Plygain Llanllyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Arferwn fynd i Eglwys Sant Rhedyw erbyn chwech o'r gloch y bore i wasanaeth y Plygain, ond yn 1970 daeth i fod am saith o'r gloch. Gwasanaeth eglwysig i'r...' |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae darlun godidog o'r traddodiad byw wedi cael ei greu gan Catherine Parry yn ei hatgofion, a ysgrifennwyd ym 1989: | |||
Mae cyrchu i Eglwys y Plwyf yn Llanllyfni ar fore'r Nadolig i wasanaeth y Plygain yn hen arferiad. Mentraf ddweud wedi holi rhai o drigolion hynaf yr Eglwys (a neb yn gallu rhoi atebiad pendant) a gwneud ychydig rifyddeg, ei fod tua dau gant oed. Un o nodweddion arbennig Llanllyfni yw'r traddodiad parhaol hwn. Mae'r bedwaredd genhedlaeth o deulu John Parry, y clochydd, a oedd yn cadw Tafarn y Bermo, yn dal i gadw'r traddodiad yn fyw. Byddai dau fab iddo, Pitar a Henry Richard Parry (yr olaf wedi ein gadael yn 1952) yn meddu ar leisiau swynol, fel yr oll o'r teulu. Byddent yn canu deuawd, y naill yn canu tenor a'r llall yn canu'r alaw, a phawb yn mwynhau gwrando amynt, yn arbennig yn canu 'Carol y BIwch', ac yn hollol naturiol mae ei ddwy ferch wedi cael rhoi y ddwy linell olaf o un o res hir o benillion sydd yn 'Carol y BIwch' ar garreg fedd eu tad, Henry Richard Parry, ym mynwent Gorffwysfa, Llanllyfni. Cefais eu caniatad i godi'r ddwy linell, a dyma hwy: | Arferwn fynd i Eglwys Sant Rhedyw erbyn chwech o'r gloch y bore i wasanaeth y Plygain, ond yn 1970 daeth i fod am saith o'r gloch. Gwasanaeth eglwysig i'r plwyf cyfan - y tair eglwys, Llanllyfni, Penygroes a Thalysarn yn uno i ganu carolau; y gynulleidfa yn canu bob yn ail â’r unawdwyr, deuawdwyr neu bartion, ac ambell i fab neu ferch yn darllen rhan o'r Ysgrythur Lân. Tymor Tangnefedd ac Ewyllys Da. Mae y gair ‘Plygain' ei hun yn deillio o'r gair Lladin, Pullicantus, sef caniad y ceiliog ar doriad y dydd. | ||
Mae cyrchu i Eglwys y Plwyf yn Llanllyfni ar fore'r Nadolig i wasanaeth y Plygain yn hen arferiad. Mentraf ddweud wedi holi rhai o drigolion hynaf yr Eglwys (a neb yn gallu rhoi atebiad pendant) a gwneud ychydig rifyddeg, ei fod tua dau gant oed. Un o nodweddion arbennig Llanllyfni yw'r traddodiad parhaol hwn. Mae'r bedwaredd genhedlaeth o deulu John Parry, y clochydd, a oedd yn cadw Tafarn y Bermo, yn dal i gadw'r traddodiad yn fyw. Byddai dau fab iddo, Pitar a Henry Richard Parry (yr olaf wedi ein gadael yn 1952) yn meddu ar leisiau swynol, fel yr oll o'r teulu. Byddent yn canu deuawd, y naill yn canu tenor a'r llall yn canu'r alaw, a phawb yn mwynhau gwrando amynt, yn arbennig yn canu 'Carol y BIwch', ac yn hollol naturiol mae ei ddwy ferch wedi cael rhoi y ddwy linell olaf o un o res hir o benillion sydd yn 'Carol y BIwch' ar garreg fedd eu tad, Henry Richard Parry, ym mynwent Gorffwysfa, Llanllyfni. Cefais eu caniatad i godi'r ddwy linell, a dyma hwy: | |||
'Mae'r bedd yn dy goleu mae'r lamp yn y gell, | 'Mae'r bedd yn dy goleu mae'r lamp yn y gell, | ||
I’r saint i ail wisgo cyn mynd i le gwell.' | I’r saint i ail wisgo cyn mynd i le gwell.' | ||
A dyna Huw a Harri Parry, Liverpool House, dau gefnder i fy nhad, ond dim perthynas â theulu'r Bermo. Cofiaf hwy pan oeddwn yn blentyn yn canu 'Carol y BIwch' a'm hewyrth Harri yn dobio llawr yr Eglwys efo'i ffon i gadw amser. (Roedd D'ewyrth Harri yn defnyddio'i ffon am ei fod yn gloff - crydcymalau arno.) Canu yn ddigyfeiliant fyddai'r drefn adeg hynny, a'r Eglwys yn orlawn o bobl. | A dyna Huw a Harri Parry, Liverpool House, dau gefnder i fy nhad, ond dim perthynas â theulu'r Bermo. Cofiaf hwy pan oeddwn yn blentyn yn canu 'Carol y BIwch' a'm hewyrth Harri yn dobio llawr yr Eglwys efo'i ffon i gadw amser. (Roedd D'ewyrth Harri yn defnyddio'i ffon am ei fod yn gloff - crydcymalau arno.) Canu yn ddigyfeiliant fyddai'r drefn adeg hynny, a'r Eglwys yn orlawn o bobl. | ||
Hir y parhao y canu arbennig, a'r amser arbennig, sef canu carolau ar fore'r Nadolig yn Eglwys Llanllyfni. Mae'n anodd dychmygu am un dull gwell o ddechrau dathlu'r Ŵyl. | Hir y parhao y canu arbennig, a'r amser arbennig, sef canu carolau ar fore'r Nadolig yn Eglwys Llanllyfni. Mae'n anodd dychmygu am un dull gwell o ddechrau dathlu'r Ŵyl. | ||
Carwn ychwanegu fod Maldwyn Parry, yr enillydd cenedlaethol hysbys, yn wyr i'r dywededig John Parry, Clochydd. Ef yn cadw traddodiad y teulu yn fyw, trwy arwain a hyfforddi partion ar gyfer gwasanaeth y Plygain bob blwyddyn. Ef hefyd yw organydd Eglwys Sant Rhedyw, ac yn weithgar iawn gyda chaniadaeth y cysegr yno. | Carwn ychwanegu fod Maldwyn Parry, yr enillydd cenedlaethol hysbys, yn wyr i'r dywededig John Parry, Clochydd. Ef yn cadw traddodiad y teulu yn fyw, trwy arwain a hyfforddi partion ar gyfer gwasanaeth y Plygain bob blwyddyn. Ef hefyd yw organydd Eglwys Sant Rhedyw, ac yn weithgar iawn gyda chaniadaeth y cysegr yno. | ||
I'w barhau | I'w barhau |
Fersiwn yn ôl 12:09, 25 Ebrill 2018
Mae darlun godidog o'r traddodiad byw wedi cael ei greu gan Catherine Parry yn ei hatgofion, a ysgrifennwyd ym 1989:
Arferwn fynd i Eglwys Sant Rhedyw erbyn chwech o'r gloch y bore i wasanaeth y Plygain, ond yn 1970 daeth i fod am saith o'r gloch. Gwasanaeth eglwysig i'r plwyf cyfan - y tair eglwys, Llanllyfni, Penygroes a Thalysarn yn uno i ganu carolau; y gynulleidfa yn canu bob yn ail â’r unawdwyr, deuawdwyr neu bartion, ac ambell i fab neu ferch yn darllen rhan o'r Ysgrythur Lân. Tymor Tangnefedd ac Ewyllys Da. Mae y gair ‘Plygain' ei hun yn deillio o'r gair Lladin, Pullicantus, sef caniad y ceiliog ar doriad y dydd.
Mae cyrchu i Eglwys y Plwyf yn Llanllyfni ar fore'r Nadolig i wasanaeth y Plygain yn hen arferiad. Mentraf ddweud wedi holi rhai o drigolion hynaf yr Eglwys (a neb yn gallu rhoi atebiad pendant) a gwneud ychydig rifyddeg, ei fod tua dau gant oed. Un o nodweddion arbennig Llanllyfni yw'r traddodiad parhaol hwn. Mae'r bedwaredd genhedlaeth o deulu John Parry, y clochydd, a oedd yn cadw Tafarn y Bermo, yn dal i gadw'r traddodiad yn fyw. Byddai dau fab iddo, Pitar a Henry Richard Parry (yr olaf wedi ein gadael yn 1952) yn meddu ar leisiau swynol, fel yr oll o'r teulu. Byddent yn canu deuawd, y naill yn canu tenor a'r llall yn canu'r alaw, a phawb yn mwynhau gwrando amynt, yn arbennig yn canu 'Carol y BIwch', ac yn hollol naturiol mae ei ddwy ferch wedi cael rhoi y ddwy linell olaf o un o res hir o benillion sydd yn 'Carol y BIwch' ar garreg fedd eu tad, Henry Richard Parry, ym mynwent Gorffwysfa, Llanllyfni. Cefais eu caniatad i godi'r ddwy linell, a dyma hwy:
'Mae'r bedd yn dy goleu mae'r lamp yn y gell, I’r saint i ail wisgo cyn mynd i le gwell.'
A dyna Huw a Harri Parry, Liverpool House, dau gefnder i fy nhad, ond dim perthynas â theulu'r Bermo. Cofiaf hwy pan oeddwn yn blentyn yn canu 'Carol y BIwch' a'm hewyrth Harri yn dobio llawr yr Eglwys efo'i ffon i gadw amser. (Roedd D'ewyrth Harri yn defnyddio'i ffon am ei fod yn gloff - crydcymalau arno.) Canu yn ddigyfeiliant fyddai'r drefn adeg hynny, a'r Eglwys yn orlawn o bobl.
Hir y parhao y canu arbennig, a'r amser arbennig, sef canu carolau ar fore'r Nadolig yn Eglwys Llanllyfni. Mae'n anodd dychmygu am un dull gwell o ddechrau dathlu'r Ŵyl.
Carwn ychwanegu fod Maldwyn Parry, yr enillydd cenedlaethol hysbys, yn wyr i'r dywededig John Parry, Clochydd. Ef yn cadw traddodiad y teulu yn fyw, trwy arwain a hyfforddi partion ar gyfer gwasanaeth y Plygain bob blwyddyn. Ef hefyd yw organydd Eglwys Sant Rhedyw, ac yn weithgar iawn gyda chaniadaeth y cysegr yno.
I'w barhau