Brwydr Brynderwin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Brwydr rhwng Llywelyn ap Gruffydd, sef Llywelyn ein Llyw Olaf a'i frodyr Owain Goch a | Brwydr rhwng Llywelyn ap Gruffydd, sef Llywelyn ein Llyw Olaf a'i frodyr Owain Goch a Dafydd tua chanol mis Mehefin 1255 oedd '''Brwydr Bryn Derwin''' nid nepell o le a elwid yn [[Bwlch Dau Fynydd|Fwlch Dau Fynydd]].<ref>Bu'r hanesydd John Davies yn darlithio ar frwydr Bryn Derwin yn Neuadd Bentref Clynnog yn y 1970au ac aeth pawb wedyn i weld y safle. Mae olion y frwydr i'w gweld yn dwmpath mawr ar fferm Terfynau. Hyd y gwyddys nid oes cloddio wedi bod yma.</ref> Roedd anghytuno wedi bod rhwng Llywelyn a'i frodyr Owain a Dafydd ynglŷn â phwy ddylai fod yn olynydd i Dafydd ap Llywelyn Fawr. | ||
Mae Bryn Derwin yn ucheldir plwyf [[Clynnog Fawr]], mae'n debyg (ond gweler isod) er y gallai fod ym mhlwyf [[Llanaelhaearn]]. Yn sicr, mae yng nghantref [[Arfon]] ond heb fod ymhell o'r ffin rhwng y cantref hwnnw ac Eifionydd. Ar ôl brwydr fer ond caled daliwyd a charcharwyd Owain yng Nghastell Dolbadarn a dichon i Dafydd gael ei ddal hefyd er bod y ffynonellau'n anghytuno ar y pwynt hwn.. O ganlyniad i'r frwydr hon daeth Llywelyn yn Dywysog Gwynedd gyda rheolaeth lwyr dros Wynedd Uwch Conwy, sef Môn, Eryri a Phen Llŷn. Roedd y frwydr felly'n allweddol i ymgyrch Llywelyn i fod yn rheolwr dros Gymru gyfan.<ref>J.E. Lloyd, ''A History of Wales'', Cyf. II, (Llundain, 1939), tt.714-5</ref> | Mae Bryn Derwin yn ucheldir plwyf [[Clynnog Fawr]], mae'n debyg (ond gweler isod) er y gallai fod ym mhlwyf [[Llanaelhaearn]]. Yn sicr, mae yng nghantref [[Arfon]] ond heb fod ymhell o'r ffin rhwng y cantref hwnnw ac Eifionydd. Ar ôl brwydr fer ond caled daliwyd a charcharwyd Owain yng Nghastell Dolbadarn a dichon i Dafydd gael ei ddal hefyd er bod y ffynonellau'n anghytuno ar y pwynt hwn.. O ganlyniad i'r frwydr hon daeth Llywelyn yn Dywysog Gwynedd gyda rheolaeth lwyr dros Wynedd Uwch Conwy, sef Môn, Eryri a Phen Llŷn. Roedd y frwydr felly'n allweddol i ymgyrch Llywelyn i fod yn rheolwr dros Gymru gyfan.<ref>J.E. Lloyd, ''A History of Wales'', Cyf. II, (Llundain, 1939), tt.714-5</ref> |
Fersiwn yn ôl 10:54, 14 Ebrill 2018
Brwydr rhwng Llywelyn ap Gruffydd, sef Llywelyn ein Llyw Olaf a'i frodyr Owain Goch a Dafydd tua chanol mis Mehefin 1255 oedd Brwydr Bryn Derwin nid nepell o le a elwid yn Fwlch Dau Fynydd.[1] Roedd anghytuno wedi bod rhwng Llywelyn a'i frodyr Owain a Dafydd ynglŷn â phwy ddylai fod yn olynydd i Dafydd ap Llywelyn Fawr.
Mae Bryn Derwin yn ucheldir plwyf Clynnog Fawr, mae'n debyg (ond gweler isod) er y gallai fod ym mhlwyf Llanaelhaearn. Yn sicr, mae yng nghantref Arfon ond heb fod ymhell o'r ffin rhwng y cantref hwnnw ac Eifionydd. Ar ôl brwydr fer ond caled daliwyd a charcharwyd Owain yng Nghastell Dolbadarn a dichon i Dafydd gael ei ddal hefyd er bod y ffynonellau'n anghytuno ar y pwynt hwn.. O ganlyniad i'r frwydr hon daeth Llywelyn yn Dywysog Gwynedd gyda rheolaeth lwyr dros Wynedd Uwch Conwy, sef Môn, Eryri a Phen Llŷn. Roedd y frwydr felly'n allweddol i ymgyrch Llywelyn i fod yn rheolwr dros Gymru gyfan.[2]
Mae disgrifiad o'r frwydr yn fersiwn Llyfr Coch Hergest o Brut y Tywysogion:
Yn y dyddiau hynny magwyd terfysg mawr a anogwyd gan y Diafol rhwng meibion Gruffudd ap Llywelyn, sef, Owain Goch a Dafydd, ar un ochr, a Llywelyn, ar yr ochr arall. Ac yna arhosodd Llywelyn a’i wyr, gan ymddiried yn Nuw, yn ddiofn ar Fryn Derwin am ddyfodiad ei frodyr, a llu mawr iawn gyda hwy. A chyn pen awr, cipiwyd Owain Goch [Owain ap Gruffudd] a ffodd Dafydd, wedi i lawer o’i lu gael eu lladd, i eraill gael eu cipio a’r gweddill ffoi. Ac yna carcharwyd Owain, a chafodd Llywelyn feddiant ar diriogaeth Owain a Dafydd heb wrthwynebiad iddo. [3]
Cyfeirir at y frwydr mewn cerdd i Lywelyn gan y bardd Llygad Gŵr:
Gwelai wawr ar wŷr lliosydd, Fal gŵr yn gwrthladd cywilydd, A welai Lywelyn, lewenydd - dragon, Yng nghymysg Arfon ac Eifionydd. Nid oedd hawdd, llew aerflawdd lluydd, Ei dreisiaw ger drws Deufynydd.[4]
Mae'r disgrifiad o leoliad y frwydr yn y gerdd uchod yn creu peth dryswch. Honnir gan rai, yn cynnwys neb llai nag Eben Fardd mai Bwlch Mawr yw enw'r bwlch rhwng y ddwy Gurn a'r mynydd a elwir yn Fwlch Mawr ar un ochr a mynyddoedd Crib Nantlle ar y llall, sef y bwlch eang y rhed y ffordd Caernarfon i Borthmadog trwyddo yn ardal Pant-glas. Nodd ef, ac eraill megis y Parch. Peter Bayley Williams, mai'r bwlch rhwng yr Eifl a Moel Penllechog ger pentref Llanaelhaearn yw Bwlch Dau Fynydd. Rhaid felly amau ai yn ardal Pant-glas a safle Brwydr Bron-yr-erw oedd y man lle ymladdodd Llywelyn yn erbyn ei frodyr.[5]
Llyfryddiaeth
J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd: Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986). Pennod II: 'Bryn Derwin'. Ymdriniaeth fanwl ar gefndir y frwydr a'i chanlyniadau.
Cyfeiriadau
- ↑ Bu'r hanesydd John Davies yn darlithio ar frwydr Bryn Derwin yn Neuadd Bentref Clynnog yn y 1970au ac aeth pawb wedyn i weld y safle. Mae olion y frwydr i'w gweld yn dwmpath mawr ar fferm Terfynau. Hyd y gwyddys nid oes cloddio wedi bod yma.
- ↑ J.E. Lloyd, A History of Wales, Cyf. II, (Llundain, 1939), tt.714-5
- ↑ Gwefan Meysydd brwydro Comisiwn Henebion Cymru http://meysyddbrwydro.cbhc.gov.uk/collections/getrecord/402322] Adalwyd 29.03.2018
- ↑ Wicipedia [1] adalwyd 29.03.2018
- ↑ Eben Fardd, Cyff Beuno (Tremadog, 1864), t.31; P.B. Williams, A Tourist's Guide through the County of Caernarvon", (Caernarfon, 1821), t.159