Syr Ifor Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 7: Llinell 7:
Wedi gwella aeth i Ysgol Clynnog yn 1901 fel ymgeisydd am y weinidogaeth gyda’r Methodistiaid Calfinaidd, ac i Goleg Bangor yn 1902 a graddio mewn Groeg yn 1905 ac yna yn y Gymraeg yn 1906. Yn ystod y sesiwn 1906-7 bu’n gynorthwywr i John Morris-Jones yn yr Adran Gymraeg ac yn gweithio ar radd MA. Penodwyd ef yn Ddarlithydd Cynorthwyol yn y Gymraeg yn 1907, a chafodd Gadair bersonol yn 1920. Ymddeolodd yn 1947, a bu farw 4 Tachwedd 1965.

Ei brif faes ymchwil oedd yr  Hengerdd, sef y farddoniaeth gynharaf yn Gymraeg, a gysylltir ag enwau Aneirin, Taliesin a Llywarch Hen, a rhai cerddi eraill dienw. Gweithiodd yn ddi-fwlch ar gerdd Aneirin, ''Y Gododdin'', rhwng 1906 a 1938. Ystyrir ei  lyfrau yn orchestwaith: <ref>''Canu Aneirin'' (1938),</ref> ''Canu Llywarch Hen'' (1953), a  ''Chanu Taliesin'' (1960).
Ei brif faes ymchwil oedd yr  Hengerdd, sef y farddoniaeth gynharaf yn Gymraeg, a gysylltir ag enwau Aneirin, Taliesin a Llywarch Hen, a rhai cerddi eraill dienw. Gweithiodd yn ddi-fwlch ar gerdd Aneirin, ''Y Gododdin'', rhwng 1906 a 1938. Ystyrir ei  lyfrau yn orchestwaith: ''Canu Aneirin'' (1938),<ref>Yn 1952 cyhoeddwyd argraffiad newydd dan olygyddiaeth Thomas Parry.</ref> ''Canu Llywarch Hen'' (1953), a  ''Chanu Taliesin'' (1960).

Cyhoeddodd gannoedd o nodiadau ar ystyron geiriau yn ei lyfrau ac ym ''Mwletin y Bwrdd Celtaidd'' ac yn fynych byddai’n tynnu sylw at eiriau cyfatebol yn yr ieithoedd Celtaidd eraill.  Y mae’r nodiadau hyn yn amhrisiadwy, nid yn unig i bawb sy’n gweithio ar hen destun ond i ysgolheictod Cymraeg yn gyffredinol.  Ymddiddorai yn fawr mewn enwau lleoedd. Cyhoeddodd gyfres o erthyglau ar enwau lleoedd ardal Bethesda yn y papur lleol, ''Y Gwyliwr'', yn 1907 a chyhoeddodd y gyfrol ''Enwau Lleoedd'' (1945).

Gwaith arall amhrisiadwy a wnaeth oedd cynhyrchu defnydd darllen i ysgolion a cholegau, e.e. ''Breuddwyd Maxen'' (1908), ''Cyfranc Lludd a Llevelys'' (1910), ''Chwedlau Odo'' (1926), ''Pedair Cainc y Mabinogi'' (1930). Yn 1914 cyhoeddodd ddetholiad o gywyddau Dafydd ap Gwilym a’i gyfoeswyr ar y cyd â <ref>Thomas Roberts.</ref>
Gwaith arall amhrisiadwy a wnaeth oedd cynhyrchu defnydd darllen i ysgolion a cholegau, e.e. ''Breuddwyd Maxen'' (1908), ''Cyfranc Lludd a Llevelys'' (1910), ''Chwedlau Odo'' (1926), ''Pedair Cainc y Mabinogi'' (1930). Yn 1914 cyhoeddodd ddetholiad o gywyddau Dafydd ap Gwilym a’i gyfoeswyr ar y cyd â Thomas Roberts.<ref>Am ragor o fanylion am ei gyhoeddiadau ayb gweler Y Bywgraffiadur Cymreig

Yr oedd yn ddarlledwr poblogaidd ar y radio a chyhoeddwyd rhai o’i sgyrsiau :  ''Meddwn i'' (1946), ''I ddifyrru’r Amser'' (1959) a ''Meddai Syr Ifor'' (1968).
Yr oedd yn ddarlledwr poblogaidd ar y radio a chyhoeddwyd rhai o’i sgyrsiau :  ''Meddwn i'' (1946), ''I ddifyrru’r Amser'' (1959) a ''Meddai Syr Ifor'' (1968).

Priododd â Myfanwy Jones, Cae-glas, <ref>Pontlyfni,</ref> yn 1913.  Roedd ganddynt ferch a mab.  Bu farw 4 Tachwedd 1965 a chladdwyd ef ym mynwent Brynaerau.
Priododd â Myfanwy Jones, Cae-glas,<ref>Pontlyfni,</ref>Pontlyfni yw'r ffordd gywir o ysgrifennu'r enw hwn yn &ocirc;l Ifor Williams yn hytrach na Phontllyfni ond gan mai Pontllyfni a ddywedir ar lafar dyna'r enw a arferir heddiw.</ref> yn 1913.  Roedd ganddynt ferch a mab.  Bu farw 4 Tachwedd 1965 a chladdwyd ef ym mynwent Brynaerau.

Fersiwn yn ôl 17:07, 2 Ebrill 2018

Syr Ifor Williams

Ysgolhaig athrylithgar oedd Ifor Williams (1881-1965).

Ganed ym Mhendinas, Tre-garth, Arfon, 16 Ebrill 1881. Bu yn Ysgol Friars ym Mangor am flwyddyn yn unig gan iddo anafu ei gefn a’i gaethiwo i’r gwely am rai blynyddoedd.

Wedi gwella aeth i Ysgol Clynnog yn 1901 fel ymgeisydd am y weinidogaeth gyda’r Methodistiaid Calfinaidd, ac i Goleg Bangor yn 1902 a graddio mewn Groeg yn 1905 ac yna yn y Gymraeg yn 1906. Yn ystod y sesiwn 1906-7 bu’n gynorthwywr i John Morris-Jones yn yr Adran Gymraeg ac yn gweithio ar radd MA. Penodwyd ef yn Ddarlithydd Cynorthwyol yn y Gymraeg yn 1907, a chafodd Gadair bersonol yn 1920. Ymddeolodd yn 1947, a bu farw 4 Tachwedd 1965.

Ei brif faes ymchwil oedd yr Hengerdd, sef y farddoniaeth gynharaf yn Gymraeg, a gysylltir ag enwau Aneirin, Taliesin a Llywarch Hen, a rhai cerddi eraill dienw. Gweithiodd yn ddi-fwlch ar gerdd Aneirin, Y Gododdin, rhwng 1906 a 1938. Ystyrir ei lyfrau yn orchestwaith: Canu Aneirin (1938),[1] Canu Llywarch Hen (1953), a Chanu Taliesin (1960).

Cyhoeddodd gannoedd o nodiadau ar ystyron geiriau yn ei lyfrau ac ym Mwletin y Bwrdd Celtaidd ac yn fynych byddai’n tynnu sylw at eiriau cyfatebol yn yr ieithoedd Celtaidd eraill. Y mae’r nodiadau hyn yn amhrisiadwy, nid yn unig i bawb sy’n gweithio ar hen destun ond i ysgolheictod Cymraeg yn gyffredinol. Ymddiddorai yn fawr mewn enwau lleoedd. Cyhoeddodd gyfres o erthyglau ar enwau lleoedd ardal Bethesda yn y papur lleol, Y Gwyliwr, yn 1907 a chyhoeddodd y gyfrol Enwau Lleoedd (1945).

Gwaith arall amhrisiadwy a wnaeth oedd cynhyrchu defnydd darllen i ysgolion a cholegau, e.e. Breuddwyd Maxen (1908), Cyfranc Lludd a Llevelys (1910), Chwedlau Odo (1926), Pedair Cainc y Mabinogi (1930). Yn 1914 cyhoeddodd ddetholiad o gywyddau Dafydd ap Gwilym a’i gyfoeswyr ar y cyd â Thomas Roberts.Gwall cyfeirio: Mae tag clo </ref> ar goll ar gyfer y tag <ref>Pontlyfni yw'r ffordd gywir o ysgrifennu'r enw hwn yn ôl Ifor Williams yn hytrach na Phontllyfni ond gan mai Pontllyfni a ddywedir ar lafar dyna'r enw a arferir heddiw.</ref> yn 1913. Roedd ganddynt ferch a mab. Bu farw 4 Tachwedd 1965 a chladdwyd ef ym mynwent Brynaerau.

Ffynhonellau

  1. Yn 1952 cyhoeddwyd argraffiad newydd dan olygyddiaeth Thomas Parry.