Pant Du: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Plasty hynafol yw Pant Du, ger [[Pen-y-groes]].
Mae '''Pant Du''' yn blasty bychan sy'n dyddio'n ôl i'r 17g cynnar yn ei ffurf bresennol, er iddo olynu tŷ cynharach, a oedd yn gartref i Humphrey ap Richard, ficer Llanbeulan , Ynys Môn, o 1548 hyd 1587, sydd â'i gladdgell yn [[Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni|eglwys y plwyf]]. Mae patrwm y tŷ yn adlewyrchu tai'r cyfnod gyda neuadd neu gegin fawr ar y llawr isaf, a staer ar gylchdro wedi'u gwneud o garreg wrth ochr aelwyd eang. Mae'r hen dŷ yn wag ac mewn cyflwr a fyddai'n peri pryder pe na fyddai'r eiddo bellach yn nwylo teulu lleol sydd yn datblygu'r safle'n winllan a pherllan llywyddiannus.
   
Credir iddo gael ei adeiladu tua dechrau'r ail ganrif ar bymtheg ar gyfer William Humphrey, a fu'n Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1611-12, a'i wraig Catrin Morgan. Gwelir eu harfbais gyda llythrennau cyntaf eu henwau obobtu (W.H a K.M.) uwchben hen le tân yn y tŷ.

Fersiwn yn ôl 17:08, 20 Mehefin 2018

Mae Pant Du yn blasty bychan sy'n dyddio'n ôl i'r 17g cynnar yn ei ffurf bresennol, er iddo olynu tŷ cynharach, a oedd yn gartref i Humphrey ap Richard, ficer Llanbeulan , Ynys Môn, o 1548 hyd 1587, sydd â'i gladdgell yn eglwys y plwyf. Mae patrwm y tŷ yn adlewyrchu tai'r cyfnod gyda neuadd neu gegin fawr ar y llawr isaf, a staer ar gylchdro wedi'u gwneud o garreg wrth ochr aelwyd eang. Mae'r hen dŷ yn wag ac mewn cyflwr a fyddai'n peri pryder pe na fyddai'r eiddo bellach yn nwylo teulu lleol sydd yn datblygu'r safle'n winllan a pherllan llywyddiannus.

Credir iddo gael ei adeiladu tua dechrau'r ail ganrif ar bymtheg ar gyfer William Humphrey, a fu'n Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1611-12, a'i wraig Catrin Morgan. Gwelir eu harfbais gyda llythrennau cyntaf eu henwau obobtu (W.H a K.M.) uwchben hen le tân yn y tŷ.

Erbyn hyn ceir gwinllanoedd a pherllanoedd ar dir fferm Pant Du, ond datblygiad newydd yn yr 21g yw hyn.

Ffynonellau

Griffith, John Edwards, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Horncastle, 1914), t. 157

Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol

Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle. (Penygroes, 1872)