Chwarel Pen-y-bryn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen Chwarel Pen-y-Bryn i Chwarel Pen-y-bryn heb adael dolen ailgyfeirio |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 15:14, 24 Hydref 2018
Chwarel lechi oedd chwarel Pen-y-bryn, rhwng Cilgwyn, Dorothea a Nantlle.
Mae'r chwarel hon yn cael ei hystyried fel un o'r chwareli hynaf yn yr ardal, gan ei bod wedi ei hagor yn y 1770au. Yn y safle yma mae nifer o dyllau cloddio sydd wedi eu henwi ar ôl y criwiau bychain oedd yn gweithio ynddynt. Dyma 'rai o'r enwau: Cae Cilgwyn, Cloddfa Dafydd a Twll Ismaeliaid. Roedd inclein i lawr at Reilffordd Nantlle yn rhan o'r chwarel hon hefyd.
Prynwyd y chwarel hon yn 1836 gan gwmni Kennaway & Co., gan gyfuno Pen-y-bryn a Moel Tryfan (o dan y 'run arweinyddiaeth) gyda Cloddfa'r Lon a Thwll Balast. Roedd y rhwydwaith yma o'r chwareli bychain yn llwyddiannus iawn rhwng y 1840au a'r 1880au. Erbyn 1882, roeddynt yn cyflogi oddeutu 240 o ddynion ac yn cyhynrchu 5,000 tunnell yn flynyddol. Yn y cyfnod yma roeddynt yn defnyddio pedwar twll, inclein a dwy olwyn ddŵr a weithiwyd gyda stem, a hefyd wedi gosod tramffordd fewnol.
Cafodd y chwarel ei chau 1887, ac yn ei ail-agor yn 1892 ar ôl i gwmni Dorothea ei phrynu. Roedd y chwarel wedi cau erbyn 1950 yn dilyn cwymp mawr yn y diwydiant.
Ffynhonnell
Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma