Bethesda Bach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} | ||
==Cyfeiriadau== | |||
{{cyfeiriadau}} | |||
[[categori:pentrefi a threflannau]] | [[categori:pentrefi a threflannau]] |
Fersiwn yn ôl 08:30, 16 Ebrill 2018
Pentref bychan ym mhlwyf a chymuned Llandwrog ar yr A499, ryw bedwar milltir o Gaernarfon tyw Bethesda Bach. Mae tarddiad yr enw'n rhywfaint o ddirgelwch gan nad oes capel erioed wedi bod yma. Ar fapiau cynharaf yr Arolwg Ordnans, ni enwir y pentref o gwbl. Ychydig o dai oedd wedi eu codi yma ym 1840 yn ôl y map cynharaf, ond erbyn yr arolwg manwl cyntaf, 1888, galwyd y pentref ynBethesda (heb y 'bach'). Erbyn hyn roedd y tai presennol (ond am yr ystad fechan newydd sbon) wedi'u codi. Dim ond ar fap 1914 (a argraffwyd ym 1920) a mapiau mwy diweddar y gwelir yr enw llawn, Bethesda Bach.
Un o'r troeon cyntaf i'r enw ymddangos ar ffurf Bethesda oedd 1841, pan enwyd "Griffith Williams o Fethesda, plwyf Llandwrog, Gweinidog yr Efengyl" mewn gweithred[1]. Yn 1862 ceir sôn am Hugh Jones o Fethesda, Llandwrog, chwarelwr.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma