Rhosnenan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4: Llinell 4:


{{eginyn}}
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}


[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]

Fersiwn yn ôl 14:19, 2 Ebrill 2018

Rhosnenan oedd hen enw'r tir lle saif y rhan fwyaf o bentref Y Groeslon heddiw, cyn i'r pentref ei hun gael ei ffurfio a gwmpas yr orsaf a agorwyd gan Reilffordd Nantlle ym 1828. Y pryd hynny, dim ond croesffordd oedd yno lle croesai'r ffordd o Gaernarfon i gyfeiriad [[Dyffryn Nantlle][] y ffordd o'r mynydd i ffermydd llawr gwlad plwyf Llandwrog.

Mae'r elfen Nenan yn parhau mewn nifer o enwau tai uwch i fyny'r allt na'r lôn bost, megis Bryn-nenan a Phenrhos Nenan. ac mae'n glir mai Rhosnennan oedd enw'r tir gweddol wastad ar ben yr allt o bobtu'r ffordd sy'n arwain i gyfeiriad Carmel, a dichon bod yr holl enwau yn y darn hwnnw o'r Groeslon megis Bryn-rhos, Uwchlaw'r Rhos a Chefn Rhos hefyd yn cyfeirio at Rosnenan. Mae llythyr ymysg casgliad archifol Glynllifon yn cyfeirio at denantiaid yr Arglwydd Newborough yn cau darnau ogomin Rhos Nenan at eu defnydd eu hunain. Roedd hyn wedi bod yn mynd ymlaen ers o leiaf 1835.[1] Tir comin agored oedd Rhos Nenan felly yn y lle cyntaf ac yn eiddo i Arglwydd y Cwmwd ac wedyn i frenin Lloegr (neu'r 'goron'), ac mae ambell i ddarn bach yn aros felly - megis Comins Tŷ'n Rhos, ychydig is na chapel Brynrhos. DYma, mae'n bur debyg, pam fod trigolion y tyddynod a'r tai moel ar Ros Nenan wedi cael trafferth i berswadio'r awdurdodau i fabwysiadu'r ffyrdd bach at eu tai - gan fod y lonydd hyn yn rhan o gomin y Goron.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XD2/20981. Llythyr dyddiedig 1844, oddi wrth asiant y Goron.