Plas Tal-y-sarn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae '''Plas Tal-y-sarn''', sydd yn furddun erbyn hyn, yn sefyll ar ochr yr hen lôn o [[Pen-y-groes|Ben-y-groes]] i [[Nantlle]] i'r dwyrain o bentref presennol [[Tal-y-sarn]], yng nghanol gweithfeydd a thomenni llechi'r oes o'r blaen. Mae'n dyddio'n wreiddiol o'r 18g, gyda llawer o welliannau diweddarach. Dichon iddo gymryd ei enw oddi wrth [[Sarn Wyth Dŵr]] ar hyd yr hwnnw y redai ffordd o [[Tan'rallt|Dan'rallt]] a [[Dol | Mae '''Plas Tal-y-sarn''', sydd yn furddun erbyn hyn, yn sefyll ar ochr yr hen lôn o [[Pen-y-groes|Ben-y-groes]] i [[Nantlle]] i'r dwyrain o bentref presennol [[Tal-y-sarn]], yng nghanol gweithfeydd a thomenni llechi'r oes o'r blaen. Mae'n dyddio'n wreiddiol o'r 18g, gyda llawer o welliannau diweddarach. Dichon iddo gymryd ei enw oddi wrth [[Sarn Wyth Dŵr]] ar hyd yr hwnnw y redai ffordd o [[Tan'rallt|Dan'rallt]] a [[Dol-bebin]] ar draws corsydd gwaelod y dyffryn gan gwrdd â'r ffordd o Ben-y-groes i Nantlle. Rhedai [[Rheilffordd Nantlle]] yn syth y tu ôl i'r Plas. | ||
Adeilad ydoedd a helaethwyd yn y 19g, fel tŷ mawr tri llawr. Saif ar gyrion [[Chwarel Tal-y-sarn]] a gwasanaethai fel cartref yn gyntaf i reolwr y chwarel, [[George Bowness]] a'i teulu erbyn 1851,<ref>Cyfrifiad Llandwrog 1851</ref> ac wedyn i berchennog y chwarel honno, sef [[John Robinson]] a symudodd yno yn ystod y 1860au. Roedd yno gerddi, stablau a holl adeiladau atodol eraill y byddai rhywun yn eu gweld ger tŷ mawr o'r fath, gan gynnwys hyd yn oed capel Gothig ei arddull. Mae map Ordnans 1916 yn dangos gerddi addurniedig gyda ffynnon (''fountain'') o flaen ac i ochr y Plas, a dywedir bod honno wedi codi i ddynodi penbwlydd 21 oed un o ferched y teulu.<ref>Gwefan ''Coflein'', safleoedd 16874, 31440, 86485 (cyrchwyd 9.4.2019) [https://coflein.gov.uk/cy/]</ref> | Adeilad ydoedd a helaethwyd yn y 19g, fel tŷ mawr tri llawr. Saif ar gyrion [[Chwarel Tal-y-sarn]] a gwasanaethai fel cartref yn gyntaf i reolwr y chwarel, [[George Bowness]] a'i teulu erbyn 1851,<ref>Cyfrifiad Llandwrog 1851</ref> ac wedyn i berchennog y chwarel honno, sef [[John Robinson]] a symudodd yno yn ystod y 1860au. Roedd yno gerddi, stablau a holl adeiladau atodol eraill y byddai rhywun yn eu gweld ger tŷ mawr o'r fath, gan gynnwys hyd yn oed capel Gothig ei arddull. Mae map Ordnans 1916 yn dangos gerddi addurniedig gyda ffynnon (''fountain'') o flaen ac i ochr y Plas, a dywedir bod honno wedi codi i ddynodi penbwlydd 21 oed un o ferched y teulu.<ref>Gwefan ''Coflein'', safleoedd 16874, 31440, 86485 (cyrchwyd 9.4.2019) [https://coflein.gov.uk/cy/]</ref> |
Fersiwn yn ôl 15:23, 11 Ebrill 2019
Mae Plas Tal-y-sarn, sydd yn furddun erbyn hyn, yn sefyll ar ochr yr hen lôn o Ben-y-groes i Nantlle i'r dwyrain o bentref presennol Tal-y-sarn, yng nghanol gweithfeydd a thomenni llechi'r oes o'r blaen. Mae'n dyddio'n wreiddiol o'r 18g, gyda llawer o welliannau diweddarach. Dichon iddo gymryd ei enw oddi wrth Sarn Wyth Dŵr ar hyd yr hwnnw y redai ffordd o Dan'rallt a Dol-bebin ar draws corsydd gwaelod y dyffryn gan gwrdd â'r ffordd o Ben-y-groes i Nantlle. Rhedai Rheilffordd Nantlle yn syth y tu ôl i'r Plas.
Adeilad ydoedd a helaethwyd yn y 19g, fel tŷ mawr tri llawr. Saif ar gyrion Chwarel Tal-y-sarn a gwasanaethai fel cartref yn gyntaf i reolwr y chwarel, George Bowness a'i teulu erbyn 1851,[1] ac wedyn i berchennog y chwarel honno, sef John Robinson a symudodd yno yn ystod y 1860au. Roedd yno gerddi, stablau a holl adeiladau atodol eraill y byddai rhywun yn eu gweld ger tŷ mawr o'r fath, gan gynnwys hyd yn oed capel Gothig ei arddull. Mae map Ordnans 1916 yn dangos gerddi addurniedig gyda ffynnon (fountain) o flaen ac i ochr y Plas, a dywedir bod honno wedi codi i ddynodi penbwlydd 21 oed un o ferched y teulu.[2]
Ar ôl marwolaeth ei fab, Thomas Robinson, ym 1905, fe werthwyd y Plas i gwmni Chwarel Dorothea. Defnyddid rhai o'r adeiladau fel swyddfeydd a baddondy i'r gweithwyr yn y chwarel. Efallai mai dyma pam y gelwir y Plas yn "Blas Dorothea" weithiau ond mae hynny'n hollol anghywir; mae Plas Dorothea yn nes at yr afon i gyfeiriad Dol Bebin.. Oherwydd tŵf y chwareli, fodd bynnag, a'r ffaith fod cwymp o graig yn Chwarel Dorothea i'r de wedi dod yn agos at dir y Plas, fe'i gadawyd ac yn raddol mae wedi dadfeilio, er bod digon o'r waliau ar ôl i rywun gael syniad o faint ac edrychiad y lle pan oedd yn ei anterth.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma