Dewi Tomos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 18: | Llinell 18: | ||
Ganwyd a magwyd Dewi yng Ngharmel. Gwelfor oedd ei gartref ef a'i wraig, Mair, yn Rhostryfan. | Ganwyd a magwyd Dewi yng Ngharmel. Gwelfor oedd ei gartref ef a'i wraig, Mair, yn Rhostryfan. | ||
Cawsant dri o blant: Gwydion, Rhiannon a Gwenllian. | Cawsant dri o blant: Gwydion, Rhiannon a Gwenllian. | ||
Ffynhonnell: | |||
''Rhaglen y Dydd'', Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Meirion a'r Cyffiniau, 2009 | |||
a Gwybodaeth Bersonol. |
Fersiwn yn ôl 22:13, 31 Rhagfyr 2018
Dewi Hywel Tomos (1943 – 2012)
Dirprwy brifathro Ysgol Bro Lleu cyn ymddeol, llenor, cenedlaetholwr brwd, hanesydd, naturiaethwr, rhedwr, a cherddwr a ymhyfrydodd yn nhreftadaeth ei fro nes iddo gyfoethogi diwylliant Cymru gyfan. Bu’n weithgar yn yr ymgyrch i sicrhau cymhorthal Cronfa Dreftadaeth y Loteri i adnewyddu Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts yn Rhosgadfan a agorwyd yn 2007 ac ef oedd Cadeirydd brwd y Ganolfan yn ei flynyddoedd olaf. Byddai ei frwdfrydedd a’i ddyfalbarhad yn ysbrydoliaeth i bawb a rhan bwysig o’i weithgareddau fyddai arwain teithiau cerdded i ddosbarthiadau o blant ysgol a grwpiau o oedolion o gwmpas yr aral i’w dysgu am Kate Roberts a’i gwaith a’i chefndir chwarelyddol a’r chwarelwyr a’r tyddynwyr a byd natur, ac yn aml iawn byddai ei ferch, Gwenllian yn mynd gydag ef i ddarllen darnau perthnasol o waith Kate Roberts a llenorion eraill yr ardal. Byddai hithau hefyd yn gyfrifol am nifer fawr o weithgareddau yn y Ganolfan, i blant ac oedolion.
Enillodd nifer o gadeiriau a medalau a gwobrau cenedlaethol ac fe’i hurddwyd yng Ngorsedd Eisteddfod Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Meirion a’r Cyffiniau, 2009, i’r Urdd Ofydd er Anrhydedd.
Cyhoeddodd lyfrau sydd yn drysorfeydd o hanes a thraddodiadau lleol, e.e. Llyfrau Llafar Gwlad 72: Llyfr Lloffion Cae’r Gors, Gwasg Carreg Gwalch, 2009; O Gwmpas y Foel, Gwasg Carreg Gwalch, 2007; The Quarrymen’s Tyddynnod, Gwasg Carreg Gwalch, 2007; Cyfres Broydd Cymru 16: Eryri, Gwasg Carreg Gwalch, 2005; Llyfrau Llafar Gwlad 67: Chwareli Dyffryn Nantlle, Gwasg Carreg Gwalch, ; Llyfrau Llafar Gwlad 59: Tyddynnod y Chwarelwyr, Gwasg Carreg Gwalch, 2004; Atgof Atgof Gynt, Darlith Flynyddol Llyfrgell Pen-y-groes, Cyngor Gwynedd, 1997; Straeon Gwydion, Gwasg Carreg Gwalch, 1990; Crwydro Bro Lleu, Gwasg Carreg Gwalch, 1990.
Ganwyd a magwyd Dewi yng Ngharmel. Gwelfor oedd ei gartref ef a'i wraig, Mair, yn Rhostryfan. Cawsant dri o blant: Gwydion, Rhiannon a Gwenllian.
Ffynhonnell:
Rhaglen y Dydd, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Meirion a'r Cyffiniau, 2009
a Gwybodaeth Bersonol.