Y Brodyr Francis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
http://www.casglwr.org/pdf/Rhifyn%2073/73%2009.pdf | |||
http://yba.llgc.org.uk/cy/c-FRAN-GRI-1876.html | http://yba.llgc.org.uk/cy/c-FRAN-GRI-1876.html | ||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] |
Fersiwn yn ôl 15:33, 8 Tachwedd 2017
Chwarelwyr a ddaeth yn gantorion poblogaidd oedd Griffith ac Owen Francis (Y Brodyr Francis).
Ganwyd y ddau yng Nghwm Pennant, yn blant i William a Mary Francis. Roedd y ddau frawd yn ennill eu bywoliaeth trwy weithio yn y chwarel. Roedd Griffith (1876-1939) yn barddoni, a chyhoeddodd Telyn Eryri, sef cyfres o ganeuon am fywyd caled chwarelwyr a thyddynwyr eu hardal. Bu Owen (1879-1939) yn ysgrifennu caneuon, a chyhoeddwyd llawer o waith y ddau frawd ym mhapur newydd Y Genedl Gymreig. Roedd y ddau yn perfformio mewn nifer o gyngherddau Cymreig yn ystod eu gyrfaoedd, yn aml iawn gyda’u gilydd. Bu'r ddau farw yn 1939; Owen ar 6ed Ebrill 1939, a Griffith ar 13 Mehefin 1939.
Cyfeiriadau
http://www.casglwr.org/pdf/Rhifyn%2073/73%2009.pdf http://yba.llgc.org.uk/cy/c-FRAN-GRI-1876.html