Melinau Afon Llyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
* [[Ffatri wlân Bryn]]. | * [[Ffatri wlân Bryn]]. | ||
* [[Melin-gerrig]], Llanllyfni | * [[Melin-gerrig]], Llanllyfni | ||
* Melin Llanllyfni. | * [[Melin Llanllyfni]]. | ||
* [[Pandy Felin-gerrig]] | * [[Pandy Felin-gerrig]] | ||
* [[Melin Glan-yr-afon]] | * [[Melin Glan-yr-afon]] |
Fersiwn yn ôl 19:47, 9 Ebrill 2018
Roedd melinau Afon Llyfnwy yn bodoli'n bennaf ar gyfer trin llechfaen yr ardal. Nid oes melin yn cael ei chofnodi ym mhen uchaf Dyffryn Nantlle ond gan fod cymaint o gloddio a gorchuddio'r tir wedi digwydd yn sgîl y diwydiant llechi, dichon fod un neu fwy wedi bodoli yno ar un adeg.
Enw'r afon sydd yn rhedeg i lawr Dyffryn Nantlle o Ddrws-y-coed belled â Llyn Nantlle yw Afon Drws-y-coed, ond mewn gwirionedd blaenddŵr Afon Llyfnwy yw hi. Gellid felly cyfrif Melin Stampio Drws-y-coed fel un o felinau Afon Llyfnwy.
Y melinau neu weithfeydd eraill a ddibynnai ar ddŵr yr afon i droi eu peiriannau yn cynnwys (o ben ucha'r afon i gyfeiriad y môr) ac sydd yn ymddangos ar fapiau Ordnans oedd:
- Gwaith Llechi Dorothea, Llanllyfni. Sylwer nad oedd y gwaith hwn wedi ei leoli'n agos at Chwarel Dorothea yn Nhal-y-sarn.
- Ffatri wlân Bryn.
- Melin-gerrig, Llanllyfni
- Melin Llanllyfni.
- Pandy Felin-gerrig
- Melin Glan-yr-afon
- Gwaith Llechi Pont-y-cim
- Melin-y-cim, Pontlyfni.
Gweler tudalenni ar wahân am fanylion pob melin, trwy glicio ar yr enw yn y rhestr uchod. Rhestrir holl felinau oedd ar ddwy lan yr afon, er bod glan ddwyreiniol yng nghwmwd Isgwyrfai.