Gorsaf reilffordd Llanwnda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Eginyn newydd
Llinell 1: Llinell 1:
Enw gwreiddiol '''Gorsaf Llanwnda''' oedd [[Gorsaf reilffordd Clynnog Road|Clynnog Road]]. Roedd cyn lleied o dai yn yr ardal fel mai prif bwrpas yr orsaf oedd gwasanaethu'r tir isel ger y môr sy'n ymestyn o [[Llanwnda|Lanwnda]] i Glynnog-fawr a Threfor, gan nad oedd gorsaf agosach i'r mannau hynny. Mae'r safle bellach yn faes parcio ar gyfer Lon Eifion, gyferbyn â thafarn (gaeëdig) y Goat. Roedd yn 900 llath o [[Gorsaf reilffordd Dinas|orsaf Dinas]] ar y naill ochr, ac ychydig dros filltir o [[Gorsaf reilfordd y Groeslon|orsaf Y Groeslon]] ar y llall.
Nid oedd yno ond un platfform ac un seidin a ddefnyddid ar gyfer wagenni glo fel arfer. Am gyfnod yn y 19eg ganrif, roedd gwaith trwsio wagenni y tu ôl i resdai Gwêl-y-môr.
Fe agorwyd yr orsaf gan [[Rheilffordd Sir Gaernarfon|Reilffordd Sir Gaernarfon]] ym 1867 ar safle hen orsaf [[Rheilffordd Nantlle]], ac fe'i chaewyd gan Reilffyrdd Prtydeinig ym 1964.
==Ffynonellau==
''LMS Branch Lines in North Wales'', W.G.Rear, Wild Swan Publns., (1986)


[[Categori:Gorsafoedd rheilffordd]]
[[Categori:Gorsafoedd rheilffordd]]

Fersiwn yn ôl 20:36, 19 Hydref 2017

Enw gwreiddiol Gorsaf Llanwnda oedd Clynnog Road. Roedd cyn lleied o dai yn yr ardal fel mai prif bwrpas yr orsaf oedd gwasanaethu'r tir isel ger y môr sy'n ymestyn o Lanwnda i Glynnog-fawr a Threfor, gan nad oedd gorsaf agosach i'r mannau hynny. Mae'r safle bellach yn faes parcio ar gyfer Lon Eifion, gyferbyn â thafarn (gaeëdig) y Goat. Roedd yn 900 llath o orsaf Dinas ar y naill ochr, ac ychydig dros filltir o orsaf Y Groeslon ar y llall.

Nid oedd yno ond un platfform ac un seidin a ddefnyddid ar gyfer wagenni glo fel arfer. Am gyfnod yn y 19eg ganrif, roedd gwaith trwsio wagenni y tu ôl i resdai Gwêl-y-môr.

Fe agorwyd yr orsaf gan Reilffordd Sir Gaernarfon ym 1867 ar safle hen orsaf Rheilffordd Nantlle, ac fe'i chaewyd gan Reilffyrdd Prtydeinig ym 1964.

Ffynonellau

LMS Branch Lines in North Wales, W.G.Rear, Wild Swan Publns., (1986)