Siôn Gwynedd (John Gwynneth): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 16: Llinell 16:
* Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Nid yw ar gael ar-lein hyd at ddiwedd yr Haf 2018 gan ei fod yn cael ei ddiweddaru gan GANOLFAN UWCHEFRYDIAU CYMREIG A CHELTAIDD PRIFYSGOL CYMRU A Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Dyma’r Bywgraffiadur cyfredol:  http://yba.llgc.org.uk/cy/c-GWYN-JOH-1490.html
* Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Nid yw ar gael ar-lein hyd at ddiwedd yr Haf 2018 gan ei fod yn cael ei ddiweddaru gan GANOLFAN UWCHEFRYDIAU CYMREIG A CHELTAIDD PRIFYSGOL CYMRU A Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Dyma’r Bywgraffiadur cyfredol:  http://yba.llgc.org.uk/cy/c-GWYN-JOH-1490.html
* Dictionary of National Biography, 1885-1900, Cyfrol 23. John Gwynneth gan Thompson Cooper.  Gwynneth, John (DNB00) - Wikisource, the free online library https://en.wikisource.org/wiki/Gwynneth,_John_(DNB00)
* Dictionary of National Biography, 1885-1900, Cyfrol 23. John Gwynneth gan Thompson Cooper.  Gwynneth, John (DNB00) - Wikisource, the free online library https://en.wikisource.org/wiki/Gwynneth,_John_(DNB00)
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Crefydd]]

Fersiwn yn ôl 09:58, 26 Mehefin 2018

Offeiriad a cherddor blaenllaw yn Oes y Tuduriaid oedd Siôn Gwynedd (1490? – 1562?). Roedd yn frodor o Sir Gaernarfon: mab David ap Llewelyn ab Ithel o Lŷn, oedd yn frawd i Robert ap Llewelyn ab Ithel, Castellmarch.

Credir iddo gael ei addysg yn rhai o’r sefydliadau mynachaidd yn agos i’w gartref, ac oddi yno, trwy gymorth noddwr cefnog, llwyddodd i barhau â’i addysg yn Rhydychen. Cafodd ei ordeinio’n offeiriad. Yn 1531 apeliodd yn llwyddiannus am radd Mus. Doc., Rhydychen, gan gyflwyno nifer o gyfansoddiadau cerddorol ar gyfer gwasanaethau’r eglwys.

Pan fu farw Dr William Glyn, Rheithor Clynnog Fawr yn Arfon, penododd y brenin Harri VIII Siôn Gwynedd yn olynydd iddo. Ond gwrthododd yr Esgob John Capon, Bangor, gadarnhau’r penodiad. Mynnai ef benodi Gregory Williamson i’r swydd: perthynas i Cromwell, Iarll Essex. Ymgyfreithiodd Siôn Gwynedd â’r Esgobion. Enillodd ei achos yn 1541 ar ôl blynyddoedd o ymladd. Costiodd £300 iddo. Mae’n debyg nad arhosodd yn hir yng Nghlynnog gan iddo dderbyn rheithoriaeth Eglwys Sant Pedr, Cheapside, Llundain gan ddechrau yno ar 19 Medi 1543. Yn 1554 roedd yn rheithor Luton, Swydd Bedford.

Yn ystod ei fywyd bu’n dadlau o blaid Pabyddiaeth. Ysgrifennodd mewn ymateb i lyfrau John Frith oedd o blaid y Diwygiad Protestannaidd. John Frith oedd y merthyr cyntaf o blith y Protestanniad yn Lloegr.

Credid i Siôn Gwynedd gael ei garcharu am wrthod troi ei gefn ar y Ffydd Gatholig ac iddo farw tua 1562 yn ystod teyrnasiad y frenhines Elisabeth(1558-1603).* Ond mewn ffynonellau diweddarach credid iddo farw cyn diwedd teyrnasiad y Frenhines Mari. (1553-1558).**


Ffynonellau

  • Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Nid yw ar gael ar-lein hyd at ddiwedd yr Haf 2018 gan ei fod yn cael ei ddiweddaru gan GANOLFAN UWCHEFRYDIAU CYMREIG A CHELTAIDD PRIFYSGOL CYMRU A Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Dyma’r Bywgraffiadur cyfredol: http://yba.llgc.org.uk/cy/c-GWYN-JOH-1490.html
  • Dictionary of National Biography, 1885-1900, Cyfrol 23. John Gwynneth gan Thompson Cooper. Gwynneth, John (DNB00) - Wikisource, the free online library https://en.wikisource.org/wiki/Gwynneth,_John_(DNB00)