Hengwm, Clynnog Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 8: Llinell 8:

Erbyn 1841, fodd bynnag, roedd Humphrey Thomas a'i wraig Rachel a'u saith o blant yn byw yn Hengwm. Dengys Cyfrifiad 1851 fod Humphrey Thomas yn ŵr 44 oed a'i wraig yn 38 oed, Roedd Roedd naw o blant ar yr aelwyd erbyn hyn. Roedd Humphrey Thomas yn hen ŵr 74 oed erbyn 1881, a'r plant wedi gadael y nyth, ac eithrio Ellen, a oee yn 28 oed, Mae'n amlwg bod un o'r plant yn byw yn Lerpwl, gan fod 'Rachel Williams, grand daughter, 10, Visitor, Scholar, L'verpool' yn aros yma.

I'w barhau

Fersiwn yn ôl 12:53, 14 Ebrill 2018

Ffermdy ym mhlwyf Clynnog yw Hengwm..

Cyn diddymu'r mynachlogydd ym 1536 roedd Hengwm yn rhan o faenor fynachaidd Cwm a oedd yn eiddo i Abaty Aberconwy. Ceir y cyfeiriad cyntaf at y faenor mewn siarter a roddwyd gan Lywelyn Fawr tua 1201, ond mae'n bosibl ei bod yn rhan o'r tir gwreiddiol a roddwyd ganddo i'r abaty ym 1192.r Ar ôl diddymu'r mychachlogydd aeth y Faenor i ddwylo'r Goro, a'i rhoddodd ar brydles i Syr John Puleston.

Erbyn 1638 roedd Hengwm yn eiddo i William Gruffydd o Gaernarfon a Gruffyth Jines, Castellmarch, Priododd Mary, merch William Gruffydd, âSyr William Williams o'r Faenol. Bu farw Syr William ym 1696, a cheir cyfeiriad at Hengwm yn llyfr rhent Stad y Faenol am y flwyddyn honno. Catrin Siôn oee enw'r tenant. Rhoddwyd Hengwm ar y farchnad gan Stad y Faenol ym 1890 ac eto ym 1907, pan werthwyd rhannau helaeth o dir y stad a oedd ar y cyrion yn Llŷn, ond ymddengys na Chafodd y fferm ei gwerthu hyd 1948, Fe'i prynwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth ar ddiwedd y 1950au, a phlannwyd y gweirgloddiau â choed pin. Rhoddwyd y tŷ a thua 50 acer ar rent i denant, a gwerthwyd yr eiddo hwn gan y Comisiwn ar ddechrau'r 1970au. Dengys Cofnodion y Dreth Dir (1770-1830) fod nifer o denantiaid wedi bod yn ffermio yn Hengwm yn eu tro: Edward Owen (1779-71); Griffith Edward (1772-83); Griffith Owen (1784-1840); Griffith Robert (1801-02); William Williams (1803); Richard Thomas (1804-1811); Thomas Pritchard (1811-15); Ann Pritchard (1815-1822?); Catherine Pritchard (1820?-30).