John Robinson, perchennog chwareli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Ym 1871, talodd am gael codi [[Eglwys Sant Ioan, Tal-y-sarn]].<ref>Gwefan Treasure Maps gan Iain Robinson [http://robinsonmaps.blogspot.com/2014/02/the-dorothea-files-6-chapel-at-plas.html] cyrchwyd 29.10.201</ref>
Ym 1871, talodd am gael codi [[Eglwys Sant Ioan, Tal-y-sarn]].<ref>Gwefan Treasure Maps gan Iain Robinson [http://robinsonmaps.blogspot.com/2014/02/the-dorothea-files-6-chapel-at-plas.html] cyrchwyd 29.10.201</ref>


Roedd o'n dal i fyw ym Mhlas Tal-y-sarn ym 1895, ac erbyn hynny roedd wedi ei godi'n ynad heddwch,<ref>''Cyfarwyddiadur Slaters, Gogledd a Chanolbarth Cymru'', 1895, t.537.</ref> ac fe wasanaethodd fel uchel siryf y sir, 1898-9<ref>''Baner ac Amserau Cymru'', 26 Gorffennaf 1905; Gwefan Festipedia [https://www.festipedia.org.uk/wiki/Talk:Richard_Methuen_Greaves], cyrchwyd 29.10.2018</ref>Bu farw 1900.<ref>Rhestr o Farwolaethau Cymru a Lloegr, 1837-2007, Blwyddyn 1900, Llyfr 11B, t.371</ref>
Roedd o'n dal i fyw ym Mhlas Tal-y-sarn ym 1895, ac erbyn hynny roedd wedi ei godi'n ynad heddwch,<ref>''Cyfarwyddiadur Slaters, Gogledd a Chanolbarth Cymru'', 1895, t.537.</ref> ac fe wasanaethodd fel uchel siryf y sir, 1898-9.<ref>''Baner ac Amserau Cymru'', 26 Gorffennaf 1905; Gwefan Festipedia [https://www.festipedia.org.uk/wiki/Talk:Richard_Methuen_Greaves], cyrchwyd 29.10.2018</ref> Bu farw 1900.<ref>Rhestr o Farwolaethau Cymru a Lloegr, 1837-2007, Blwyddyn 1900, Llyfr 11B, t.371</ref>


Ni ddylid ei gymysgu â sawl John Robinson arall: John Robinson, mab Herbert Robinson o Dal-y-sarn, a feddyddiwyd ym 1777 ac oedd yn chwarelwr; a'i fab a aned ym 1805 yn Llanllyfni, ac sy'n cael ei restru fel Asiant Chwarel Lechi yng Nghyfrifiad 1861, yn byw yn Dorothea House, [[Tal-y-sarn]]. Dyn lleol oedd hwn, a drafododd y cyfrifiad yn Gymraeg yn ol y llyfr cyfrif.<ref>Archifdy Gwladol, RG9/4338.</ref> Roedd Robinson yn gyfenw ymysg Cymry'r ardal y pryd hynny fel heddiw, ond dichon nad oedd gan John Robinson, Plas Tal-y-sarn, unrhyw gysylltiad a'r rhain.
Ni ddylid ei gymysgu â sawl John Robinson arall: John Robinson, mab Herbert Robinson o Dal-y-sarn, a feddyddiwyd ym 1777 ac oedd yn chwarelwr; a'i fab a aned ym 1805 yn Llanllyfni, ac sy'n cael ei restru fel Asiant Chwarel Lechi yng Nghyfrifiad 1861, yn byw yn Dorothea House, [[Tal-y-sarn]]. Dyn lleol oedd hwn, a drafododd y cyfrifiad yn Gymraeg yn ol y llyfr cyfrif.<ref>Archifdy Gwladol, RG9/4338.</ref> Roedd Robinson yn gyfenw ymysg Cymry'r ardal y pryd hynny fel heddiw, ond dichon nad oedd gan John Robinson, Plas Tal-y-sarn, unrhyw gysylltiad a'r rhain.

Fersiwn yn ôl 20:43, 29 Hydref 2018

Ganed John Robinson yn Lerpwl tua 1831. Erbyn 1871 roedd yn byw ym Mhlas Tal-y-sarn gyda'i deulu ac fe nodir yn y cyfrifiad fod ganddo wraig Eliza a phump o blant, dwy ferch a thri mab, a phawb ond y ferch ieuengaf wedi eu geni yn Lerpwl; yn Llundain tua 1861 gafodd y ferch ieuengaf, Eliza, ei geni. Yn ôl cyfrifiad 1871, roedd ganddo ddwy forwyn yn y plas. Fe'i ddisgrifir fel perchennog chwarel lechi.[1].

Ym 1871, talodd am gael codi Eglwys Sant Ioan, Tal-y-sarn.[2]

Roedd o'n dal i fyw ym Mhlas Tal-y-sarn ym 1895, ac erbyn hynny roedd wedi ei godi'n ynad heddwch,[3] ac fe wasanaethodd fel uchel siryf y sir, 1898-9.[4] Bu farw 1900.[5]

Ni ddylid ei gymysgu â sawl John Robinson arall: John Robinson, mab Herbert Robinson o Dal-y-sarn, a feddyddiwyd ym 1777 ac oedd yn chwarelwr; a'i fab a aned ym 1805 yn Llanllyfni, ac sy'n cael ei restru fel Asiant Chwarel Lechi yng Nghyfrifiad 1861, yn byw yn Dorothea House, Tal-y-sarn. Dyn lleol oedd hwn, a drafododd y cyfrifiad yn Gymraeg yn ol y llyfr cyfrif.[6] Roedd Robinson yn gyfenw ymysg Cymry'r ardal y pryd hynny fel heddiw, ond dichon nad oedd gan John Robinson, Plas Tal-y-sarn, unrhyw gysylltiad a'r rhain.

Fe'i olynwyd gan ei fab Thomas, ond bu yntau farw'n fuan wedyn, ym 1905, fel mae'r dyfyniad isod o'r wasg yn tystio[7]:

"MARWOLAETH MR. THOMAS ROBINSON, TALYSARN. GOFIDUS genym groniclo marwolaeth Mr. Thomas Robinson, perchenog:chwarel Talysarn, yn gystal a chwareli llechi eraill yn Nyffryn Nanlile, yr hyn a gymmerodd le yn Talysarn Hall, prydnawn dydd Mawrth. Yr oedd Mr. Robinson yn 49ain mlwydd oed. Yr oedd yn dioddef o dan afiechyd er's pum mis a bu am dymmor mewn claf-adfe dy yn sir Stafford. Yr oedd ei gyflwr yn cael ei ystyried yn foddhaol hyd prydnawn dydd LIun, pan y daeth yn anymwybodol. Yr oedd yn fab i'r diweddar Mr. John Robinson, yr hwn a fu ar an adeg yn uchel sirydd sir Gaernarfon; ac ar farwolaeth ei dad daeth ef i mewn i berchenogaeth a llywodraethiad yr amrywiol chwareli. Yr oedd yn ddiarebol am ei haelfrydigrwydd a'i hynawsedd. Yr oedd yn gynllun o feistr, hefyd, a dangosai bryder mawr bob amser am sicrhau ymddiriedaeth ei weithwyr, a gochel pob camddealltwriaeth. Ceidwadwr ydoedd o ran el olygiadau gwleidyddol; ond ychydig o ddyddordeb a arddangosai mewn gwleidyddlaeth. Y flwyddyn ddiweddaf cadwodd ei sedd ar y Cynghor Sirol, ac yr oedd yn un o'r ymgeiswyr Ceidwadol a roddodd ei gefnogaeth i'r polisi o ddim cynnorthwy o'r trethi i ysgolion oedd heb fod o dan reolaeth boblogaidd briodol. Yr oedd Mr. Robinson wedi bod yn briod ddwy waith; a gadawodd weddw, a thair o ferched. Yr oedd ei fercoh hynaf i briodi Mr. Addie, goruchwyliwr ystad Glynlllfon, dydd Mercher, y 19eag o'r mis hwn; ond bu raid newid y trefniadau ddydd Llun. Cymmerodd y gladdedlgaeth le prydnawn dydd Gwener." 

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwladol, RG10/5714.
  2. Gwefan Treasure Maps gan Iain Robinson [1] cyrchwyd 29.10.201
  3. Cyfarwyddiadur Slaters, Gogledd a Chanolbarth Cymru, 1895, t.537.
  4. Baner ac Amserau Cymru, 26 Gorffennaf 1905; Gwefan Festipedia [2], cyrchwyd 29.10.2018
  5. Rhestr o Farwolaethau Cymru a Lloegr, 1837-2007, Blwyddyn 1900, Llyfr 11B, t.371
  6. Archifdy Gwladol, RG9/4338.
  7. Baner ac Amserau Cymru, 26 Gorffennaf 1905