Parc Dudley, Betws Garmon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Llifon (sgwrs | cyfraniadau)
Llifon (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 24: Llinell 24:
Mae’r coedwig Parc Dudley yn nghil yr haul (cyf. enw fferm “Cilhaul” heb fod ymhell i ffwrdd) mewn ardal o law uchel. Golyga hynny ei bod yn enghraifft o “Fforest-law Dymherus” gwlyb a thywyll, math o goedlan sydd yn brin yng ngogledd Gwynedd ac yn fwy nodweddiadol o ardal Ardudwy ym Meirion. Mae’r rhedynach teneuwe ‘’Hymenophyllum wilsonii’’ a’r mwsogl ‘’Bazzania trilobata” yn nodweddu’r math yma o gynefin.
Mae’r coedwig Parc Dudley yn nghil yr haul (cyf. enw fferm “Cilhaul” heb fod ymhell i ffwrdd) mewn ardal o law uchel. Golyga hynny ei bod yn enghraifft o “Fforest-law Dymherus” gwlyb a thywyll, math o goedlan sydd yn brin yng ngogledd Gwynedd ac yn fwy nodweddiadol o ardal Ardudwy ym Meirion. Mae’r rhedynach teneuwe ‘’Hymenophyllum wilsonii’’ a’r mwsogl ‘’Bazzania trilobata” yn nodweddu’r math yma o gynefin.


Detholiad o rywogaethau nodweddiadol:</br>
Detholiad o rywogaethau nodweddiadol:<br>
Cyffylog</br>
Cyffylog</br>
Cog</br>
Cog</br>

Fersiwn yn ôl 19:16, 4 Rhagfyr 2018

Parc Dydli (Uwchgwyrfai)

Mae Parc Dudley ym mhen deheuol llechwedd a adnabyddir fel Yr Alltgoed Mawr, ym mhlwyf Betws Garmon ar gyrion Y Waunfawr, Arfon. Sefydlwyd chwarel yno (yn wreiddiol fel Dudley Park [1] canol yr 19g a daeth y gwaith hwnnw i ben yn nechrau’r 1950au. Fe esgeuluswyd y safle am gyfnod gyda’r hen gyfarpar yn sefyll yn segur nes ei ddynodi yn Warchodfa Natur Leol yn 1994. Ysbeilwyd llawer o’r ‘’sets’’ a oedd yn weddill yn raddol gan y cyhoedd, er fod llawer i’w gweld yno o hyd yn y mannau uchaf mwy diarffordd.

Hanes y Parc a tharddiad yr enw

Rhwng y 1800au a 1950, chwarel carreg ithfaen oedd ar y safle hwn, ac roedd lein fach Rheilffordd Ucheldir Cymru yn cludo cerrig o'r chwarel i bentrefi a threfi ar draws y wiad. Gellir gweld nodweddion yr hen chwarel, fel hen olwynion pwli neu olion wagenni ar y safle hyd.

Cwmni o'r enw Dudley Park Quarries Ltd o ganolbarth Lloegr oedd perchennog y chwarel o gwmpas y flwyddyn 1928, a . dyna o ble daeth yr enw Parc Dudley.


Hanes blaenorol

Yn ôl map y degwm [[1]] perthynai’r safle i fferm Cilfechydd cyfagos. Y Parc a Chae Nant yw’r ddwy fferm arall sydd yn cyd-derfynnu â’r safle. Perchen Cilfechydd yng nghyfnod y Degwm (18Xx) oedd John Griffith Griffith a’r sawl a breswyliai yno oedd William Evans. Cofnodwyd enwau a defnydd parseli’r map Degwm sydd yn cydfynd â 44 erw y Warchodfa Leol heddiw fel a ganlyn (o waelod y llechwedd i fyny): Caer Dderwen [sic.], ‘’arable’’; Cae’r Clogwyn, ‘’pasture’’; Cae Canol, ‘’pasture’’. Er mai coed yw natur y safle heddiw trwy’r trwch, awgryma’r disgrifiadau hyn yn gryf nad coed oedd y llysdyfiant pennaf ar y pryd. Gellir tybio ymhellach na oddefid coed chwaith yn nghyfnod anterth y chwarel.

Dyma enwau a defnydd y caeau eraill dan berchnogaeth Cilfechydd sydd yn cyd-derfynnu â’r safle yn ôl y map Degwm: Cae Pen Ceunant, ‘’arable’’; Llain Garn, ‘’arable’’; Cae Newydd, ‘’pasture’’; Fron, ‘’pasture’’; Cae Saer, ‘’arable’’ (enw a allai olygu presenoldeb cyfagos o goed gwasgaredig neu mewn oes blaenorol - cyf. Yr Alltgoed Mawr lle ceir un cyfeiriad at ‘’plantation’’ ymysg nifer o barseli â disgrifiadau tebyg i’r uchod).

Awgryma dystolaeth y Degwm mai partrwm o dyddynnod bychain yn cael eu cynnal gan bori anifeiliaid, a thyfu cnydau ar fân gaeau a ffridd am yn ail a llechweddau lled-goediog oedd yma cyn y chwarel. Mae’r goedlan fel y mae heddiw yn drwch o goed eilradd gyda ond ychydig iawn o goed o faint safonol. Ceir ffridd mwy agored yn y mannau uchaf.

Gwarchodfa Natur Leol Parc Dudley

Mae Gwarchodfa Natur Leol Parc Dudley yn ymestyn o lawr dyffryn Gwyrfai hyd at lethrau Moel Smytho sydd o'ch blaen.

Drwy ddilyn y prif lwybrau o amgylch y warchodfa, gallwch ddod o hyd i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt lleol. Bydd Llwybr Gwern yn mynd a chi ar daith tua 150medr gweddol wastad sydd yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Neu, os ydych am weld rhagor ar y tirlun Ileol, beth am fentro ar hyd cylchdaith Llwybr y Goedlan sydd oddeutu 1 cilomedr o hyd ac a fydd yn mynd a chi ar daith drwy rai o gynefinoedd pwysicaf y Parc[2].

Bywyd Gwyllt

Mae’r coedwig Parc Dudley yn nghil yr haul (cyf. enw fferm “Cilhaul” heb fod ymhell i ffwrdd) mewn ardal o law uchel. Golyga hynny ei bod yn enghraifft o “Fforest-law Dymherus” gwlyb a thywyll, math o goedlan sydd yn brin yng ngogledd Gwynedd ac yn fwy nodweddiadol o ardal Ardudwy ym Meirion. Mae’r rhedynach teneuwe ‘’Hymenophyllum wilsonii’’ a’r mwsogl ‘’Bazzania trilobata” yn nodweddu’r math yma o gynefin.

Detholiad o rywogaethau nodweddiadol:
Cyffylog
Cog
Cnocell Werdd
Cnocell fraith
Delor y cnau Gwybedog brith Gwiber (yn ôl y mân hysbysfyrddau) Ystlum pedol lleiaf (yn ôl y mân hysbysfyrddau) Rhedynach teneuwe Wilsonii

Mae'r Parc yn hafan ddiogel i sawl rhywogaeth o fywyd gwyllt, ac mae cynefinoedd pwysig fel y goedlan lydanddail, a'r ffridd ar ran uchaf y warchodfa yn cael eu rheoli. Daw'r gwybedog brith yma o'r Affrig i nythu bob blwyddyn, ac mae nifer o greaduriaid cyfarwydd fel y mochyn daear, ysgyfarnog, a chnocell y coed wedi ymgartrefu yma, yn ogystal a sawl rhywogaeth o fwsogl, cen a llysiau'r afu.

Oherwydd pwysigrwydd y cynefinoedd hyn i fywyd gwyllt lleol, ac i warchod y safle rhag cael ei ddatblygu, cafodd y llain tir 44 erw hwn ei ddynodi yn Warchodfa Natur Leol yn 1994. Cyngor Gwynedd sy'n rheoli Parc Dudley er mwyn i chi allu mwynhau'r awyr agored a'r bywyd gwyllt lleal[3]

Amodau ymweld

Ni chaniateir crwydro oddi ar y llwybrau swyddogol. Dylid cadw arolygaeth glos ar blant dilyn y Côd Cefn Gwlad.

Fynonellau

  1. Cof Lleol
  2. Hysbysfwrdd ar y safle (2018) gan Gyngor Gwynedd
  3. Hysbysfwrdd ar y safle (2018) gan Gyngor Gwynedd