Prosiect:Ffynonellau eraill: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen Ffynonellau eraill i Prosiect:Ffynonellau eraill heb adael dolen ailgyfeirio |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 15:58, 2 Awst 2018
Os na chewch hyd i'r wybodaeth yr ydych am chwilio amdani, mae nifer o leoedd eraill ar y we allai fod o help.
Archifdy Caernarfon
Mae llawer o gatalogau'r archifdy wedi eu digideiddio ac mae modd eu chwilio arlein.
https://diogel.gwynedd.llyw.cymru/DATRhagorol/default.aspx?iaith=cy
Casgliad y Werin
Mae Casgliad y Werin yn gasgliad digidol o luniau, dogfennau a delweddau o greiriau o bob math sydd yn dweud stori Cymru. Mae'n wefan sydd, mewn ffordd, yn debyg i Wicipedia neu i Gof y Cwmwd gan ei fod yn gwahodd cyfraniadau gan y cyhoedd. Oherwyddd hyn, efallai y ceir hyd i ddeunydd o'ch ardal, neu y gallwch chi gyfrannu pethau o'ch ardal.
https://www.casgliadywerin.cymru/
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae bron y cwbl o gatalogau'r llyfrgell (yn llyfrau ac yn ddogfennau) wedi eu mynegeio ac mae modd eu chwilio arlein.
Mapiau Ordnans am Uwchgwyrfai
Mae Llyfrgell Genedlaethol yr Alban wedi bod yn gyfrifol am ddigideiddio mapiau Ordans (a llawer o rai eraill) ac maent i gyd ar gael ar y we. Mae'n hawdd dod o hyd i unrhyw fap trwy glicio ar fap o'r DG neu roi enw pentref yn y blwch chwilio.
Wicipedia
Ffynhonell Gymraeg gwbl unigryw sy'n tyfu o hyd. Os ydych am ddysgu mwy am unrhyw bwnc, mae'n werth troi at y wefan hon. Ceir erthyglau yn ymwneud â phynciau sy'n gyslltiedig ag Uwchgwyrfai.