Chwarel Cefn Graeanog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Gwylan (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Gwylan (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Y dull o weithio'r chwarel oedd cymryd wyneb y tir i ffwrdd, cloddio am yr agregau,ac wedyn ailosod y pridd a dychwelyd y tir i ddefnydd amaethyddol i raddau helaeth. | Y dull o weithio'r chwarel oedd cymryd wyneb y tir i ffwrdd, cloddio am yr agregau,ac wedyn ailosod y pridd a dychwelyd y tir i ddefnydd amaethyddol i raddau helaeth. | ||
Golygodd gwaith y chwarel ddinistrio nifer o olion archaeolegol ond bu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wrthi'n cloddio a chofnodi'r hyn oedd i'w cael cyn ei ddinistrio. Mae arteffactau a safleoedd eraill wedi dod i'r amlwg wrth i'r gwaith ledu. Ym 12016, daethpwyd o hyd i fynwent o'r Oes Efydd, yn cynnwys crochenwaith tua 4,000 oed.<ref>''Daily Post'', 31.12.2016</ref> | Golygodd gwaith y chwarel ddinistrio nifer o olion archaeolegol ond bu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wrthi'n cloddio a chofnodi'r hyn oedd i'w cael cyn ei ddinistrio. Mae arteffactau a safleoedd eraill wedi dod i'r amlwg wrth i'r gwaith ledu. Ym 12016, daethpwyd o hyd i fynwent o'r Oes Efydd, yn cynnwys crochenwaith tua 4,000 oed.<ref>''Daily Post'', 31.12.2016</ref>[[Delwedd:Cloddio yng Nghefn Graeanog c1980.jpg|bawd|250px|de|Cloddio ar safle'r Chwarel, tua 1980]] | ||
Erbyn hyn mae'r chwarel yn rhan o Grŵp Tudor Griffiths. | Erbyn hyn mae'r chwarel yn rhan o Grŵp Tudor Griffiths. |
Fersiwn yn ôl 09:09, 21 Mai 2019
Mae Chwarel Cefn Graeanog yn chwarel cerrig bach a gro a sefydlwyd i godi agregau ar gyfer y gwaith o godi gwaith trydan pympio dŵr yn Ninorwig ddiwedd y 1970au. Aethpwyd ati i godi'r agregau o gefnen o dir i'r gorllewin o briffordd yr A487, nid nepell o bentref Pant-glas. Yn ogystal â'r ffaith fod yr agregau'n hawdd i'w codi yno, trwy gymryd haen trwchus o'r gwaddodion o Oes yr Iâ sydd ar y safle, roedd hen drac rheilffordd gerllaw y gellid ei thario i ffurfio lôn breifat ar gyfer y miloedd o deithiau lori - hyd heddiw, gelwir y lôn honno'n "Lôn Loris" gan bobl leol er i'r lôn droi'n llwybr cerdded a seiclo ers blynyddoedd, sef Lôn Eifion. Gorfennodd lorïau ei defnyddio wedi i waith Dinorwig gael ei gwblhau.
Y dull o weithio'r chwarel oedd cymryd wyneb y tir i ffwrdd, cloddio am yr agregau,ac wedyn ailosod y pridd a dychwelyd y tir i ddefnydd amaethyddol i raddau helaeth.
Golygodd gwaith y chwarel ddinistrio nifer o olion archaeolegol ond bu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wrthi'n cloddio a chofnodi'r hyn oedd i'w cael cyn ei ddinistrio. Mae arteffactau a safleoedd eraill wedi dod i'r amlwg wrth i'r gwaith ledu. Ym 12016, daethpwyd o hyd i fynwent o'r Oes Efydd, yn cynnwys crochenwaith tua 4,000 oed.[1]
Erbyn hyn mae'r chwarel yn rhan o Grŵp Tudor Griffiths.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Daily Post, 31.12.2016