Rhedynog Felen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
Williams, W. Gilbert ''Moel Tryfan i’r Traeth: Erthyglau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog'' (Cyhoeddiadau Mei, Penygroes 1983) | Williams, W. Gilbert ''Moel Tryfan i’r Traeth: Erthyglau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog'' (Cyhoeddiadau Mei, Penygroes 1983) | ||
[[Categori:Safleoedd nodedig]] | |||
[[Categori:Crefydd]] | |||
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]] |
Fersiwn yn ôl 08:57, 26 Mehefin 2018
Mae Rhedynogfelen yn hen annedd ac yn fferm yn rhan isaf plwyf Llanwnda, a cheir cyfeiriad cynnar i’r lleoliad yma o gwmpas 1673. Heddiw mae ffermdy yn ogystal a thŷ swmpus ar y safle. Ceir yr ysgrif ‘1673 I L A’ ar lechen yn y tŷ, a chredir i hyn fod yn gyfeiriad at ei pherchnogion ar un adeg. Roedd y sefydliad hwn hefyd yn drefgordd ac yn le o statws a pwysigrwydd sylweddol yn yr ardal.
Mae cyfeiriad i’r lle yma hefyd yn dyddio i 1180, ym Mrut y Tywysogion. Mae awgrym hefyd i’r lleoliad ym ei roi fel rhodd i fynachod Aberconwy, gan ei fod yn cael ei chysylltu a’r Abaty yn aml. Os yw hyn yn gywir, mae’n cryfhau’r ddadl fod y lle yma wedi bod yn fynachdy ei hun ar un cyfnod. Fel y traddodiad, fyddai’r sefydliad yma mewn angen i gael ei fferm ei hun, neu ‘cwirt’/’cwrt’ fel y gelwir. Mae’r ffaith fod Cefn Hengwrt a Beudy Gwyn yn agos i Rhedynogfelen felly yn dangos fod yr angen yma wedi bodoli ar un cyfnod.
Mae tir Rhedynogfelen wedi bod yn nwylo rhai o deuluoedd nodedig y Sir ar adegau, cyn cael ei werthu ymlaen a’i hollti mewn maint pob tro. Tybir mai hyn yw achos y ffaith fod ei statws a’r cof ohoni fel lleoliad pwysig wedi diflannu.
Ffynonellau
Cofnod am Rhedynogfelen ar wefan y Comisiwn Brenhinol.
Williams, W. Gilbert Moel Tryfan i’r Traeth: Erthyglau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog (Cyhoeddiadau Mei, Penygroes 1983)