Capel Beuno: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Capel Beuno''' yw enw'r capel bach ar ochr Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr. Enw arall ar yr adeilad yw Eglwys y Bedd, gan mai yno y tybir oedd bedd...' |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Capel Beuno''' yw enw'r capel bach ar ochr [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]]. Enw arall ar yr adeilad yw Eglwys y Bedd, gan mai yno y tybir oedd bedd Beuno. Eir at y capel o'r prif adeilad trwy glwystyr neu goridor sydd yn ymddangosiadol bur hynafol oherwydd y gwaith corbelu yn y to (sef to wedi ei wneud o gerrig hirsgwar, pob un ychydig yn nes at y canol na'r un o dani). Gwelir gwaith cyffelyb mewn hen gelloedd y saint. Dichon, fodd bynnag, fod y cyswllt hwn rhwng y ddau adeilad wedi ei adeiladu | '''Capel Beuno''' yw enw'r capel bach ar ochr [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]]. Enw arall ar yr adeilad yw Eglwys y Bedd, gan mai yno y tybir oedd bedd Beuno. Eir at y capel o'r prif adeilad trwy glwystyr neu goridor sydd yn ymddangosiadol bur hynafol oherwydd y gwaith corbelu yn y to (sef to wedi ei wneud o gerrig hirsgwar, pob un ychydig yn nes at y canol na'r un o dani). Gwelir gwaith cyffelyb mewn hen gelloedd y saint. Dichon, fodd bynnag, fod y cyswllt hwn rhwng y ddau adeilad wedi ei adeiladu ar ôl codi'r prif adeiladau, yn ystod y 17g.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ''Caernarvonshire'', Cyf.II, (Llundain, 1960), tt.37, 39</ref> Enw'r adeilad hynod hwn erbyn hyn yw'r Rheinws - sef man i gloi troseddwyr i mewn - ac fe ddefnyddid fel hyn yn y 18g. | ||
I droi at y capel ei hun, mae'n sefyll uwchben seiliau cell neu gapel lle (yn ôl traddodiad) fe gladdwyd [[Sant Beuno]], a gwelir amlinelliad o'r hen gell dybiedig yn y llawr modern (1913), wedi ei farcio gan slabiau tywyllwch eu lliw. Roedd yr hen gapel yn sefyll, yn ôl John Leland, mor ddiweddar â 1536. | I droi at y capel ei hun, mae'n sefyll uwchben seiliau cell neu gapel lle (yn ôl traddodiad) fe gladdwyd [[Sant Beuno]], a gwelir amlinelliad o'r hen gell dybiedig yn y llawr modern (1913), wedi ei farcio gan slabiau tywyllwch eu lliw. Roedd yr hen gapel yn sefyll, yn ôl John Leland, mor ddiweddar â 1536. | ||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
Wedi hynny, roedd y capel yn cael ei ddefnyddio gan [[Ebenezer Thomas (Eben Fardd)|Eben Fardd]] ar gyfer yr ysgol eglwysig a gadwai ar gyfer y pentref, rhwng 1827 a 1849.<ref>R.D. Roberts, ''Clynnog: Its Saint and Church'' (taflen a werthwyd yn yr Eglwys yn y 1950au-60au)</ref> | Wedi hynny, roedd y capel yn cael ei ddefnyddio gan [[Ebenezer Thomas (Eben Fardd)|Eben Fardd]] ar gyfer yr ysgol eglwysig a gadwai ar gyfer y pentref, rhwng 1827 a 1849.<ref>R.D. Roberts, ''Clynnog: Its Saint and Church'' (taflen a werthwyd yn yr Eglwys yn y 1950au-60au)</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} | ||
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]] | [[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]] | ||
[[Categori:Eglwysi]] | [[Categori:Eglwysi]] |
Fersiwn yn ôl 10:11, 13 Mai 2019
Capel Beuno yw enw'r capel bach ar ochr Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr. Enw arall ar yr adeilad yw Eglwys y Bedd, gan mai yno y tybir oedd bedd Beuno. Eir at y capel o'r prif adeilad trwy glwystyr neu goridor sydd yn ymddangosiadol bur hynafol oherwydd y gwaith corbelu yn y to (sef to wedi ei wneud o gerrig hirsgwar, pob un ychydig yn nes at y canol na'r un o dani). Gwelir gwaith cyffelyb mewn hen gelloedd y saint. Dichon, fodd bynnag, fod y cyswllt hwn rhwng y ddau adeilad wedi ei adeiladu ar ôl codi'r prif adeiladau, yn ystod y 17g.[1] Enw'r adeilad hynod hwn erbyn hyn yw'r Rheinws - sef man i gloi troseddwyr i mewn - ac fe ddefnyddid fel hyn yn y 18g.
I droi at y capel ei hun, mae'n sefyll uwchben seiliau cell neu gapel lle (yn ôl traddodiad) fe gladdwyd Sant Beuno, a gwelir amlinelliad o'r hen gell dybiedig yn y llawr modern (1913), wedi ei farcio gan slabiau tywyllwch eu lliw. Roedd yr hen gapel yn sefyll, yn ôl John Leland, mor ddiweddar â 1536.
Yng nghanol y capel, hyd ddiwedd y 18g, yr oedd yr hyn a gyfrifid yn fedd Beuno, tua 3' o uchder, yng nghanol y llawr. Dyma, heb os, oedd y prif atyniad a ddenai pererinion i'r llecyn dros y canrifoedd. Yr oedd cred y gellid gwella o nifer o afiechydon wrth ymdrochi yn Ffynnon Beuno gerllaw cyn orwedd dros nos ar ben y bedd.
Tua 1793 trefnodd Arglwydd Newborough i'r bedd gael ei agor i chwilio am arch Beuno, ond ni chafwyd hyd i ddim byd.
Wedi hynny, roedd y capel yn cael ei ddefnyddio gan Eben Fardd ar gyfer yr ysgol eglwysig a gadwai ar gyfer y pentref, rhwng 1827 a 1849.[2]