Cilgwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
{{eginyn}}
{{eginyn}}


[[Categori:Pentrefi a threlannau]]
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]

Fersiwn yn ôl 09:17, 26 Mehefin 2018

Pentrefan neu gasgliad o dai yw'r Cilgwyn, ar lethr ddeheuol Mynydd CIlgwyn. Saif yn ucheldir plwyf Llandwrog. Nid oes unrhyw gyfleusterau bellach yn y man, ac eithrio blwch teleffon, ond arferai fod capel yma, sef Capel Cilgwyn (A), sydd bellach yn dŷ annedd, wedi cyfnod yn gapel i urdd o Uniongrediaid a'u pencadlys yn hen Capel Pisgah (BN), Carmel.

Roedd Chwarel lechi Cilgwyn ymysg y cloddfeydd cynharaf yn yr ardal, yn cychwyn tua canol y 18g os nad gynt, ac roedd twll anferthol y chwarel yn nodwedd sylweddol ar y llethr o dan y pentref nes i'r cyngor ei fabwysiadu fel safle tirlenwi tua 1970. Am ryw 30 mlynedd, Cilgwyn felly oedd prif 'tomen' sbwriel yr ardal, ond mae'r lle wedi adfer erbyn hyn.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma