Cilmin Droed-ddu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 13: | Llinell 13: | ||
===Achau honedig=== | ===Achau honedig=== | ||
Rhaid amau bodolaeth y Cilmin Droed-ddu chwedlonol fel person o gig a gwaed, ond dichon bod unigolyn o'r enw hwnnw wedi bodoli rywbryd tua'r flwyddyn | Rhaid amau bodolaeth y Cilmin Droed-ddu chwedlonol fel person o gig a gwaed, ond dichon bod unigolyn o'r enw hwnnw wedi bodoli rywbryd tua'r flwyddyn 900 O.C. | ||
Mae rhai achresi'n dweud mai nai i frenin | Mae rhai achresi'n dweud mai nai i frenin Gwynedd, Merfyn Frych, oedd o.<ref>''Debrett's Peerage'', (Llundain, 1825), Cyf 2, t.1095</ref> Daeth Merfyn Frych yn frenin Gwynedd yn 825 ar farwolaeth Hywel Farf-fehinog ap Caradog, er ei fod efallai wedi ennill grym ym Môn ers 818. Yn ôl y traddodiad barddol, daeth Merfyn o "Fanaw", ond mae'n ansicr a yw hyn yn cyfeirio at Ynys Manaw neu at hen deyrnas Manaw Gododdin (yn Yr Alban heddiw). Bu farw yn 844, ac fe'i ddilynwyd gan Rodri Fawr.<ref>Wicipedia, erthygl ar Merfyn Frych, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Merfyn_Frych], adalwyd, 23/07/2018.</ref>Honnir i Gilmin ymsefydlu yng Nglynllifon ar ôl symud (os nad ffoi) o ardal Cymbria. | ||
Dangosir ei ddisgynyddion yn yr achresi fel hyn: | Dangosir ei ddisgynyddion yn yr achresi fel hyn: |
Fersiwn yn ôl 17:41, 23 Gorffennaf 2018
Roedd Cilmin Droed-Ddu yn ffigwr chwedlonol a ymsefydlodd ar lan Afon Llifon ym mhlwyf Llandwrog. Credir iddo fod yn sylfaenydd llinach teulu’r Glynniaid yn Glynllifon ac mae ei droed ddu yn symbol a ymddangosai ar arfbais y teulu.
Chwedloniaeth
Mae amryw straeon ynglŷn â sut y daeth y gŵr hwn i fod â throed ddu. Un fersiwn yw ei fod wedi ei hudo gan un o ddewiniaid yr ardal tua Thre’r Ceiri, i ddwyn llyfr cyfrin a oedd â gwybodaeth unigryw ynddo ac a oedd yn nwylo cythraul. Ond rhybuddiodd y dewin ef i gymryd gofal mawr wrth groesi'r ffrwd ar y ffordd i'r mynydd rhag i rywbeth ddigwydd iddo gan fod awdurdod y cythraul yn dod i ben yn y fan honno. Ar ôl ymdrech ffyrnig, llwyddodd Cilmin i gipio’r llyfr hwn – dim ond i gael ei hela gan weision y cythraul, ac wrth gyrraedd afon Llifon gwlychodd ei droed yn y dŵr ac fe drodd yn ddu ac yn boenus.
Fersiwn arall o’r stori yw ei hanes yn Llundain, pan ddaru gŵr ofyn iddo a oedd yn frodor o sir Gaernarfon. Pan atebodd yntau mai oddi yno yr oedd yn dod, gofynnodd y gŵr iddo ble yr oedd y ‘Seler Ddu’ yn Arfon. Y stori yw fod Cilmin wedi dweud nad oedd yn gwybod, ac yna, wedi mynd adref, aeth i’r ‘Seler Ddu’ honno, ar gwr y Bwlch Mawr, a darganfod trysorau gwerthfawr. Yn ôl y sôn, roedd baich y celwydd yn pwyso’n drwm ar Cilmin, a pan ddaru ei droed suddo i bwll o ddŵr tywyll ni allai olchi’r droed yn lân. Credai llawer mai'r trysorau hynny oedd sylfaen cyfoeth teulu Glynllifon.[1]
Yr enw
Mae'r enw Cilmin Droed-ddu wedi galw am esboniad - fel mae'r chwedl uchod yn tystio. cafwyd esboniad mwy 'gwyddonol' fod bynnag gan y meddyg, y Dr Christie o Fangor, a awgrymodd y gallai'r madredd (gangrene) wedi bod yn gyfrifol am droi troed neu goes Cilmin yn ddu. Mewn oes ofergoelus a ofnai afiechydon heintus, byddai esboniad fel un y chwedl wedi bod yn fwy derbyniol os nad yn wir yn fwy parchus i gyfrif am goes ddu bonheddwr. Dichon felly mai ffug-esboniad gan y dyn ei hun oedd y chwedl![2]
Achau honedig
Rhaid amau bodolaeth y Cilmin Droed-ddu chwedlonol fel person o gig a gwaed, ond dichon bod unigolyn o'r enw hwnnw wedi bodoli rywbryd tua'r flwyddyn 900 O.C.
Mae rhai achresi'n dweud mai nai i frenin Gwynedd, Merfyn Frych, oedd o.[3] Daeth Merfyn Frych yn frenin Gwynedd yn 825 ar farwolaeth Hywel Farf-fehinog ap Caradog, er ei fod efallai wedi ennill grym ym Môn ers 818. Yn ôl y traddodiad barddol, daeth Merfyn o "Fanaw", ond mae'n ansicr a yw hyn yn cyfeirio at Ynys Manaw neu at hen deyrnas Manaw Gododdin (yn Yr Alban heddiw). Bu farw yn 844, ac fe'i ddilynwyd gan Rodri Fawr.[4]Honnir i Gilmin ymsefydlu yng Nglynllifon ar ôl symud (os nad ffoi) o ardal Cymbria.
Dangosir ei ddisgynyddion yn yr achresi fel hyn:
Lleon ap Cilmin | Llowarch | Iddig | Iddon | Dyfnaint | Gwrdyr ____|_______________________________________________________________________________________________ | | | | | | Morgeneu Ynad Philip o Fodfan (Llandwrog) Madog Ednywain (sylfaenydd y Glynniaid) Cynddelw Caswallon [5]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872).
- ↑ Atgof personol o sgwrs y Dr Christie
- ↑ Debrett's Peerage, (Llundain, 1825), Cyf 2, t.1095
- ↑ Wicipedia, erthygl ar Merfyn Frych, [1], adalwyd, 23/07/2018.
- ↑ J E Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.391