Capel Seilo (B), Pontlyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 12: Llinell 12:


[[Categori:Capeli]]
[[Categori:Capeli]]
[[Categori:Crefydd]]

Fersiwn yn ôl 12:22, 24 Hydref 2019

Roedd Capel Seilo yn gapel bach gan y Bedyddwyr ym mhentref Pontlyfni, bron ar dalcen pont y pentref, ym mhen dwyreiniol rhes fechan o dai yn wynebu'r gogledd. Mae wedi cau ers blynyddoedd (roedd yn dal yn agored ym 1953 yn ôl y map Ordnans), ond mae'r adeilad yn dal yno ac mewn cyflwr da.

Yn ôl y cyfrifiad crefyddol yn 1851, roedd y capel hwn wedi ei adeiladu tua 1822 ac yn gapel eithaf poblogaidd - gyda 33 o blant a 136 oedolyn yn mynychu yn wythnosol.[1]

Mae'r adeilad hefyd wedi ei chofnodi gan y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymreig.[2]


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau {cyfeiriadau}