Chwarel Pen-yr-orsedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Agorwyd y chwarel yn wreiddiol gan [[William Turner]] tua 1816, ac erbyn 1854, John Lloyd Jones oedd y perchennog. Ym 1863, fe'i prynwyd gan [[W.A. Darbishire]] a'i gwmni. Er gwaethaf trafferthion i gynhyrchu digon o lechi yn y blynyddoedd cynnar, roedd 7999 tunnell wedi eu cynhyrchu ym 1882, gan 261 o chwarelwyr. Ym 1892 roedd 445 yn gweithio yno, fel y crynhôdd y diwydiant i nifer llai o chwareli mwy.  
Agorwyd y chwarel yn wreiddiol gan [[William Turner]] tua 1816, ac erbyn 1854, John Lloyd Jones oedd y perchennog. Ym 1863, fe'i prynwyd gan [[W.A. Darbishire]] a'i gwmni. Er gwaethaf trafferthion i gynhyrchu digon o lechi yn y blynyddoedd cynnar, roedd 7999 tunnell wedi eu cynhyrchu ym 1882, gan 261 o chwarelwyr. Ym 1892 roedd 445 yn gweithio yno, fel y crynhôdd y diwydiant i nifer llai o chwareli mwy.  
[[Delwedd:Wici093.jpg|bawd|de|250px|Llyfr rheolau'r chwarel, 1895]]
[[Delwedd:Wici093.jpg|bawd|de|250px|Llyfr rheolau'r chwarel, 1895]]
[[Delwedd:Wici090.jpg|bawd|de|400px]]
[[Delwedd:Wici090.jpg|bawd|de|400px|Mae'n debyg mai ar gyfer Mr darbishire yn bennaf oedd y fersiwn Saesneg! Sylwer ar y gair ''cymeriad'' i ddisgrifio'r ''fargen'' y mae chwarelwr yn ''cymryd'' neu gytuno i'w weithio]]
[[Delwedd:Wici091.jpg|bawd|de|400px]]
[[Delwedd:Wici091.jpg|bawd|de|400px]]
[[Delwedd:Wici092.jpg|bawd|de|400px]]
[[Delwedd:Wici092.jpg|bawd|de|400px]]

Fersiwn yn ôl 19:18, 18 Rhagfyr 2018

Chwarel Pen-yr-orsedd oedd y prif chwarel lechi yn nwyrain Dyffryn Nantlle, uwchben pentref presennol Nantlle. (SH 518538). Roedd yn fan derfyn i lein Rheilffordd Nantlle a hon oedd y chwarel olaf i'w defnyddio ym 1963.

Agorwyd y chwarel yn wreiddiol gan William Turner tua 1816, ac erbyn 1854, John Lloyd Jones oedd y perchennog. Ym 1863, fe'i prynwyd gan W.A. Darbishire a'i gwmni. Er gwaethaf trafferthion i gynhyrchu digon o lechi yn y blynyddoedd cynnar, roedd 7999 tunnell wedi eu cynhyrchu ym 1882, gan 261 o chwarelwyr. Ym 1892 roedd 445 yn gweithio yno, fel y crynhôdd y diwydiant i nifer llai o chwareli mwy.

Llyfr rheolau'r chwarel, 1895
Mae'n debyg mai ar gyfer Mr darbishire yn bennaf oedd y fersiwn Saesneg! Sylwer ar y gair cymeriad i ddisgrifio'r fargen y mae chwarelwr yn cymryd neu gytuno i'w weithio

Ym 1945-6, roedd 180 o ddynion wedi cynhyrchu 3431 tunnell. Mor ddiweddar a1972, ropedd ugain o chwarelwyr yn dal i weithio yno.[1]

Caewyd y chwarel ym 1997, ond mae rhywfaint o waith yn mynd ymlaen ar y safle o hyd. Ym 2006, enillodd cynllun i adfer rhai o adeiladau Pen yr Orsedd rownd Cymru yng nghyfres deledu'r BBC Restoration Village, er na fu'n llwyddiannus yn y rownd derfynol. Mae'r elusen Tirwedd wedi gwneud cais am arian i adfer yr adeiladau hyn a'u troi'n ganolfan i'r gymdeithas leol.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry,(Newton Abbot, 1974), t. 328-9.
  2. Wicipedia, erthygl ar Pen yr Orsedd, [1], 23.10.2018.