Mynydd y Cilgwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mynydd cymharol ddi-nod ynddo'i hun yw ''Mynydd Cilgwyn'' a welir yn glir o bron bob man yn Uwchwgyrfai uwchben pentref Carmel. Mynydd heb unrhyw...'
 
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 8: Llinell 8:
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}


[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol}}
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]]
[[Categori:Mynyddoedd]]
[[Categori:Mynyddoedd]]

Fersiwn yn ôl 18:09, 17 Tachwedd 2018

Mynydd cymharol ddi-nod ynddo'i hun yw Mynydd Cilgwyn a welir yn glir o bron bob man yn Uwchwgyrfai uwchben pentref Carmel. Mynydd heb unrhyw arwyneb creigiog sylweddol ydyw, wedi ei orchuddio'n bennaf gyda grug ac eithin. Enwogrwydd y man yw'r ffaith mai dyma y cychwynnodd diwydiant llechi Dyffryn Nantlle. Mae tystiolaeth bendant bod cloddio yma ym 1747, ond dywedir bod llechi wedi dod oddi yno hefyd yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid ac wedyn tua 1300.

Prif leoliad chwarelydda ar y mynydd yw'r llethrau deheuol yn edrych dros Ddyffryn Nantlle, lle datblygodd Chwarel Cilgwyn yn nifer o dyllau dwfn iawn. Erbyn hyn mae rhai wedi eu llenwi gydag ysbwriel.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau