Plas Dolydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Yn ôl yr hanes yn llyfr [[William Hobley]], tua 1770 fe arferid cynnal cyfarfodydd misol ac ati yn nafarn Plas Dolydd, fel y man lleol addas gyda lle a lluniaeth ar gael, cyn i'r achos gael ei sefydlu'n ffurfiol, ond ar un achlysur neilltuol fe gafwyd gwrthwynebiad dan esgus amddiffyn yr Eglwys Sefydledig, gyda dorf wrthwynebus yn taro drymiau ac ati. Aeth y rhai oedd yn y cyfarfod oddi yno a cheisio cynnal cyfarfod yn [[Rhostryfan]], ond er clywed y drymiau'n agosáu at y fan honno aeth y cyfarfod ymlaen. Honnwyd fod y prif ddrymiwr wedi ei daro gan y cryndod, fel nad oedd mod iddo barhau.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf. 1, (Caernarfon, 1910) t.150</ref> | Yn ôl yr hanes yn llyfr [[William Hobley]], tua 1770 fe arferid cynnal cyfarfodydd misol ac ati yn nafarn Plas Dolydd, fel y man lleol addas gyda lle a lluniaeth ar gael, cyn i'r achos gael ei sefydlu'n ffurfiol, ond ar un achlysur neilltuol fe gafwyd gwrthwynebiad dan esgus amddiffyn yr Eglwys Sefydledig, gyda dorf wrthwynebus yn taro drymiau ac ati. Aeth y rhai oedd yn y cyfarfod oddi yno a cheisio cynnal cyfarfod yn [[Rhostryfan]], ond er clywed y drymiau'n agosáu at y fan honno aeth y cyfarfod ymlaen. Honnwyd fod y prif ddrymiwr wedi ei daro gan y cryndod, fel nad oedd mod iddo barhau.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf. 1, (Caernarfon, 1910) t.150</ref> | ||
Erbyn 1840, roedd ond ychydig o ddarnau bach o dir gyda Plas Dolydd, sy'n awgrymu mai nid fferm oedd o y pryd hynny. Roedd yn rhan o ystad [[Tryfan Mawr]], yn eiddo i | Erbyn 1840, roedd ond ychydig o ddarnau bach o dir gyda Plas Dolydd, sy'n awgrymu mai nid fferm oedd o y pryd hynny. Roedd yn rhan o ystad [[Tryfan Mawr]], yn eiddo i OwenGriffith.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Map degwm Llandwrog.</ref> | ||
Yn ystod ail hanner y 19g, bu [[Evan Jones, Plas Dolydd|Evan Jones]], contractor adeiladu sylweddol yn byw yno, a dyna'r lle cychwynnodd ei fusnes. | Yn ystod ail hanner y 19g, bu [[Evan Jones, Plas Dolydd|Evan Jones]], contractor adeiladu sylweddol yn byw yno, a dyna'r lle cychwynnodd ei fusnes. |
Fersiwn yn ôl 17:39, 7 Gorffennaf 2019
Plas Dolydd yw'r adeilad mwyaf ym mhentrefan y Dolydd, ym mhlwyf Llandwrog. Mae'n hen adeilad, ac mae carreg lechen amrwd yn wal hen feudy ar ochr y lôn ar fuarth Plas Dolydd yn cofnodi iddo gael ei godi ym 1785. Cyn yr adeg honno, roedd yn dafarn hefyd, ac mae yna le i gredu fod yno danerdy yn ogystal.
Yn ôl yr hanes yn llyfr William Hobley, tua 1770 fe arferid cynnal cyfarfodydd misol ac ati yn nafarn Plas Dolydd, fel y man lleol addas gyda lle a lluniaeth ar gael, cyn i'r achos gael ei sefydlu'n ffurfiol, ond ar un achlysur neilltuol fe gafwyd gwrthwynebiad dan esgus amddiffyn yr Eglwys Sefydledig, gyda dorf wrthwynebus yn taro drymiau ac ati. Aeth y rhai oedd yn y cyfarfod oddi yno a cheisio cynnal cyfarfod yn Rhostryfan, ond er clywed y drymiau'n agosáu at y fan honno aeth y cyfarfod ymlaen. Honnwyd fod y prif ddrymiwr wedi ei daro gan y cryndod, fel nad oedd mod iddo barhau.[1]
Erbyn 1840, roedd ond ychydig o ddarnau bach o dir gyda Plas Dolydd, sy'n awgrymu mai nid fferm oedd o y pryd hynny. Roedd yn rhan o ystad Tryfan Mawr, yn eiddo i OwenGriffith.[2]
Yn ystod ail hanner y 19g, bu Evan Jones, contractor adeiladu sylweddol yn byw yno, a dyna'r lle cychwynnodd ei fusnes.
Erbyn heddiw, ffermdy'n unig yw Plas Dolydd.
Y tu ôl i'r prif adeilad mae hen fwthyn a godwyd, fe'i gredir, yn y 18g, ac wedi cael ei ddefnyddio wedi iddo gael ei addasu fel annedd i'r gweision fferm - tybed ai tua'r amser y codwyd y beudai o'r newydd ym 1785? Mae tyllau nythu ar gyfer colomennod yn nhalcen yr adeilad, a grisiau ar y tu allan. Mae wedi ei gofrestru'n Radd II.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma