Richard Garnons: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cledrau (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Cledrau (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Richard Garnons''' (29 Rhagfyr 1773 - 8 Awst 1841) oedd yr olaf o linach [[Teulu Garnons]] i fod â chysylltiad â Dyffryn Nantlle, er efallai iddo wneud mwy o farc llythrennol ar y dyffryn na'i ragflaenwyr a oedd eu cartref ym [[Pant Du|Mhant Du]]. Priododd â Dorothy Foulkes (marw 1853), trydedd ferch y Parch John Foulkes, ficer Chwitffordd, Sir y Fflint, fis Ebrill 1797. Ni chawsant unrhyw blant.<ref>J.E. Griffiths, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), t.157</ref> | '''Richard Garnons''' (29 Rhagfyr 1773 - 8 Awst 1841) oedd yr olaf o linach [[Teulu Garnons]] i fod â chysylltiad â Dyffryn Nantlle, er efallai iddo wneud mwy o farc llythrennol ar y dyffryn na'i ragflaenwyr a oedd eu cartref ym [[Pant Du|Mhant Du]]. Priododd â Dorothy Foulkes (marw 1853), trydedd ferch y Parch John Foulkes, ficer Chwitffordd, Sir y Fflint, fis Ebrill 1797. Ni chawsant unrhyw blant. Gan iddo gael ei eni yn Sir y Fflint a marw yno, dichon iddo dreulio llawer o'i amser yno, er iddo barhau'n ffigwr o bwys ym mhlwyf [[Llanllyfni]]. <ref>J.E. Griffiths, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), t.157</ref> | ||
Datblygodd Garnons [[Chwarel Pen-y-bryn]] neu [[Cloddfa'r Lôn|Gloddfa'r Lôn]] oedd yn rhan o'i ystad yn y dyddiau cyn iddi ddod yn rhan o [[Chwarel Dorothea]], trwy roi prydles yn y lle cyntaf o'r chwarel i Hugh Jones, William Turner a William Wynne ym mis Medi 1801. Erbyn 1808 os nad cynt roedd Garnons yn un o'r partneriaid yn y busnes. Yn y man, cymerodd Garnons y chwarel ymlaen ar ei liwt ei hun nes ei phasio i gwmni newydd ym 1834. <ref>Jean Lindsay, ''A History of the North Wales Slate Industry'', tt.77-8; 97-8; 121.</ref> | Datblygodd Garnons [[Chwarel Pen-y-bryn]] neu [[Cloddfa'r Lôn|Gloddfa'r Lôn]] oedd yn rhan o'i ystad yn y dyddiau cyn iddi ddod yn rhan o [[Chwarel Dorothea]], trwy roi prydles yn y lle cyntaf o'r chwarel i Hugh Jones, William Turner a William Wynne ym mis Medi 1801. Erbyn 1808 os nad cynt roedd Garnons yn un o'r partneriaid yn y busnes. Yn y man, cymerodd Garnons y chwarel ymlaen ar ei liwt ei hun nes ei phasio i gwmni newydd ym 1834. <ref>Jean Lindsay, ''A History of the North Wales Slate Industry'', tt.77-8; 97-8; 121.</ref> Maes o law, a'r chwarel wedi dod yn rhan o chwarel [[Cloddfa Turner]], fe enwyd y chwarel gyfan yn "[[Chwarel Dorothea]]", oherwydd (mae'n debyg) enw gwraig Garnons y tirfeddiannwr.<ref>Jean Lindsay, ''op.cit.'', t.121</ref> | ||
Pan trafodwyd creu rheilffordd i gludo'r llechi o'r dyffryn, cymerodd Garnons gyfranddaliadau yn y cwmni, sef [[Cwmni Rheilffordd Nantlle]]. | Pan trafodwyd creu rheilffordd i gludo'r llechi o'r dyffryn, cymerodd Garnons gyfranddaliadau yn y cwmni, sef [[Cwmni Rheilffordd Nantlle]]. Cafwyd trafferth i lywio'r mesur i ganiatáu'r lein trwy'r Senedd, ond fe'i basiwyd yn y diwedd oherwdd dylanwad Garnons fel twrnai yr Ardalydd Môn ar ei gleient, a ddefnyddiodd hwnnw ei rwydwaith o gysylltiadau yn San Steffan wedyn i sicrhau llwyddiant y mesur.<ref>J.I.C. Boyd, ''Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire'', (Oakwood, 1981) Cyf. 1, tt.11-13; Gareth Haulfryn Williams, ''Sŵn y Trên sy'n Taranu'', (Caernarfon, 2018), t.9</ref> | ||
Erbyn etholiadau 1830 ac 1832, fodd bynnag, roedd Garnons, fel tori, yn ffyrnig yn erbyn pasio Deddf Ddiwygio'r Senedd, ac er yn dawel gefnogol i Syr Charles Paget, whig a brawd iau Ardalydd Môn ym 1830, erbyn 1832, fe trôdd i fod yn gefnogol iawn i William Ormsby Gore, yr ymgeisydd a wrthwynebodd Paget.<ref>Llewelyn Jones, ''Sir Charles Paget and the Caernarvonshire Boroughs, 1830-1832'', Trafodion Cy,. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.21, (1960), tt. 81, 89-90</ref> | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Fersiwn yn ôl 17:29, 15 Ionawr 2019
Richard Garnons (29 Rhagfyr 1773 - 8 Awst 1841) oedd yr olaf o linach Teulu Garnons i fod â chysylltiad â Dyffryn Nantlle, er efallai iddo wneud mwy o farc llythrennol ar y dyffryn na'i ragflaenwyr a oedd eu cartref ym Mhant Du. Priododd â Dorothy Foulkes (marw 1853), trydedd ferch y Parch John Foulkes, ficer Chwitffordd, Sir y Fflint, fis Ebrill 1797. Ni chawsant unrhyw blant. Gan iddo gael ei eni yn Sir y Fflint a marw yno, dichon iddo dreulio llawer o'i amser yno, er iddo barhau'n ffigwr o bwys ym mhlwyf Llanllyfni. [1]
Datblygodd Garnons Chwarel Pen-y-bryn neu Gloddfa'r Lôn oedd yn rhan o'i ystad yn y dyddiau cyn iddi ddod yn rhan o Chwarel Dorothea, trwy roi prydles yn y lle cyntaf o'r chwarel i Hugh Jones, William Turner a William Wynne ym mis Medi 1801. Erbyn 1808 os nad cynt roedd Garnons yn un o'r partneriaid yn y busnes. Yn y man, cymerodd Garnons y chwarel ymlaen ar ei liwt ei hun nes ei phasio i gwmni newydd ym 1834. [2] Maes o law, a'r chwarel wedi dod yn rhan o chwarel Cloddfa Turner, fe enwyd y chwarel gyfan yn "Chwarel Dorothea", oherwydd (mae'n debyg) enw gwraig Garnons y tirfeddiannwr.[3]
Pan trafodwyd creu rheilffordd i gludo'r llechi o'r dyffryn, cymerodd Garnons gyfranddaliadau yn y cwmni, sef Cwmni Rheilffordd Nantlle. Cafwyd trafferth i lywio'r mesur i ganiatáu'r lein trwy'r Senedd, ond fe'i basiwyd yn y diwedd oherwdd dylanwad Garnons fel twrnai yr Ardalydd Môn ar ei gleient, a ddefnyddiodd hwnnw ei rwydwaith o gysylltiadau yn San Steffan wedyn i sicrhau llwyddiant y mesur.[4]
Erbyn etholiadau 1830 ac 1832, fodd bynnag, roedd Garnons, fel tori, yn ffyrnig yn erbyn pasio Deddf Ddiwygio'r Senedd, ac er yn dawel gefnogol i Syr Charles Paget, whig a brawd iau Ardalydd Môn ym 1830, erbyn 1832, fe trôdd i fod yn gefnogol iawn i William Ormsby Gore, yr ymgeisydd a wrthwynebodd Paget.[5]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ J.E. Griffiths, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.157
- ↑ Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry, tt.77-8; 97-8; 121.
- ↑ Jean Lindsay, op.cit., t.121
- ↑ J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, (Oakwood, 1981) Cyf. 1, tt.11-13; Gareth Haulfryn Williams, Sŵn y Trên sy'n Taranu, (Caernarfon, 2018), t.9
- ↑ Llewelyn Jones, Sir Charles Paget and the Caernarvonshire Boroughs, 1830-1832, Trafodion Cy,. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.21, (1960), tt. 81, 89-90