Arglwydd Newborough: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
'''Arglwydd Newborough''' yw'r teitl a gafodd [[Syr Thomas Wynn (Barwn 1af Syr Newborough)]] am ei ffyddlondeb yn y Senedd i frenin Lloegr yn y 18g. Mae'r teitl yn dal mewn bod ac er bod yr Arglwydd Newborough presennol yn dal i fod yn berchennog ar dir sylweddol yn ardal Llandwrog, mae o bellach, fel ei dad o'i flaen, yn byw yn y Rug, Corwen.  
'''Arglwydd Newborough''' yw'r teitl a gafodd [[Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough)]] am ei ffyddlondeb yn y Senedd i frenin Lloegr yn y 18g. Mae'r teitl yn dal mewn bod ac er bod yr Arglwydd Newborough presennol yn dal i fod yn berchennog ar dir sylweddol yn ardal Llandwrog, mae o bellach, fel ei dad o'i flaen, yn byw yn y Rug, Corwen.  

Mae'r teitl yn perthyn i arglwyddyddiaeth yr Iwerddon (h.y. nid oedd gan yr arglwyddi Newborough hawl i eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi, er y caent fod yn aelodau Tŷ Cyffredin o'u cael eu hethol). Dywedir nad oedd hyn wrth fodd yr Arglwydd cyntaf. Fodd bynnag, fe gymerodd enw ei deitl, fel oedd rhaid, o rywle yn Iwerddon. Gan fod ganddo beth tir ym mhlwyf Niwbwrch, sir Fôn, dewisodd y teitl "Arglwydd Newborough ym Mrenin-deyrnas Iwerddon" - yr oedd tref yn Contae Loch Garman (swydd Llwch Garmon) yn Iwerddon o'r enw Newborough; fe'i hadnabyddir heddiw fel Guaire (neu, yn Saesneg, Gorey). Am y rheswm hwn, sef gan nad yw'r enw'n cyfeirio at rywle yng Nghymru, mae'n anghywir cyfeirio at "Yr Arglwydd Niwbwrch".

Fersiwn yn ôl 09:47, 21 Mai 2019

Arglwydd Newborough yw'r teitl a gafodd Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough) am ei ffyddlondeb yn y Senedd i frenin Lloegr yn y 18g. Mae'r teitl yn dal mewn bod ac er bod yr Arglwydd Newborough presennol yn dal i fod yn berchennog ar dir sylweddol yn ardal Llandwrog, mae o bellach, fel ei dad o'i flaen, yn byw yn y Rug, Corwen.

Mae'r teitl yn perthyn i arglwyddyddiaeth yr Iwerddon (h.y. nid oedd gan yr arglwyddi Newborough hawl i eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi, er y caent fod yn aelodau Tŷ Cyffredin o'u cael eu hethol). Dywedir nad oedd hyn wrth fodd yr Arglwydd cyntaf. Fodd bynnag, fe gymerodd enw ei deitl, fel oedd rhaid, o rywle yn Iwerddon. Gan fod ganddo beth tir ym mhlwyf Niwbwrch, sir Fôn, dewisodd y teitl "Arglwydd Newborough ym Mrenin-deyrnas Iwerddon" - yr oedd tref yn Contae Loch Garman (swydd Llwch Garmon) yn Iwerddon o'r enw Newborough; fe'i hadnabyddir heddiw fel Guaire (neu, yn Saesneg, Gorey). Am y rheswm hwn, sef gan nad yw'r enw'n cyfeirio at rywle yng Nghymru, mae'n anghywir cyfeirio at "Yr Arglwydd Niwbwrch".

Am fanylion am y gwahanol arglwyddi Newborough, gweler dan eu henwau unigol (e.e. "Syr Thomas Wynn (Barwn 1af Newborough)"). Am restr o'r wyth Arglwydd Newborough hyd y presennol, gweler Arglwyddi Newborough.

Ffynonellau

  • Samuel Lewis, A Topographical Dictionary of Ireland (1837)