Ffrwd Cae Du: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Ffrwd Cae Du''' yn gasgliad o dai ar un ochr priffordd yr A487, ac un ochr y ffordd sydd yn rhedeg o'r A487 i gyfeiriad Rhostryfan, ac fe ystyr...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae '''Ffrwd Cae Du''' yn gasgliad o dai ar un ochr priffordd yr A487, ac un ochr y ffordd sydd yn rhedeg o'r A487 i gyfeiriad [[Rhostryfan]], ac fe ystyrir yn aml fel rhan o'r [[Bontnewydd]]. | Mae '''Ffrwd Cae Du''' yn gasgliad o dai ar un ochr priffordd yr A487, ac un ochr y ffordd sydd yn rhedeg o'r A487 i gyfeiriad [[Rhostryfan]], ac fe ystyrir yn aml fel rhan o'r [[Bontnewydd]]. A barnu oddi wrth fapiau Ordnans, fe godwyd tŷ Gwylfa (sydd yn awr yn gartref nyrsio ac a fu ar y dechrau'n ddau dŷ) tua 1910. Fe godwyd y tai cyntaf ar ôl hynny yn y cyfnod cyn yr ail ryfel byd ar hyd y briffordd, gyda'r tai ar hyd lôn Rhostryfan rywfaint yn ddiweddarach. Codwyd ambell i dŷ mewn bylchau yn y rhes wedi hynny, a thua 2003 adeiladwyd ystad fechan Gerddi'r Benar, ar dir a fu gynt yn feithrinfa blanhigion yn perthyn i dŷ cyfagos Benar. | ||
Ymysg y trigolion nodedig, gellir enwi [[Geraint Lloyd Owen]], y cyn-archdderwydd. | Ymysg y trigolion nodedig, gellir enwi [[Geraint Lloyd Owen]], y cyn-archdderwydd. |
Fersiwn yn ôl 17:54, 24 Ionawr 2019
Mae Ffrwd Cae Du yn gasgliad o dai ar un ochr priffordd yr A487, ac un ochr y ffordd sydd yn rhedeg o'r A487 i gyfeiriad Rhostryfan, ac fe ystyrir yn aml fel rhan o'r Bontnewydd. A barnu oddi wrth fapiau Ordnans, fe godwyd tŷ Gwylfa (sydd yn awr yn gartref nyrsio ac a fu ar y dechrau'n ddau dŷ) tua 1910. Fe godwyd y tai cyntaf ar ôl hynny yn y cyfnod cyn yr ail ryfel byd ar hyd y briffordd, gyda'r tai ar hyd lôn Rhostryfan rywfaint yn ddiweddarach. Codwyd ambell i dŷ mewn bylchau yn y rhes wedi hynny, a thua 2003 adeiladwyd ystad fechan Gerddi'r Benar, ar dir a fu gynt yn feithrinfa blanhigion yn perthyn i dŷ cyfagos Benar.
Ymysg y trigolion nodedig, gellir enwi Geraint Lloyd Owen, y cyn-archdderwydd.
Ni fu erioed unrhyw adnoddau cymunedol yma heblaw am arosfan bysiau a blwch post.
Mae'r enw'n ddirgelwch: nid oes nant o'r enw Ffrwd Cae Du yn y cyffiniau, ac ni welir yr enw Cae Du ar fapiau degwm y plwyf.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma