George Bettiss: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''George Bettiss''' yn ffigwr amlwg ym mywyd Caernarfon a Dyffryn Nantlle ar ddechrau'r 19g. Bu'n rheoli Gwesty'y Sportsman yn Stryd y Castell,...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 4: Llinell 4:

Yn ogystal â hyn oll, bu'n bartner yn un o chwareli Dyffryn Nantlle, [[Chwarel Hafodlas]] o tua 1810 ymlaen. Roedd yn amheus ar y dechrau o adeiladu [[Rheilffordd Nantlle]], ac nid Hafodlas oedd ymysg y chwareli cyntaf i ddefnyddio'r rheilffordd pan iddi agor ym 1828, er i lechi Hafodlas gael eu cludo ar hyd-ddi o Ionawr 1829 ymlaen.<ref>G.H. Williams, ''Swn y Trên sy'n Taranu'', (Caernarfon, 2018).</ref> Dichon mai oherwydd y ffaith nad oedd Ystad Glynllifon â diddordebau ym maes llechi'r dyffryn ac yntau'n asiant iddi y bu'n hwyrfrydig i groesawu'r rheilffordd i'r lle er iddo fod yn aelod o fwrdd y cwmni o'r dechrau, ac yn berthen ar 5% o'r cyfranddaliadau.<ref>Archifdy Gwynedd, XM/9309/4</ref>

{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Cyfalafwyr]]

Fersiwn yn ôl 11:50, 6 Ebrill 2019

Roedd George Bettiss yn ffigwr amlwg ym mywyd Caernarfon a Dyffryn Nantlle ar ddechrau'r 19g. Bu'n rheoli Gwesty'y Sportsman yn Stryd y Castell, Caernarfon, un o brif westai neu dafarnau'r dref lle cychwynnodd coetsis. Yn y Sportsman arhosodd Dr Samuel Johnson a Mrs Thrale wrth ymweld â'r ardal.

Roedd George Bettiss hefyd yn asiant i Ystad Glynllifon a'r Arglwyddi Newborough,yn prynu nwyddau, edrych at faterion ynglŷn â thenantiaeth eiddo'r ystad yn y dref. Mae dwsinau o'i lythyrau at y 3ydd Arglwydd Newborough ymysg archifau Glynllifon yn Archifdy Gwynedd.[1]

Yn ogystal â hyn oll, bu'n bartner yn un o chwareli Dyffryn Nantlle, Chwarel Hafodlas o tua 1810 ymlaen. Roedd yn amheus ar y dechrau o adeiladu Rheilffordd Nantlle, ac nid Hafodlas oedd ymysg y chwareli cyntaf i ddefnyddio'r rheilffordd pan iddi agor ym 1828, er i lechi Hafodlas gael eu cludo ar hyd-ddi o Ionawr 1829 ymlaen.[2] Dichon mai oherwydd y ffaith nad oedd Ystad Glynllifon â diddordebau ym maes llechi'r dyffryn ac yntau'n asiant iddi y bu'n hwyrfrydig i groesawu'r rheilffordd i'r lle er iddo fod yn aelod o fwrdd y cwmni o'r dechrau, ac yn berthen ar 5% o'r cyfranddaliadau.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XD2/passim.
  2. G.H. Williams, Swn y Trên sy'n Taranu, (Caernarfon, 2018).
  3. Archifdy Gwynedd, XM/9309/4