Tafarn Pen Nionyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Tafarn Pennionyn''' wedi bod yn enw answyddogol ar y Llanfair Arms Hotel yn [[Y Groeslon]] ers blynyddoedd lawer, ond yn ystod y 1980au, wedi clywed yr esboniad arferol ar yr enw, fe fabwysiadodd Marston's, y bragdy oedd yn berchen ar y dafarn, yn enw fel enw swyddogol. Codwyd y dafarn wrth y groesffordd (sef y groeslon) wreiddiol yn ystod y 19g, efallai yn sgil agor [[Gorsaf reilfgfordd y Groeslon]]. Fe gafodd ei henw gwreiddiol o'r ffaith ei bod yn sefyll ar dir tyddyn Talar Siencyn oedd yn eiddo i Ystâd Plas Llanfair-isgaer, perchenogion sawl fferm yng nghyffiniau'r Groeslon ar y pryd.
Mae '''Tafarn Pen Nionyn''' wedi bod yn enw answyddogol ar y Llanfair Arms Hotel yn [[Y Groeslon]] ers blynyddoedd lawer, ond yn ystod y 1980au, wedi clywed yr esboniad arferol ar yr enw, fe fabwysiadodd Marston's, y bragdy oedd yn berchen ar y dafarn, yn enw fel enw swyddogol. Codwyd y dafarn wrth y groesffordd (sef y groeslon) wreiddiol yn ystod y 19g, efallai yn sgil agor [[Gorsaf reilffordd Y Groeslon]]. Fe gafodd ei henw gwreiddiol o'r ffaith ei bod yn sefyll ar dir tyddyn Talar Siencyn oedd yn eiddo i Ystâd Plas Llanfair-isgaer, perchenogion sawl fferm yng nghyffiniau'r Groeslon ar y pryd.


Daw'r enw Pennionyn o'r stori fod tafarnwr oedd arfer cadw'r lle yn meddu ar ben crwn oedd yn gwbl moel a sgleiniog, ac felly yn debyg i nionyn! Mae lle i amau'r stori gan nad yw'r dafarn mor hen â hynny a gellid disgwyl y byddai rhywrai yn yr ardal wedi clywed pwy ydoedd. Esboniad rhai mwy pwyllog yw bod yr enw yn llurgeiniad o'r gair ''Pen Lôn Glyn'', gan fod y lôn sydd yn troi wrth dalcen y dafarn yn mynd i lawr Allt Cefn Glyn i gyfeiriad [[Groeslon Ffrwd]].
Yn sicr, roedd yn agored erbyn 1841, gan fod trwydded wedi ei rhoi y flwyddyn honno, a Margaret Williams yn cadw'r lle. Hi oedd yno yn 1851 hefyd ond erbyn 1861 Owen Williams sydd yno, ac yn cyfuno'r gwaith o fod yn dafarnwr efo ffarmio. W>M> Williams oedd yn cadw'r dafarn yn 1881 ac 1891, ond roedd Owen Williams yn dal yn berchennog.
 
Daw'r enw Pen Nionyn o'r stori fod dyn o'r enw Owen Rowlands  yn cadw'r lle rywbryd ar ôl 1900. Roedd o'n meddu ar ben crwn oedd yn gwbl moel a sgleiniog, ac felly yn debyg i nionyn! Esboniad rhai mwy pwyllog yw bod yr enw yn llurgeiniad o'r gair ''Pen Lôn Glyn'', gan fod y lôn sydd yn troi wrth dalcen y dafarn yn mynd i lawr Allt Cefn Glyn i gyfeiriad [[Groeslon Ffrwd]].
 
Yn ystod y ganrif ddiwethaf ceisiwyd ehangu sgôp y fusnes rywfaint trwy renti stablau i'r rhai oedd â cheffyl, gan gynnwys Dan Eames, Siop Isaf; gwerthwyd motobeics yno gan fab Owen Rowlands, Huw; ac am gyfnod roedd modd gwefru batris radios di-wifr yno hefyd.


{{eginyn}}
{{eginyn}}


[[Categori:Tafarnau nodedig]]
[[Categori:Tafarnau nodedig]]

Fersiwn yn ôl 19:22, 9 Ebrill 2018

Mae Tafarn Pen Nionyn wedi bod yn enw answyddogol ar y Llanfair Arms Hotel yn Y Groeslon ers blynyddoedd lawer, ond yn ystod y 1980au, wedi clywed yr esboniad arferol ar yr enw, fe fabwysiadodd Marston's, y bragdy oedd yn berchen ar y dafarn, yn enw fel enw swyddogol. Codwyd y dafarn wrth y groesffordd (sef y groeslon) wreiddiol yn ystod y 19g, efallai yn sgil agor Gorsaf reilffordd Y Groeslon. Fe gafodd ei henw gwreiddiol o'r ffaith ei bod yn sefyll ar dir tyddyn Talar Siencyn oedd yn eiddo i Ystâd Plas Llanfair-isgaer, perchenogion sawl fferm yng nghyffiniau'r Groeslon ar y pryd.

Yn sicr, roedd yn agored erbyn 1841, gan fod trwydded wedi ei rhoi y flwyddyn honno, a Margaret Williams yn cadw'r lle. Hi oedd yno yn 1851 hefyd ond erbyn 1861 Owen Williams sydd yno, ac yn cyfuno'r gwaith o fod yn dafarnwr efo ffarmio. W>M> Williams oedd yn cadw'r dafarn yn 1881 ac 1891, ond roedd Owen Williams yn dal yn berchennog.

Daw'r enw Pen Nionyn o'r stori fod dyn o'r enw Owen Rowlands yn cadw'r lle rywbryd ar ôl 1900. Roedd o'n meddu ar ben crwn oedd yn gwbl moel a sgleiniog, ac felly yn debyg i nionyn! Esboniad rhai mwy pwyllog yw bod yr enw yn llurgeiniad o'r gair Pen Lôn Glyn, gan fod y lôn sydd yn troi wrth dalcen y dafarn yn mynd i lawr Allt Cefn Glyn i gyfeiriad Groeslon Ffrwd.

Yn ystod y ganrif ddiwethaf ceisiwyd ehangu sgôp y fusnes rywfaint trwy renti stablau i'r rhai oedd â cheffyl, gan gynnwys Dan Eames, Siop Isaf; gwerthwyd motobeics yno gan fab Owen Rowlands, Huw; ac am gyfnod roedd modd gwefru batris radios di-wifr yno hefyd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma