Capel Tan'rallt (MC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
===Cefndir===
===Cefndir===


Tua 1850, codwyd baracs ar gyfer gweithwyr chwareli Tanrallt a'r ardal yn y pentref a cedwir man addoli ar gyfer Methodistiaid yr ardal yma. Roedd Turell, goruchwiliwr [[Chwarel Tanrallt|chwarel Tanrallt]] wedi cytuno i'r addolwyr gadw ysgol yno am flynyddoedd, gyda côst o ddau swllt y flwyddyn. Yn ôl William Hobley, roedd bobl y pentref wedi cael trafferth wrth geisio cael prydles ar y tiroedd gerllaw ar gyfer adeiladu capel<ref>Hobley, W. ''Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog'' (Cyfarfod Misol Arfon, 1921) tt. 337-340</ref>.
Tua 1850, codwyd barics ar gyfer gweithwyr chwareli Tanrallt a'r ardal yn y pentref a chedwir man addoli ar gyfer Methodistiaid yr ardal yma. Roedd Turell, goruchwyliwr [[Chwarel Tanrallt|chwarel Tanrallt]] wedi cytuno i'r addolwyr gadw ysgol yno am flynyddoedd, gyda chôst o ddau swllt y flwyddyn. Yn ôl William Hobley, roedd bobl y pentref wedi cael trafferth wrth geisio cael prydles ar y tiroedd gerllaw ar gyfer adeiladu capel<ref>Hobley, W. ''Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog'' (Cyfarfod Misol Arfon, 1921) tt. 337-340</ref>.


Erbyn 1882, cafodd y bobl eu dymuniad oddi wrth H. J. Ellis Nanney, pan gytunodd i osod prydles ar lain o dir yno am 80 mlynedd a pum swllt y flwyddyn.  
Erbyn 1882, cafodd y bobl eu dymuniad oddi wrth H. J. Ellis Nanney, pan gytunodd i osod prydles ar lain o dir yno am 80 mlynedd a pum swllt y flwyddyn.  

Fersiwn yn ôl 18:06, 5 Mai 2018

Capel Methodistaidd ym mhentref Tanrallt oedd Capel Tan'rallt (MC)[1].

Cefndir

Tua 1850, codwyd barics ar gyfer gweithwyr chwareli Tanrallt a'r ardal yn y pentref a chedwir man addoli ar gyfer Methodistiaid yr ardal yma. Roedd Turell, goruchwyliwr chwarel Tanrallt wedi cytuno i'r addolwyr gadw ysgol yno am flynyddoedd, gyda chôst o ddau swllt y flwyddyn. Yn ôl William Hobley, roedd bobl y pentref wedi cael trafferth wrth geisio cael prydles ar y tiroedd gerllaw ar gyfer adeiladu capel[2].

Erbyn 1882, cafodd y bobl eu dymuniad oddi wrth H. J. Ellis Nanney, pan gytunodd i osod prydles ar lain o dir yno am 80 mlynedd a pum swllt y flwyddyn.

Codi'r Capel

Adeiladwyd y Capel a'r Tŷ yn 1882, gyda chôst o £930. Cynllunydd y Capel oedd John Thomas, Rhostryfan a chyflawnwyd y gwaith adeiladu gan Robert Jones, Bontnewydd.

Agorwyd y Capel ar 28ain Awst, 1882, ac roedd £260 o'r ddyled wedi ei dalu erbyn yr agoriad.

Mae Capel Tanrallt heddiw yn ganolfan weithgareddau awyr agored.

Cyfeiriadau


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. Cofnod o'r Capel ar wefan Genuki.org
  2. Hobley, W. Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog (Cyfarfod Misol Arfon, 1921) tt. 337-340