Tryfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} | ||
[[Categori: | [[Categori:Israniadau gwladol]] |
Fersiwn yn ôl 10:09, 20 Gorffennaf 2018
Tryfan oedd enw darn helaeth o dir rhwng pentrefi modern Y Groeslon a Rhostryfan. Roedd yn gorwedd yn rhannol ym mhlwyf Llandwrog ac yn rhannol ym mhlwyf Llanwnda. Yn ystod y 16g a'r 17g, roedd yn cynnwys o leiaf dair rhandir: Tryfan Mawr, lle cartrefai teulu Gruffydd; Gerlan y Cyff, lle trigai teulu gyda'r cyfenw Jones; a Tryfan Bach, lle trigai teulu o Lwydiaid. Roedd teulu Gruffydd yn galw eu hunain yn ŵyr bonheddig (generosus neu gentleman yn nogfennau'r dydd) - a phawb yn arddel y disgrifiad hwnnw hefyd. Rhydd-ddeiliaid neu iwmyn oedd y ddau deulu arall, er bod ganddynt beth tir a drowyd yn y man yn dyddynod i blant y teulu, trwy amgáu darnau o'r rhos a elwid yn Rhos y Tryfan.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ W Gilbert Williams, Hen Deuluoedd Llanwnda: VI - Llwydiaid y Tryfan Bach, Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyf 9, t.59