Plas Tal-y-sarn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Plas Tal-y-sarn''', sydd yn furddun erbyn hyn, yn sefyll ar ochr yr hen lôn o Ben-y-groes i Nantlle i'r dwyrain o bentref presennol Tal-...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae '''Plas Tal-y-sarn''', sydd yn furddun erbyn hyn, yn sefyll ar ochr yr hen lôn o [[Ben-y-groes]] i [[Nantlle]] i'r dwyrain o bentref presennol [[Tal-y-sarn]], yng nghanol gweithfeydd a thomenni llechi'r oes o'r blaen. | Mae '''Plas Tal-y-sarn''', sydd yn furddun erbyn hyn, yn sefyll ar ochr yr hen lôn o [[Pen-y-groes|Ben-y-groes]] i [[Nantlle]] i'r dwyrain o bentref presennol [[Tal-y-sarn]], yng nghanol gweithfeydd a thomenni llechi'r oes o'r blaen. Dichon iddo gymryd ei enw oddi wrth [[Sarn Wyth Dŵr]] ar hyd yr hwnnw y redai ffordd o [[Tan'rallt|Dan'rallt]] a [[Dol Bebin]] ar draws corsydd gwaelod y dyffryn gan gwrdd â'r ffordd o Ben-y-groes i Nantlle. | ||
Adeilad ydoedd a helaethwyd yn y 19g, ar gyrion [[Chwarel Tal-y-sarn]] fel cartref i berchennog y chwarel honno, sef [[John Robinson]] a symudodd yno yn ystod y 1860au. Roedd yno gerddi, stablau a holl adeiladau atodol eraill y byddai rhywun yn eu gweld ger tŷ mawr o'r fath. Oherwydd tŵf y chwareli, fodd bynnag, a'r ffaith fod ffordd newydd i'r de o'r afon wedi ei wneud yn y 1920au, gadawyd y Plas ac yn raddol mae wedi dadfeilio, er bod digon o'r waliau ar ol i rywun gael syniad o faint ac edrychiad y lle pan oedd yn ei anterth. |
Fersiwn yn ôl 09:08, 9 Ebrill 2019
Mae Plas Tal-y-sarn, sydd yn furddun erbyn hyn, yn sefyll ar ochr yr hen lôn o Ben-y-groes i Nantlle i'r dwyrain o bentref presennol Tal-y-sarn, yng nghanol gweithfeydd a thomenni llechi'r oes o'r blaen. Dichon iddo gymryd ei enw oddi wrth Sarn Wyth Dŵr ar hyd yr hwnnw y redai ffordd o Dan'rallt a Dol Bebin ar draws corsydd gwaelod y dyffryn gan gwrdd â'r ffordd o Ben-y-groes i Nantlle.
Adeilad ydoedd a helaethwyd yn y 19g, ar gyrion Chwarel Tal-y-sarn fel cartref i berchennog y chwarel honno, sef John Robinson a symudodd yno yn ystod y 1860au. Roedd yno gerddi, stablau a holl adeiladau atodol eraill y byddai rhywun yn eu gweld ger tŷ mawr o'r fath. Oherwydd tŵf y chwareli, fodd bynnag, a'r ffaith fod ffordd newydd i'r de o'r afon wedi ei wneud yn y 1920au, gadawyd y Plas ac yn raddol mae wedi dadfeilio, er bod digon o'r waliau ar ol i rywun gael syniad o faint ac edrychiad y lle pan oedd yn ei anterth.