Cilmin Droed-ddu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
Fersiwn arall o’r stori yw ei hanes yn Llundain, pan ddaru gŵr ofyn iddo a oedd yn frodor o sir Gaernarfon. Pan atebodd yntau mai oddi yno yr oedd yn dod, gofynnodd y gŵr iddo ble yr oedd y ‘Seler Ddu’ yn Arfon. Y stori yw fod Cilmin wedi dweud nad oedd yn gwybod, ac yna, wedi mynd adref, aeth i’r ‘Seler Ddu’ honno, ar gwr y Bwlch Mawr, a darganfod trysorau gwerthfawr. Yn ôl y sôn, roedd baich y celwydd yn pwyso’n drwm ar Cilmin, a pan ddaru ei droed suddo i bwll o ddŵr tywyll ni allai olchi’r droed yn lân. Credai llawer mai'r trysorau hynny oedd sylfaen cyfoeth teulu Glynllifon.<ref>Ambrose, W. R. ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle'' (Penygroes, 1872).</ref> | Fersiwn arall o’r stori yw ei hanes yn Llundain, pan ddaru gŵr ofyn iddo a oedd yn frodor o sir Gaernarfon. Pan atebodd yntau mai oddi yno yr oedd yn dod, gofynnodd y gŵr iddo ble yr oedd y ‘Seler Ddu’ yn Arfon. Y stori yw fod Cilmin wedi dweud nad oedd yn gwybod, ac yna, wedi mynd adref, aeth i’r ‘Seler Ddu’ honno, ar gwr y Bwlch Mawr, a darganfod trysorau gwerthfawr. Yn ôl y sôn, roedd baich y celwydd yn pwyso’n drwm ar Cilmin, a pan ddaru ei droed suddo i bwll o ddŵr tywyll ni allai olchi’r droed yn lân. Credai llawer mai'r trysorau hynny oedd sylfaen cyfoeth teulu Glynllifon.<ref>Ambrose, W. R. ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle'' (Penygroes, 1872).</ref> | ||
{{eginyn}} | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
Llinell 11: | Llinell 13: | ||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} | ||
Fersiwn yn ôl 09:31, 23 Gorffennaf 2018
Roedd Cilmin Droed-Ddu yn ffigwr chwedlonol a ymsefydlodd ar lan Afon Llifon ym mhlwyf Llandwrog. Credir iddo fod yn sylfaenydd llinach teulu’r Glynniaid yn Glynllifon ac mae ei droed ddu yn symbol a ymddangosai ar arfbais y teulu.
Chwedloniaeth
Mae amryw straeon ynglŷn â sut y daeth y gŵr hwn i fod â throed ddu. Un fersiwn yw ei fod wedi ei hudo gan un o ddewiniaid yr ardal tua Thre’r Ceiri, i ddwyn llyfr cyfrin a oedd â gwybodaeth unigryw ynddo ac a oedd yn nwylo cythraul. Ond rhybuddiodd y dewin ef i gymryd gofal mawr wrth groesi'r ffrwd ar y ffordd i'r mynydd rhag i rywbeth ddigwydd iddo gan fod awdurdod y cythraul yn dod i ben yn y fan honno. Ar ôl ymdrech ffyrnig, llwyddodd Cilmin i gipio’r llyfr hwn – dim ond i gael ei hela gan weision y cythraul, ac wrth gyrraedd afon Llifon gwlychodd ei droed yn y dŵr ac fe drodd yn ddu ac yn boenus.
Fersiwn arall o’r stori yw ei hanes yn Llundain, pan ddaru gŵr ofyn iddo a oedd yn frodor o sir Gaernarfon. Pan atebodd yntau mai oddi yno yr oedd yn dod, gofynnodd y gŵr iddo ble yr oedd y ‘Seler Ddu’ yn Arfon. Y stori yw fod Cilmin wedi dweud nad oedd yn gwybod, ac yna, wedi mynd adref, aeth i’r ‘Seler Ddu’ honno, ar gwr y Bwlch Mawr, a darganfod trysorau gwerthfawr. Yn ôl y sôn, roedd baich y celwydd yn pwyso’n drwm ar Cilmin, a pan ddaru ei droed suddo i bwll o ddŵr tywyll ni allai olchi’r droed yn lân. Credai llawer mai'r trysorau hynny oedd sylfaen cyfoeth teulu Glynllifon.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872).