Angharad Tomos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Angharad_Tomos.JPG|bawd|de|400px]] | [[Delwedd:Angharad_Tomos.JPG|bawd|de|400px]] | ||
Mae '''Angharad Tomos''' (ganed 1958) yn ymgyrchydd iaith, nofelydd, awdures plant ac | Mae '''Angharad Tomos''' (ganed 1958) yn ymgyrchydd iaith, nofelydd, awdures plant ac darlunydd llyfrau. Mae hi'n hanu o waelodion plwyf [[Llanwnda]] er iddi fyw ym mhentref [[Pen-y-groes]] bellach, lle mae hi'n weithgar iawn gyda phrosiectau cymunedol. Hi a'i gŵr fu'n bennaf gyfrifol am achub [[Siop Griffiths]] yn y pentref a'i throi'n ganolfan ar gyfer amryw o weithgareddau ac yn gaffi cymunedol, "Yr Orsaf". | ||
Mae | Fe'i ganed ym Bangor|Mangor, a chafodd ei magu yn un o bum chwaer yn Llanwnda. Mynychodd Ysgol Gynradd Bontnewydd ac [[Ysgol Dyffryn Nantlle]]. Cychwynnodd ei haddysg uwch ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ond bu iddi adael er mwyn gweithio i Gymdeithas yr Iaith. Cafodd radd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn ddiweddarach. | ||
Mae'n ymgyrchydd iaith digyfaddawd, yn llenor disglair, ac wedi gwneud cyfraniad enfawr gyda'i llyfrau i blant. Bu'n gadeirydd [[Cymdeithas yr Iaith]]. Enillodd goron [Eisteddfod yr Urdd â'i chyfrol ''Hen Fyd Hurt'' ym 1982. | |||
Mae hi'n ysgrifennu a darlunio llyfrau i blant, gan gynnwys ei chyfres ''Rwdlan'', a leolir yng Ngwlad y Rwla. ''Rala Rwdins'' oedd y gyfrol gyntaf yn y gyfres hon, cyhoeddwyd gan Y Lolfa ym 1983. | |||
Ym 1985 derbyniodd wobr yr Academi Gymreig am ei nofel ''Yma o Hyd'' sydd am fywyd carchar y cafodd hi ei hun brofiad ohono fel ymgyrchydd iaith. Enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, ym 1991 ac ym 1997, a Gwobr Tir na n-Og ddwywaith yn ogystal, ym 1986 ac 1994 | |||
Enillodd Wobr Mary Vaughan Jones yn 2009 am ei chyfraniad tuag at llenyddiaeth plant yng Nghymru.<ref>{{dyf gwe| url=http://www.cllc.org.uk/newyddion-news/news-detail?diablo.lang=cym&id=12136| dyddiad=24 Tachwedd 2009| cyhoeddwr=Cyngor Llyfrau Cymru| teitl=Anrhydeddu Awdur Llyfrau Plant - Tlws Mary Vaughan Jones 2009}}</ref> | |||
Mae hi'n briod â Ben Gregory ac yn byw ym Mhen-y-Groes. | |||
==Ymgyrchu== | |||
Mae Angharad Tomos yn ymgyrchydd sydd wedi cefnogi sawl achos. Yn ogystal ag ymgyrchoedd dros y Gymraeg mae hi wedi gweithredu dros heddwch a gwrth-ryfel<ref>http://archif.rhwyd.org/ycymro/newyddion/c/x44/i/3734/desc/cofio-hedd-nid-cledd--pererindod-heddwch-gogledd-cymru/</ref> ac yn erbyn cerflun Henry Morton Stanley yn Ninbych<ref>http://www.telegraph.co.uk/comment/letters/7963923/If-it-was-right-to-drop-the-bomb-on-Hiroshima-it-cant-be-immoral-to-have-Trident.html</ref>. | |||
==Llyfryddiaeth== | |||
[[Delwedd:Byd a'r Betws, Y - Colofnau Angharad Tomos (llyfr).jpg|bawd|chwith|100px]] | |||
* ''Bodlon - Byw'n Hapus ar Lai'' (Gwasg Gwynedd, 2011) | |||
* ''Sothach a Sglyfath'' (Y Lolfa, 1993) | |||
* ''Cnonyn Aflonydd'' (Gwasg Gwynedd, 2001) | |||
* ''Hen Fyd Hurt'' (Y Lolfa, 1992) | |||
* ''Hiraeth am Yfory'' (Gwasg Gomer, 2002) | |||
* ''Dysgu'r Wyddor gyda Rwdlan'' (Y Lolfa, 2005) | |||
* ''Llyfr Lliwio Gwlad y Rwla'' (Y Lolfa, 2011) | |||
* '''Dydw i Ddim Eisiau' - Stori Jona'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999) | |||
* '''Un Bach Ydwyf''' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999) | |||
* ''Ar y Brig - Stori Saceus'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999) | |||
* ''I Mewn i'r Arch â Nhw'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999) | |||
* ''Paid Siglo'r Cwch'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999) | |||
* ''Rhywun i'w Garu'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999) | |||
* ''Y Wal Na Ddaeth i Lawr'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999) | |||
* ''Yn Ffau'r Llewod'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999) | |||
* ''I Mewn i'r Arch â Nhw'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 2001) | |||
* ''Nadolig heb Goeden'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 2001) | |||
* ''Nadolig heb Goeden'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999) | |||
* ''Eira'r Gaeaf'' (Y Lolfa, 2010) | |||
* ''Gwanwyn Gwlad y Rwla'' (Y Lolfa, 2010) | |||
* ''Haf Braf'' (Y Lolfa, 2010) | |||
* ''Halibalŵ Yr Hydref'' (Y Lolfa, 2010) | |||
* ''Parti Cwmwl'' (Y Lolfa, 1998) | |||
* ''Pecyn Cyfres Darllen Mewn Dim'' (Y Lolfa, 2007) | |||
* ''Rhagom'' (Gwasg Carreg Gwalch, 2004) | |||
* ''Si Hei Lwli'' (Y Lolfa, 2005) | |||
* ''Stwnsh Rwdlan'' (Y Lolfa, 1997) | |||
* ''Titrwm'' (Y Lolfa, 1994) | |||
* ''Wele'n Gwawrio'' (Y Lolfa, 2004) | |||
* ''Wrth fy Nagrau i]' (Gwasg Carreg Gwalch, 2007) | |||
* ''Yma o Hyd'' (Y Lolfa, 1985) | |||
* ''Y Llipryn Llwyd'' (Y Lolfa, 1985) | |||
==Gwobrau ac anrhydeddau== | |||
* 1982 - Medal Lenyddiaeth [[Eisteddfod yr Urdd]] am ''Hen Fyd Hurt'' | |||
* 1986 - Gwobr Tir na n-Og am ''Y Llipryn Llwyd'' (Cyfres Rwdlan) | |||
* 1991 - Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1991 am ''Si Hei Lwli'' | |||
* 1997 - Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 1997 am ''Wele'n Gwawrio'' | |||
* 1994 - Gwobr Tir na n-Og am ''Sothach a Sglyfath'' (Cyfres Cled) | |||
* 2009 - Gwobr Mary Vaughan Jones | |||
Mae hi hefyd yn cyfrannu'n gyson i dudalenni Herald Cymraeg y ''Daily Post'', bob yn ail ddydd Mercher. Mae hi hefyd yn cyfrannu nodiadau i'r plant ym mhapur deufisol y Wesleiaid, ''Y Gwyliedydd Newydd''. Am chwarter canrif bu'n ysgrifennydd [[Capel Salem (W), Tŷ'nlôn]] nes i hwnnw gau. | |||
Mae hi'n wyres i'r darlithydd, Sosialydd ac awdur [[David Thomas]]. | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Fersiwn yn ôl 12:12, 7 Gorffennaf 2019
Mae Angharad Tomos (ganed 1958) yn ymgyrchydd iaith, nofelydd, awdures plant ac darlunydd llyfrau. Mae hi'n hanu o waelodion plwyf Llanwnda er iddi fyw ym mhentref Pen-y-groes bellach, lle mae hi'n weithgar iawn gyda phrosiectau cymunedol. Hi a'i gŵr fu'n bennaf gyfrifol am achub Siop Griffiths yn y pentref a'i throi'n ganolfan ar gyfer amryw o weithgareddau ac yn gaffi cymunedol, "Yr Orsaf".
Fe'i ganed ym Bangor|Mangor, a chafodd ei magu yn un o bum chwaer yn Llanwnda. Mynychodd Ysgol Gynradd Bontnewydd ac Ysgol Dyffryn Nantlle. Cychwynnodd ei haddysg uwch ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ond bu iddi adael er mwyn gweithio i Gymdeithas yr Iaith. Cafodd radd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn ddiweddarach.
Mae'n ymgyrchydd iaith digyfaddawd, yn llenor disglair, ac wedi gwneud cyfraniad enfawr gyda'i llyfrau i blant. Bu'n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith. Enillodd goron [Eisteddfod yr Urdd â'i chyfrol Hen Fyd Hurt ym 1982.
Mae hi'n ysgrifennu a darlunio llyfrau i blant, gan gynnwys ei chyfres Rwdlan, a leolir yng Ngwlad y Rwla. Rala Rwdins oedd y gyfrol gyntaf yn y gyfres hon, cyhoeddwyd gan Y Lolfa ym 1983.
Ym 1985 derbyniodd wobr yr Academi Gymreig am ei nofel Yma o Hyd sydd am fywyd carchar y cafodd hi ei hun brofiad ohono fel ymgyrchydd iaith. Enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, ym 1991 ac ym 1997, a Gwobr Tir na n-Og ddwywaith yn ogystal, ym 1986 ac 1994
Enillodd Wobr Mary Vaughan Jones yn 2009 am ei chyfraniad tuag at llenyddiaeth plant yng Nghymru.[1]
Mae hi'n briod â Ben Gregory ac yn byw ym Mhen-y-Groes.
Ymgyrchu
Mae Angharad Tomos yn ymgyrchydd sydd wedi cefnogi sawl achos. Yn ogystal ag ymgyrchoedd dros y Gymraeg mae hi wedi gweithredu dros heddwch a gwrth-ryfel[2] ac yn erbyn cerflun Henry Morton Stanley yn Ninbych[3].
Llyfryddiaeth
- Bodlon - Byw'n Hapus ar Lai (Gwasg Gwynedd, 2011)
- Sothach a Sglyfath (Y Lolfa, 1993)
- Cnonyn Aflonydd (Gwasg Gwynedd, 2001)
- Hen Fyd Hurt (Y Lolfa, 1992)
- Hiraeth am Yfory (Gwasg Gomer, 2002)
- Dysgu'r Wyddor gyda Rwdlan (Y Lolfa, 2005)
- Llyfr Lliwio Gwlad y Rwla (Y Lolfa, 2011)
- 'Dydw i Ddim Eisiau' - Stori Jona (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- Un Bach Ydwyf (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- Ar y Brig - Stori Saceus (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- I Mewn i'r Arch â Nhw (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- Paid Siglo'r Cwch (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- Rhywun i'w Garu (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- Y Wal Na Ddaeth i Lawr (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- Yn Ffau'r Llewod (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- I Mewn i'r Arch â Nhw (Cyhoeddiadau'r Gair, 2001)
- Nadolig heb Goeden (Cyhoeddiadau'r Gair, 2001)
- Nadolig heb Goeden (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- Eira'r Gaeaf (Y Lolfa, 2010)
- Gwanwyn Gwlad y Rwla (Y Lolfa, 2010)
- Haf Braf (Y Lolfa, 2010)
- Halibalŵ Yr Hydref (Y Lolfa, 2010)
- Parti Cwmwl (Y Lolfa, 1998)
- Pecyn Cyfres Darllen Mewn Dim (Y Lolfa, 2007)
- Rhagom (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
- Si Hei Lwli (Y Lolfa, 2005)
- Stwnsh Rwdlan (Y Lolfa, 1997)
- Titrwm (Y Lolfa, 1994)
- Wele'n Gwawrio (Y Lolfa, 2004)
- Wrth fy Nagrau i]' (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
- Yma o Hyd (Y Lolfa, 1985)
- Y Llipryn Llwyd (Y Lolfa, 1985)
Gwobrau ac anrhydeddau
- 1982 - Medal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd am Hen Fyd Hurt
- 1986 - Gwobr Tir na n-Og am Y Llipryn Llwyd (Cyfres Rwdlan)
- 1991 - Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1991 am Si Hei Lwli
- 1997 - Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 1997 am Wele'n Gwawrio
- 1994 - Gwobr Tir na n-Og am Sothach a Sglyfath (Cyfres Cled)
- 2009 - Gwobr Mary Vaughan Jones
Mae hi hefyd yn cyfrannu'n gyson i dudalenni Herald Cymraeg y Daily Post, bob yn ail ddydd Mercher. Mae hi hefyd yn cyfrannu nodiadau i'r plant ym mhapur deufisol y Wesleiaid, Y Gwyliedydd Newydd. Am chwarter canrif bu'n ysgrifennydd Capel Salem (W), Tŷ'nlôn nes i hwnnw gau.
Mae hi'n wyres i'r darlithydd, Sosialydd ac awdur David Thomas.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma