Pont y Gelynnen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
B Symudodd Heulfryn y dudalen Pont Gelynan i Pont Gelenau
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:37, 26 Ionawr 2019

Saif Pont Gelenau ar yr B4410, sef yr hen ffordd dyrpeg, ger y Gelli rhwng Nantlle a Drws-y-coed. Mae'r bont yn sefyll hanner ffordd rhwng Ysgol Baladeulyn a fferm Gelli-ffrydiau. Pont weddol ddi-nôd yw, dros nant sy'n rhedeg i mewn i Llyn Nantlle Uchaf. Bwa syml wedi ei wneud o gerrig yw’r bont, tua 12 troedfedd o led a phen y bwa 9 troedfedd uwchben dŵr yr afon. Fe adeiladwyd yn newydd ym 1855, ac yr oedd rhaid i’r contractwr ddarparu ffordd dros dro tra oedd y gwaith yn mynd rhagddo. Fe adeiladwyd gan William Thomas, adeiladydd o Ffordd Ysgubor Degwm yng Nghaernarfon. Cost y gwaith oedd £52.10s.

Mewn dogfennau cyn cyfnod y mapiau Ordnans, fe elwir y bont yn Bont Gelynan. Nid yw'n glir pa enw yw'r un cywir erbyn hyn. [1]


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XPlansB/28