Plas Dolydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2: Llinell 2:

Yn ôl yr hanes yn llyfr [[William Hobley]], tua 1770 fe arferid cynnal cyfarfodydd misol ac ati yn nafarn Plas Dolydd, fel y man lleol addas gyda lle a lluniaeth ar gael, cyn i'r achos gael ei sefydlu'n ffurfiol, ond ar un achlysur neilltuol fe gafwyd gwrthwynebiad dan esgus amddiffyn yr Eglwys Sefydledig, gyda dorf wrthwynebus yn taro drymiau ac ati. Aeth y rhai oedd yn y cyfarfod oddi yno a cheisio cynnal cyfarfod yn [[Rhostryfan]], ond er clywed y drymiau'n agosáu at y fan honno aeth y cyfarfod ymlaen. Honnwyd fod y prif ddrymiwr wedi ei daro gan y cryndod, fel nad oedd mod iddo barhau.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf. 1, (Caernarfon, 1910) t.150</ref>

Ym 1776, roedd dyn o'r enw Samuel Williams, "Dolydd Byrion", yn un o dri a oedd yn cael eu trwyddedu i werthu diod ym mhlwyf Llandwrog, a dichon felly mai ym Mhlas Dolydd y gwnaed hynny.<ref>W.Gilbert Williams, ''Moel Tryfan i'r Traeth'', (Pen-y-groes, 1983), t.33</ref>

Erbyn 1840, roedd ond ychydig dros 5 acer, sef pum darn bach o dir gyda Plas Dolydd, a dim ond un cae dros acer, sy'n awgrymu mai nid fferm oedd o y pryd hynny. Roedd yn rhan o ystad [[Tryfan Mawr]], yn eiddo i OwenGriffith.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Map degwm Llandwrog.</ref>

Llinell 11: Llinell 13:
Y tu ôl i'r prif adeilad mae hen fwthyn a godwyd, fe'i gredir, yn y 18g, ac wedi cael ei ddefnyddio wedi iddo gael ei addasu fel annedd i'r gweision fferm - tybed ai tua'r amser y codwyd y beudai o'r newydd ym 1785? Mae tyllau nythu ar gyfer colomennod yn nhalcen yr adeilad, a grisiau ar y tu allan. Mae wedi ei gofrestru'n Radd II.<ref>Gwefan 'British Listed Buildings', [https://britishlistedbuildings.co.uk/300022432-disused-cottage-at-plas-dolydd-llandwrog], cyrchwyd 7.7,2019</ref>

{{eginyn}}
 
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]]
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]]
[[Categori:Tafarndai]]
[[Categori:Tafarndai]]

Fersiwn yn ôl 11:00, 8 Gorffennaf 2019

Plas Dolydd yw'r adeilad mwyaf ym mhentrefan y Dolydd, ym mhlwyf Llandwrog. Mae'n hen adeilad, ac mae carreg lechen amrwd yn wal hen feudy ar ochr y lôn ar fuarth Plas Dolydd yn cofnodi iddo gael ei godi ym 1785. Cyn yr adeg honno, roedd yn dafarn hefyd, ac mae yna le i gredu fod yno danerdy yn ogystal.

Yn ôl yr hanes yn llyfr William Hobley, tua 1770 fe arferid cynnal cyfarfodydd misol ac ati yn nafarn Plas Dolydd, fel y man lleol addas gyda lle a lluniaeth ar gael, cyn i'r achos gael ei sefydlu'n ffurfiol, ond ar un achlysur neilltuol fe gafwyd gwrthwynebiad dan esgus amddiffyn yr Eglwys Sefydledig, gyda dorf wrthwynebus yn taro drymiau ac ati. Aeth y rhai oedd yn y cyfarfod oddi yno a cheisio cynnal cyfarfod yn Rhostryfan, ond er clywed y drymiau'n agosáu at y fan honno aeth y cyfarfod ymlaen. Honnwyd fod y prif ddrymiwr wedi ei daro gan y cryndod, fel nad oedd mod iddo barhau.[1]

Ym 1776, roedd dyn o'r enw Samuel Williams, "Dolydd Byrion", yn un o dri a oedd yn cael eu trwyddedu i werthu diod ym mhlwyf Llandwrog, a dichon felly mai ym Mhlas Dolydd y gwnaed hynny.[2]

Erbyn 1840, roedd ond ychydig dros 5 acer, sef pum darn bach o dir gyda Plas Dolydd, a dim ond un cae dros acer, sy'n awgrymu mai nid fferm oedd o y pryd hynny. Roedd yn rhan o ystad Tryfan Mawr, yn eiddo i OwenGriffith.[3]

Yn ystod ail hanner y 19g, bu Evan Jones, contractor adeiladu sylweddol yn byw yno, a dyna'r lle cychwynnodd ei fusnes.

Erbyn heddiw, ffermdy'n unig yw Plas Dolydd.

Y tu ôl i'r prif adeilad mae hen fwthyn a godwyd, fe'i gredir, yn y 18g, ac wedi cael ei ddefnyddio wedi iddo gael ei addasu fel annedd i'r gweision fferm - tybed ai tua'r amser y codwyd y beudai o'r newydd ym 1785? Mae tyllau nythu ar gyfer colomennod yn nhalcen yr adeilad, a grisiau ar y tu allan. Mae wedi ei gofrestru'n Radd II.[4]

Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf. 1, (Caernarfon, 1910) t.150
  2. W.Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, (Pen-y-groes, 1983), t.33
  3. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Map degwm Llandwrog.
  4. Gwefan 'British Listed Buildings', [1], cyrchwyd 7.7,2019