Huw Lewis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Huw Lewis''' (1562-1634) yn fab teulu Bodellog neu Plas-y-bont ym mhlwyf Llanwnda. Cafodd ei addysg yng Ngholeg yr Holl E...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 2: Llinell 2:


Fe'i wnaed yn Ganghellor Eglwys Gadeiriol Bangor ym 1608, ac ym 1623 fe olynodd Edmwnd Prys fel rheithor Maentwrog a Ffestiniog.<ref>Meic Stephens (gol.), ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'', (Caerdydd, 1986), tt.345-6.</ref>
Fe'i wnaed yn Ganghellor Eglwys Gadeiriol Bangor ym 1608, ac ym 1623 fe olynodd Edmwnd Prys fel rheithor Maentwrog a Ffestiniog.<ref>Meic Stephens (gol.), ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'', (Caerdydd, 1986), tt.345-6.</ref>
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Llenorion]]
[[Categori:Offeiriaid]]

Fersiwn yn ôl 19:35, 3 Awst 2018

Roedd Huw Lewis (1562-1634) yn fab teulu Bodellog neu Plas-y-bont ym mhlwyf Llanwnda. Cafodd ei addysg yng Ngholeg yr Holl Eneidiau, Rhydychen, lle ymddiddorodd yn yr athrawiaeth Brotestanaidd. Fel pob dyn graddedig yr adeg honno, cafodd ei ordeinio, gan dderbyn bywoliaeth Llanddeiniolen ym 1590. Tra yno, cyfieithodd llyfr Miles Coverdale, A Spyrytuall and most Precious Pearle i'r Gymraeg gyda'r teitl Perl mewn Adfyd a gyhoeddwyd ym 1595. Dyma'r llyfr Cymraeg cyntaf i'w argraffu yn Rhydychen. Nid oedd yn gyfieithiad gair-am-air, ond yn hytrach crynhoad a chyfieithiad yn gymysg, gyda rhai adrannau wedi eu hehangu - sydd yn dangos fod Huw Lewis yn ysgolhaig yn ogystal â ieithydd.

Fe'i wnaed yn Ganghellor Eglwys Gadeiriol Bangor ym 1608, ac ym 1623 fe olynodd Edmwnd Prys fel rheithor Maentwrog a Ffestiniog.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, (Caerdydd, 1986), tt.345-6.