Rhedynog Felen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
B Symudodd Heulfryn y dudalen Rhedynogfelen i Rhedynog Felen
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Rhedynogfelen''' yn hen annedd ac yn fferm yn rhan isaf plwyf [[Llanwnda]], a cheir cyfeiriad cynnar i’r lleoliad yma o gwmpas 1673. Heddiw mae ffermdy yn ogystal a thŷ swmpus ar y safle. Ceir yr ysgrif ‘1673 I L A’ ar lechen yn y tŷ, a chredir i hyn fod yn gyfeiriad at ei pherchnogion ar un adeg. Roedd y sefydliad hwn hefyd yn drefgordd ac yn le o statws a pwysigrwydd sylweddol yn yr ardal.
===Y Drefgordd===

Mae cyfeiriad i’r lle yma hefyd yn dyddio i 1180, ym Mrut y Tywysogion. Mae awgrym hefyd i’r lleoliad ym ei roi fel rhodd i fynachod Aberconwy, gan ei fod yn cael ei chysylltu a’r Abaty yn aml. Os yw hyn yn gywir, mae’n cryfhau’r ddadl fod y lle yma wedi bod yn fynachdy ei hun ar un cyfnod. Fel y traddodiad, fyddai’r sefydliad yma mewn angen i gael ei fferm ei hun, neu ‘cwirt’/’cwrt’ fel y gelwir. Mae’r ffaith fod [[Cefn Hengwrt]] a Beudy Gwyn yn agos i Rhedynogfelen felly yn dangos fod yr angen yma wedi bodoli ar un cyfnod.  
Roedd '''Rhedynog Felen''' yn un o dair trefgordd (neu raniad) yng nghylch eglwys [[Llanwnda]]. Roedd [[Bodellog]] a [[Llanwnda]] ei hun yn drefi cyfrif (lle roedd y trigolion â gorfodaeth i wneud gwaith i ddeiliad y drefgordd. Roedd Rhedynog felen yn dref rhydd, lle nad oedd gan y trigolion yr un dyletswyddau).
 
===Perchenogaeth===
 
Mae Rhedynog Felen hefyd yn enw ar hen annedd a fferm yn rhan isaf plwyf [[Llanwnda]], a cheir cyfeiriad cynnar i’r lleoliad yma o gwmpas 1673. Heddiw mae ffermdy yn ogystal a thŷ swmpus ar y safle. Ceir yr ysgrif ‘1673 I L A’ ar lechen yn y tŷ, a chredir i hyn fod yn gyfeiriad at ei pherchnogion - roedd Lewis Jones yn berchennog ar y lle ym 1673, a byddai "A" yn cyfeirio at enw ei wraig (sydd yn anhysbys er y credai Gilbert Williams mai merch Tŷ Hen, Llanwnda oedd hi. Roedd y sefydliad hwn hefyd yn drefgordd ac yn le o statws a pwysigrwydd sylweddol yn yr ardal.
 
===Tir eglwysig==
 
Mae traddodiad yn dweud fod hen fynachdy Cymreig wedi bodoli ar y safle. Mae cyfeiriad i’r lle yma hefyd yn dyddio i 1180, ym ''Mrut y Tywysogion'', fel lle diogel dan nawdd Tywysogion Gwynedd, sydd yn awgrymu bod rhai o leiaf o fynaich Ystrad Fflur wedi symud yna. Mae awgrym hefyd i’r lleoliad ym ei roi fel rhodd i fynachod Aberconwy ym 1198 gan Llywelyn ab Iorwerth, gan ei fod yn cael ei chysylltu â’r Abaty yn aml. Os yw hyn yn gywir, mae’n cryfhau’r ddadl fod y lle yma wedi bod yn fynachdy ei hun ar un cyfnod. Fel y traddodiad, fyddai’r sefydliad yma mewn angen i gael ei fferm ei hun, neu ‘cwirt’/’cwrt’ fel y gelwir. Mae’r ffaith fod [[Cefn Hengwrt]] a Beudy Gwyn yn agos i Rhedynog Felen felly yn dangos fod yr angen yma wedi bodoli ar un cyfnod, a bod y lle'n fferm a fyddai'n cyflenwi bwyd a.neu incwm i fynaich Aberconwy, a hynny hyd at ddiddymiad y mynachlogydd ym 1536.
 
Pan gymerodd y brenin Harri VIII berchnogaeth ar y lle ym 1536, fe roddodd Redynog felen ar brydles i Huw Puleston o Gaernarfon, er i ddyn o'r enw William ap dafydd ap Siencyn honni fod ganddo prydles gan y mynaich eisoes am gyfnod o 34 mlnedd, er na lwyddodd i brofi ei honaid.Gwerthodd y Goron y lle i Griffith Davies, (gŵr afu'n aelod seneddol dros fwrdeisdrefi'r sir ym 1553), a hynny ym 1557, a bu yn ei deulu am flynyddoedd lawer. Nid oedd trigolion trefgordd Rhedynog yn hapus gyda hyn a fe gawsant eu cyhuddo (a hynny nad heb sail mae'n debyg) o ysbeilio'r tiroedd o goed ac ati a fyddai wedi bod o fudd i'r perchennog newydd.

Mae tir Rhedynogfelen wedi bod yn nwylo rhai o deuluoedd nodedig y Sir ar adegau, cyn cael ei werthu ymlaen a’i hollti mewn maint pob tro. Tybir mai hyn yw achos y ffaith fod ei statws a’r cof ohoni fel lleoliad pwysig wedi diflannu.

Llinell 10: Llinell 21:

Williams, W. Gilbert ''Moel Tryfan i’r Traeth: Erthyglau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog'' (Cyhoeddiadau Mei, Penygroes 1983)
Williams, W. Gilbert ''Moel Tryfan i’r Traeth: Erthyglau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog'' (Cyhoeddiadau Mei, Penygroes 1983)
Williams, W Gilbert, ''Hen Deuluoedd Llanwnda. VI - Teulu Rhedynog Felen'', Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon, Cyf 8, (1947), tt20-2.

[[Categori:Safleoedd nodedig]]
[[Categori:Safleoedd nodedig]]
[[Categori:Crefydd]]
[[Categori:Crefydd]]
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]]
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]]
[[Categori:Israniadau gwladol]]

Fersiwn yn ôl 10:44, 25 Gorffennaf 2018

Y Drefgordd

Roedd Rhedynog Felen yn un o dair trefgordd (neu raniad) yng nghylch eglwys Llanwnda. Roedd Bodellog a Llanwnda ei hun yn drefi cyfrif (lle roedd y trigolion â gorfodaeth i wneud gwaith i ddeiliad y drefgordd. Roedd Rhedynog felen yn dref rhydd, lle nad oedd gan y trigolion yr un dyletswyddau).

Perchenogaeth

Mae Rhedynog Felen hefyd yn enw ar hen annedd a fferm yn rhan isaf plwyf Llanwnda, a cheir cyfeiriad cynnar i’r lleoliad yma o gwmpas 1673. Heddiw mae ffermdy yn ogystal a thŷ swmpus ar y safle. Ceir yr ysgrif ‘1673 I L A’ ar lechen yn y tŷ, a chredir i hyn fod yn gyfeiriad at ei pherchnogion - roedd Lewis Jones yn berchennog ar y lle ym 1673, a byddai "A" yn cyfeirio at enw ei wraig (sydd yn anhysbys er y credai Gilbert Williams mai merch Tŷ Hen, Llanwnda oedd hi. Roedd y sefydliad hwn hefyd yn drefgordd ac yn le o statws a pwysigrwydd sylweddol yn yr ardal.

=Tir eglwysig

Mae traddodiad yn dweud fod hen fynachdy Cymreig wedi bodoli ar y safle. Mae cyfeiriad i’r lle yma hefyd yn dyddio i 1180, ym Mrut y Tywysogion, fel lle diogel dan nawdd Tywysogion Gwynedd, sydd yn awgrymu bod rhai o leiaf o fynaich Ystrad Fflur wedi symud yna. Mae awgrym hefyd i’r lleoliad ym ei roi fel rhodd i fynachod Aberconwy ym 1198 gan Llywelyn ab Iorwerth, gan ei fod yn cael ei chysylltu â’r Abaty yn aml. Os yw hyn yn gywir, mae’n cryfhau’r ddadl fod y lle yma wedi bod yn fynachdy ei hun ar un cyfnod. Fel y traddodiad, fyddai’r sefydliad yma mewn angen i gael ei fferm ei hun, neu ‘cwirt’/’cwrt’ fel y gelwir. Mae’r ffaith fod Cefn Hengwrt a Beudy Gwyn yn agos i Rhedynog Felen felly yn dangos fod yr angen yma wedi bodoli ar un cyfnod, a bod y lle'n fferm a fyddai'n cyflenwi bwyd a.neu incwm i fynaich Aberconwy, a hynny hyd at ddiddymiad y mynachlogydd ym 1536.

Pan gymerodd y brenin Harri VIII berchnogaeth ar y lle ym 1536, fe roddodd Redynog felen ar brydles i Huw Puleston o Gaernarfon, er i ddyn o'r enw William ap dafydd ap Siencyn honni fod ganddo prydles gan y mynaich eisoes am gyfnod o 34 mlnedd, er na lwyddodd i brofi ei honaid.Gwerthodd y Goron y lle i Griffith Davies, (gŵr afu'n aelod seneddol dros fwrdeisdrefi'r sir ym 1553), a hynny ym 1557, a bu yn ei deulu am flynyddoedd lawer. Nid oedd trigolion trefgordd Rhedynog yn hapus gyda hyn a fe gawsant eu cyhuddo (a hynny nad heb sail mae'n debyg) o ysbeilio'r tiroedd o goed ac ati a fyddai wedi bod o fudd i'r perchennog newydd.

Mae tir Rhedynogfelen wedi bod yn nwylo rhai o deuluoedd nodedig y Sir ar adegau, cyn cael ei werthu ymlaen a’i hollti mewn maint pob tro. Tybir mai hyn yw achos y ffaith fod ei statws a’r cof ohoni fel lleoliad pwysig wedi diflannu.

Ffynonellau

Cofnod am Rhedynogfelen ar wefan y Comisiwn Brenhinol.

Williams, W. Gilbert Moel Tryfan i’r Traeth: Erthyglau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog (Cyhoeddiadau Mei, Penygroes 1983)

Williams, W Gilbert, Hen Deuluoedd Llanwnda. VI - Teulu Rhedynog Felen, Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon, Cyf 8, (1947), tt20-2.