganrif nesaf). Yn y man, symudodd y teulu i fyw i [[Glynllifon]] gan osod plasty Boduan neu ei ddefnyddio ar gyfer aelodau iau y teulu.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt. 171-3</ref> | Penteulu teulu Wynniaid Boduan ym Mhen Llŷn oedd '''Thomas Wynn''' (1678-1749), a wnaed yn farwnig ym 1742. Mab ydoedd i Griffith Wynn, sgweier Boduan a Catharine ei wraig, merch William Vaughan, Corsygedol, Dyffryn Ardudwy. Priododd Frances, merch [[John Glynn (yr olaf)|John Glynn]] ac aeres [[Ystad Glynllifon]] tua 1700. Trwy uno'r ddau deulu daeth y teulu unedig i reng flaen sgweiriaid y sir o ran eiddo, pwer a dylanwad gwleidyddol. Roedd ganddo frawd, William (1678-1754), a ddaeth yn Syr William, efallai oherwydd iddo fod yn fanergludydd i fintai o bensiynwyr bonheddig. Ar farwolaeth John Glynn, etifeddodd ystad Glynllifon trwy ei wraig, gan uno ystadau Boduan a Glynllifon fel y dywedwyd eisoes (er i'r ddwy ystad gael eu rhedeg r wahân i raddau helaeth am y ddwy ganrif nesaf). Yn y man, symudodd y teulu i fyw i [[Glynllifon]] gan osod plasty Boduan neu ei ddefnyddio ar gyfer aelodau iau y teulu.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt. 171-3</ref> | ||
Roedd gan Thomas Wynn a Frances bump o blant, sef un mab, [[Syr John Wynn, 2il Farwnig|John]], Catharine, Elizabeth, (1705-?), Dorothy (1707-44), gwraig cyntaf William Thomas,Coed Helen, a Frances (1713-84) a farwodd yn ddi-briod.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t. 173</ref> | Roedd gan Thomas Wynn a Frances bump o blant, sef un mab, [[Syr John Wynn, 2il Farwnig|John]], Catharine, Elizabeth, (1705-?), Dorothy (1707-44), gwraig cyntaf William Thomas,Coed Helen, a Frances (1713-84) a farwodd yn ddi-briod.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t. 173</ref> | ||
Roedd yn ddyn o ddylanwad, gan eisetdd fel aelod seneddol dros brwdeisdrefi'r sir o 1713 hyd ei farwolaeth ym 1749. Bu'n aelod o lys y tywysog George, mab y Brenin, fel un o wastrodion (''equerries'') y tywysog, a pharhaodd yn y rôl wedi i hwnnw'n fynd yn frenin ym 1727. Derbyniodd y swm sylweddol o £300 y flwyddyn fel gwastrodwr ac fe daliodd hefyd swydd Clerc y Lliain Gwyrdd a ddaeth a £1000 y flwyddyn iddo. Roedd felly yn ddyn cefnog o ran tir ac incwm. Roedd yn cefnogi plaid y Whigiaid ac yn pleidio achos y brenin yn ddiysgog, ac am hynny fe dderbyniodd y teitl o Farwnig.<ref>Glyn Roberts, ''The Glynnes and the Wynns of Glynllifon'', (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.30</ref> | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Fersiwn yn ôl 10:41, 27 Ionawr 2020
Penteulu teulu Wynniaid Boduan ym Mhen Llŷn oedd Thomas Wynn (1678-1749), a wnaed yn farwnig ym 1742. Mab ydoedd i Griffith Wynn, sgweier Boduan a Catharine ei wraig, merch William Vaughan, Corsygedol, Dyffryn Ardudwy. Priododd Frances, merch John Glynn ac aeres Ystad Glynllifon tua 1700. Trwy uno'r ddau deulu daeth y teulu unedig i reng flaen sgweiriaid y sir o ran eiddo, pwer a dylanwad gwleidyddol. Roedd ganddo frawd, William (1678-1754), a ddaeth yn Syr William, efallai oherwydd iddo fod yn fanergludydd i fintai o bensiynwyr bonheddig. Ar farwolaeth John Glynn, etifeddodd ystad Glynllifon trwy ei wraig, gan uno ystadau Boduan a Glynllifon fel y dywedwyd eisoes (er i'r ddwy ystad gael eu rhedeg r wahân i raddau helaeth am y ddwy ganrif nesaf). Yn y man, symudodd y teulu i fyw i Glynllifon gan osod plasty Boduan neu ei ddefnyddio ar gyfer aelodau iau y teulu.[1]
Roedd gan Thomas Wynn a Frances bump o blant, sef un mab, John, Catharine, Elizabeth, (1705-?), Dorothy (1707-44), gwraig cyntaf William Thomas,Coed Helen, a Frances (1713-84) a farwodd yn ddi-briod.[2]
Roedd yn ddyn o ddylanwad, gan eisetdd fel aelod seneddol dros brwdeisdrefi'r sir o 1713 hyd ei farwolaeth ym 1749. Bu'n aelod o lys y tywysog George, mab y Brenin, fel un o wastrodion (equerries) y tywysog, a pharhaodd yn y rôl wedi i hwnnw'n fynd yn frenin ym 1727. Derbyniodd y swm sylweddol o £300 y flwyddyn fel gwastrodwr ac fe daliodd hefyd swydd Clerc y Lliain Gwyrdd a ddaeth a £1000 y flwyddyn iddo. Roedd felly yn ddyn cefnog o ran tir ac incwm. Roedd yn cefnogi plaid y Whigiaid ac yn pleidio achos y brenin yn ddiysgog, ac am hynny fe dderbyniodd y teitl o Farwnig.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt. 171-3
- ↑ J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t. 173
- ↑ Glyn Roberts, The Glynnes and the Wynns of Glynllifon, (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.30