Syr Ifor Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
==Syr Ifor Williams== | ==Syr Ifor Williams== | ||
Roedd Syr '''Ifor Williams''' (1881-1965) yn un o ysgolheigion mwyaf blaenllaw Cymru. | Roedd Syr '''Ifor Williams''' (16 Ebrill 1881 - 4 Tachwedd 1965) yn un o ysgolheigion mwyaf blaenllaw Cymru. | ||
Ganed ym Mhendinas, Tre-garth, Arfon, 16 Ebrill 1881. Bu yn Ysgol Friars ym Mangor am flwyddyn yn unig gan iddo anafu ei gefn a’i gaethiwo i’r gwely am rai blynyddoedd. | Ganed ym Mhendinas, Tre-garth, Arfon, 16 Ebrill 1881. Bu yn Ysgol Friars ym Mangor am flwyddyn yn unig gan iddo anafu ei gefn a’i gaethiwo i’r gwely am rai blynyddoedd. |
Fersiwn yn ôl 14:07, 1 Mai 2019
Syr Ifor Williams
Roedd Syr Ifor Williams (16 Ebrill 1881 - 4 Tachwedd 1965) yn un o ysgolheigion mwyaf blaenllaw Cymru.
Ganed ym Mhendinas, Tre-garth, Arfon, 16 Ebrill 1881. Bu yn Ysgol Friars ym Mangor am flwyddyn yn unig gan iddo anafu ei gefn a’i gaethiwo i’r gwely am rai blynyddoedd.
Wedi gwella aeth i Ysgol Clynnog yn 1901 fel ymgeisydd am y weinidogaeth gyda’r Methodistiaid Calfinaidd. Oddi yno enillodd ysgoloriaeth i Goleg Bangor yn 1902 a graddio mewn Groeg yn 1905 ac yna yn y Gymraeg yn 1906. Yn ystod y sesiwn 1906-7 bu’n gynorthwywr i John Morris-Jones yn yr Adran Gymraeg ac yn gweithio ar radd MA. Penodwyd ef yn Ddarlithydd Cynorthwyol yn y Gymraeg yn 1907, a chafodd Gadair bersonol yn 1920. Ymddeolodd yn 1947, a bu farw 4 Tachwedd 1965.
Ei brif faes ymchwil oedd yr Hengerdd, sef y farddoniaeth gynharaf yn Gymraeg, a gysylltir ag enwau Aneirin, Taliesin a Llywarch Hen, a rhai cerddi eraill dienw. Gweithiodd yn ddi-fwlch ar gerdd Aneirin, Y Gododdin, rhwng 1906 a 1938. Ystyrir ei lyfrau yn orchestwaith: Canu Aneirin (1938),[1] Canu Llywarch Hen (1953), a Chanu Taliesin (1960).
Cyhoeddodd gannoedd o nodiadau ar ystyron geiriau yn ei lyfrau ac ym Mwletin y Bwrdd Celtaidd ac yn fynych byddai’n tynnu sylw at eiriau cyfatebol yn yr ieithoedd Celtaidd eraill. Y mae’r nodiadau hyn yn amhrisiadwy, nid yn unig i bawb sy’n gweithio ar hen destun ond i ysgolheictod Cymraeg yn gyffredinol. Ymddiddorai yn fawr mewn enwau lleoedd. Cyhoeddodd gyfres o erthyglau ar enwau lleoedd ardal Bethesda yn y papur lleol, Y Gwyliwr, yn 1907 a chyhoeddodd y gyfrol Enwau Lleoedd (1945).
Gwaith arall amhrisiadwy a wnaeth oedd cynhyrchu defnydd darllen i ysgolion a cholegau, e.e. Breuddwyd Maxen (1908), Cyfranc Lludd a Llevelys (1910), Chwedlau Odo (1926), Pedair Cainc y Mabinogi (1930). Yn 1914 cyhoeddodd ddetholiad o gywyddau Dafydd ap Gwilym a’i gyfoeswyr ar y cyd â Thomas Roberts.[2]
Yr oedd yn siaradwr cyhoeddus rhagorol a ddarlledwr poblogaidd ar y radio a chyhoeddwyd rhai o’i sgyrsiau : Meddwn i (1946), I ddifyrru’r Amser (1959) a Meddai Syr Ifor (1968).
Priododd â Myfanwy Jones, Cae-glas,Pontlyfni,[3] yn 1913. Cartrefodd y ddau yn Hafod Lwyd, Pontlyfni. Roedd ganddynt ferch a mab. Bu farw 4 Tachwedd 1965 a chladdwyd ef ym mynwent Brynaerau.